Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 10

10
Cenadaeth y Deg‐a‐Thriugain.
1Wedi y pethau hyn, penododd#10:1 Llyth.: dangos i fyny, yna, penodi i waith neu swydd. Gwel Act 1:24; Luc 1:80; [gan Luc yn unig]. yr Arglwydd Ddeg‐a‐Thri‐ugain#10:1 Ddeg‐a‐Thri‐ugain א A C L Ti. Tr. Al. Diw.: Ddeuddeg a Thri‐ugain B D La. WH. eraill#10:1 Llyth.: gwahanol (i'r Deuddeg)., ac a'u danfonodd hwy bob yn ddau o flaen ei wyneb i bob Dinas a man, lle yr oedd efe ei hun ar fedr dyfod. 2Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Cynhauaf yn wir sydd fawr#10:2 Llyth.: llawer., ond y gweithwyr yn ychydig: deisyfwch, gan hyny, ar Arglwydd y Cynhauaf i yru#10:2 Llyth.: i fwrw neu wthio allan, yn dangos y dir‐angen am danynt. allan weithwyr i'w Gynhauaf. 3Ewch: wele yr wyf yn eich danfon chwi fel wyn yn nghanol bleiddiaid. 4Na ddygwch gôd#10:4 Ballantion, bathgôd, pwrs. Defnyddir y gair gan Luc yn unig (12:33; 22:35, 36). Defnyddia Marc Zônê, gwregys, yna, côd., nac ysgrepan, na sandalau#10:4 Nid oeddynt i fyned a dau bâr, Na ddygwch, &c., ac na chyferchwch#10:4 Yr oeddynt i fod mewn brys, ac i fod yn daer yn eu gwaith. Yr oedd cyfarchiadau y Dwyrain yn fanwl a hirfaith. [Gwel Thomson: Land and the Book, 2; 24] neb ar hyd y ffordd. 5Ac i ba dŷ bynag yr eloch i mewn gyntaf#10:5 Neu, mewn, dywedwch yn gyntaf., dywedwch, Tangnefedd i'r tŷ hwn#10:5 Y cyfarchiad Dwyreiniol (Barn 19:20).. 6Ac os bydd mab tangnefedd#10:6 Cymharer Mat 23:15; Eph 2:3; “Mab Gëhenna,” “plant digofaint.” yno, eich tangnefedd a orphwys arno, ond os nad ydyw, efe a ddychwel#10:6 Llyth.: a blyg neu a dry yn ol [Salm 35:13]. arnoch chwi. 7Ac yn y tŷ hwn aroswch, gan fwyta ac yfed y pethau a roddir ganddynt#10:7 Gwel 1 Cor 9:4, 7–11.. Canys teilwng y gweithiwr ei gyflog#1 Tim 5:18.. Na symudwch o dŷ i dŷ.
8Ac i ba Ddinas bynag yr eloch i mewn, ac y derbyniont chwi, bwytêwch y pethau a osodir ger eich bron. 9A gwellhêwch y cleifion a fyddo ynddi, a dywedwch wrthynt, Y mae Teyrnas Dduw wedi neshâu atoch#10:9 Llyth.: arnoch. chwi. 10Eithr i ba Ddinas bynag yr eloch, ac nis derbyniant chwi, ewch allan i'w phrif heolydd, a dywedwch, 11Hyd y nod y llwch, yr hwn a lynodd wrthym#10:11 wrth ein traed א B D &c.; Gad. Δ. ar ein traed o'ch Dinas chwi, yr ydym yn ei sychu ymaith yn eich herbyn#10:11 Llyth. i. chwi: er hyny, gwybyddwch hyn: Y mae Teyrnas Dduw wedi agoshâu#10:11 arnoch chwi A C: Gad. א B D L Brnd.. 12Yr wyf yn dywedyd i chwi, y bydd yn fwy goddefadwy i Sodom yn y dydd hwnw, nag i'r Ddinas hono. 13Gwae i ti, Chorazin#10:13 Yma yn unig ac yn yr ymadrodd cyfochrog [Mat 11:21] yr enwir Chorazin.; gwae i ti, Bethsaida: canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol#10:13 Llyth.: y galluoedd. a wnaethpwyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sach‐lian a lludw. 14Bellach, bydd yn fwy goddefadwy i Tyrus a Sidon yn y Farn, nag i chwi. 15A thithau Capernäum, a#10:15 Felly א B D L Brnd.: yr hon a ddyrchafwyd hyd y Nef A C. ddyrchefir di hyd y Nef#10:15 Felly א B D L Brnd.: yr hon a ddyrchafwyd hyd y Nef A C.? Ti a ddisgyni#10:15 a ddisgyni B D WH.: a deflir i lawr א A C Al. Tr. Diw. hyd Hades#10:15 Gwel Mat 16:18. 16Y neb sydd yn eich gwrando chwi sydd yn fy ngwrando i; a'r neb sydd yn eich dibrisio#10:16 Gwel Marc 6:26 chwi sydd yn fy nibrisio i; a'r neb sydd yn fy nibrisio i sydd yn dibrisio yr hwn a'm danfonodd i.
Dychweliad y Deg a Thri‐ugain.
17A dychwelodd y Deg a Thri‐ugain gyd â llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, y mae hyd y nod y cythreuliaid yn ddarostyngedig i ni yn dy enw di. 18Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr oeddwn yn syllu ar Satan, megis mellten wedi syrthio#10:18 Tra yr oeddynt wrth eu gwaith yr oedd yr Iesu yn syllu [amser anmherffaith] ar Satan yn nghwrs ei gwymp, ac hefyd, mewn rhagwelediad eglur, yn ei ganfod wedi cyrhaedd dyfnderoedd ei gosp a'i drueni, h. y. nid yn syrthio, ond wedi syrthio [amser anmhenodol, Aorist]. allan o'r Nef. 19Wele yr ydwyf wedi#10:19 wedi rhoddi א B C L Brnd.: yn rhoddi A D. rhoddi i chwi yr awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau#10:19 Gwel Marc 16:17, 18; Act 28:3–5; Gen 3:15; Rhuf 16:20; Salm 91:13; a thros holl allu y Gelyn; ac ni wna dim niwed o gwbl i chwi. 20Er hyny, yn hyn na lawenhêwch am fod yr ysprydion yn ddarostyngedig i chwi; ond llawenhêwch#10:20 yn hytrach X: Gad. yr holl brif‐law‐ysg. Brnd. am fod eich enwau#10:20 [dim nodyn.] wedi eu hysgrifenu yn y Nefoedd.
Y Tâd yn dadguddio i'r plant, ac yn ymddiried i'r Mab
[Mat 11:25–27]
21Yn yr awr hono, efe#10:21 Yr Iesu A C; Gad. א B D. a ymorfoleddodd#10:21 llawenychu yn ddirfawr [o agan, llawer, a hallomai, dawnsio]. yn#10:21 Neu, trwy. yr Yspryd#10:21 Yspryd Glân א B C D &c., Brnd.: Yspryd A. Glân, ac a ddywedodd, Yr wyf yn cydnabod#10:21 Llyth.: llefaru yr un peth (1) trwy gyffesu, Marc 1:5; “cyffesu eu pechodau,” (2) trwy folianu neu ddiolch, fel yn yr adnod hon a Rhuf 14:11, “y cyffesa (neu y moliana) pob tafod,” o Es 45:23. yn ddiolchgar i ti, O Dâd, Arglwydd y Nef a'r ddaear, am guddio o honot y pethau hyn oddiwrth ddoethion a rhai deallus, a'u dadguddio i fabanod: ie, O Dâd, canys gwneuthur felly oedd dy ewyllys da#10:21 Llyth.: canys felly ydoedd ewyllys da yn dy olwg di.#Es 29:14. 22Pob#10:22 O flaen Pob peth, darllena A C Al. Ti. La. Ac efe a drodd at ei Ddysgyblion, ac a ddywedodd. peth a roddwyd i fyny i mi gan fy Nhâd: ac ni ŵyr neb pwy yw y Mab, ond y Tâd; a phwy yw y Tâd, ond y Mab, a'r hwn yr ewyllysio y Mab ei ddadguddio iddo.
Gwynfydedigrwydd gwybodaeth o Grist
[Mat 13:16–17]
23Ac efe a drôdd at ei Ddysgyblion, ac a ddywedodd o'r neilldu, Gwyn fyd y llygaid sydd yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled: 24canys yr wyf yn dywedyd i chwi, Llawer o Broffwydi a Breninoedd#10:24 Abraham, Gen 20:7; Jacob, Gen 49:18; Dafydd, 2 Sam 23:1–5; Esaiah &c. a chwenychasant weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac nis gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.
Dysgawdwr y Gyfraith yn ei brofi: y Gwir Gymydog.
25Ac wele, rhyw Ddysgawdwr#10:25 Nomikos, un dysgedig yn y Gyfraith; gelwir ef grammateus, ysgrifenydd, Marc 12:28. Dynoda y blaenaf, deonglydd, dysgawdwr, a'r olaf, fel y golyga yr enw, un yn gofalu am burdeb y Gyfraith ysgrifenedig. y Gyfraith a gododd i fyny gan ei brofi#10:25 ekpeirazô, berf gyfansawdd, a ddefnyddir bedair gwaith yn y T. N. yn unig am Dduw, neu am Grist, Mat 4:7; Luc 4:12 (am y Diafol); 1 Cor 10:9 ef i'r eithaf, a dywedyd, Athraw, pa beth a wnaf i etifeddu bywyd Tragywyddol? 26Ac efe a ddywedodd wrtho, Pa beth sydd wedi ei ysgrifenu yn y Gyfraith? pa fodd y darlleni? 27Ac efe a atebodd ac a ddywedodd,
Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw, o'th holl galon, ac â'th#10:27 en, gyd â, â, א A B D L Brnd.: ex, allan o, o, A C. holl enaid, ac â'th#10:27 en, gyd â, â, א A B D L Brnd.: ex, allan o, o, A C. holl nerth, ac â'th#10:27 en, gyd â, â, א A B D L Brnd.: ex, allan o, o, A C. holl feddwl: a'th gymydog fel ti dy hun#Deut 6:5; 10:12; Lef 19:18.
28Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a atebaist yn gywir: gwna hyn#10:28 hyn. Diamheu fod y gorchymynion hyn yn ysgrifenedig ar phylacter y Cyfreithiwr, ac i Grist gyfeirio ei fys atynt. a byw fyddi. 29Ond efe yn benderfynol i gyfiawnhâu ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymydog? 30Ac efe gan ateb#10:30 Llyth.: gan gymmeryd i fyny yr ymddiddan. a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i waered#10:30 Yr oedd y ffordd yn 21 o filldiroedd. Gelwid hi “Y Ffordd Waedlyd.” Yr oedd Jericho 600 troedfedd yn is na Jerusalem. o Jerusalem i Jericho, ac a syrthiodd yn mysg ysbeilwyr, y rhai a'i diosgasant ef, ac a'i curasant#10:30 Llyth.: ac a osodasant ddyrnodiau arno. Cyfieithir dyrnodiau, ergydion, yn bläau yn Dad 15:1, 6, 8. ef, ac a aethant ymaith, ac a'i gadawsant yn haner marw#10:30 yn ddygwyddiadol [tungchanonta] A C: Gad. א B D L Brnd.. 31Ac ar gyd‐ddygwyddiad#10:31 Ni ddygwydd y gair tuchê, damwain, hap, ffawd. Ni ŵyr yr Ysgrifenwyr Ysprydoledig ddim am Ffawd., rhyw Offeiriad oedd yn myned i waered y ffordd hono; a phan y gwelodd ef, efe a aeth heibio o'r tu arall. 32Ac yn gyffelyb Lefiad hefyd, wedi dyfod i waered i'r lle, a gweled, a aeth heibio o'r tu arall. 33Ond rhyw Samariad#10:33 Galwodd yr Iuddewon yr Iesu yn Samariad [Ioan 8:48]., yn ymdeithio, a ddaeth i waered ato ef; a phan y gwelodd#10:33 ef A C D: Gad. א B L., efe a dosturiodd, 34ac a ddaeth ato, ac a rwymodd ei archollion ef, gan barhâu i dywallt arnynt olew a gwin#10:34 Gwel Es 1:6; Marc 6:13; Iago 5:14, ac a'i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a'i harweiniodd ef i'r Gwest‐dy#10:34 Pandocheion, llyth.: Derbynfa i bawb; llety'r Cyhoedd. Yma yn unig yn y T. N. Kataluma, lle i ollwng yn rhydd, gorphwysfan, a ddefnyddir yn 2:7. Gwel yno., ac a gymmerodd ofal am dano. 35A thua thranoeth#10:35 wrth fyned ymaith A C; Gad. א B D L Brnd., efe a dynodd#10:35 Llyth.: a daflodd allan. allan ddwy ddenarion#10:35 Gwel Mat 18:28, ac a'u rhoddodd i berchenog y gwest‐dŷ, ac a ddywedodd#10:35 wrtho A C: Gad. א B D L., Gofala am dano, a pha beth bynag a dreuli yn ychwaneg, myfi, pan ddychwelwyf, a dalaf yn ol i ti. 36Pwy#10:36 gan hyny A C D [Tr.] Gad. א B L Al. WH. Diw. o'r tri hyn, a ymddengys i ti sydd wedi bod yn gymydog i'r hwn a syrthiodd i blith ysbeilwyr? 37Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd âg ef. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos, a gwna dithau yr un modd.
Y Rhan dda — y peth angenrheidiol.
38Pan#10:38 A bu A C D: Gad. א B L. yr oeddynt hwy yn ymdeithio, efe a ddaeth i mewn i ryw bentref; a rhyw wraig o'r enw Martha a'i croesawodd ef i'w thŷ. 39Ac i hon yr oedd chwaer a'i henw Mair, yr hon hefyd a eisteddodd yn ymyl wrth draed yr Arglwydd#10:39 Arglwydd א B C D L Brnd.: Jesu A., ac a wrandawodd ei air ef. 40A Martha a drallodwyd#10:40 Llyth.: tynu oddi amgylch, h. y. llawer o bethau o'i deutu yn tynu ei sylw, tra yr oedd meddwl Mair yn canol‐bwyntio yn Nghrist: yna, ymddyrysu, croesdynu, cythruddo, aflonyddu. Yma yn unig yn y T. N. [Gwel y rhagferf yn 1 Cor 7:35, “dyfal lynu wrth yr Arglwydd yn ddiwahân”]. ynghylch gweini llawer arno: a hi gan sefyll i fyny#10:40 Neu, a ddaeth i fyny [yn sydyn] Gwel Act 4:1; 23:27; Luc 2:9. Golyga sefyll yn ymyl [Act 22:20]: sefyll drosodd [Luc 4:39]; dyfod ar neu yn sydyn [Luc 21:34]; bod yn bresenol [Act 28:2]; bod yn agos [2 Tim 4:6]. Efallai y golyga yma sefyll i fyny dros, sef uwchben Mair, fel yr eisteddai wrth draed Crist. a ddywedodd, Arglwydd, Ai nid wyt ti yn gofalu fod fy chwaer wedi fy ngadael i yn hollol wrthyf fy hun i wasanaethu? Gan hyny, dywed wrthi, am gymmeryd ei rhan#10:40 Sunantilambanô, cymmeryd gafael gyd âg, gwneyd rhan gyd âg, felly, cynorthwyo. Yma ac yn Rhuf 8:26, “yr Yspryd yn cynorthwyo ein gwendid ni” — yr Yspryd yn gwneyd ei ran. gyd â mi. 41A'r Arglwydd#10:41 Arglwydd א B L Ti. WH. Diw.: Jesu A C Al. Tr. La. a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Martha, Martha, yr wyt ti yn bryderus a chythryblus#10:41 Neu, trallodus, ffwdanus. ynghylch llawer o bethau: 42ond am un y mae angen: a Mair a ddewisodd y rhan#10:42 Megys o wledd [Ioan 6:27], neu o etifeddiaeth [Salm 73:26; 16:5]. dda, yr hon ni ddygir oddiarni.

Dewis Presennol:

Luc 10: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda