Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 13

13
Darlun o gariad, a gwers mewn gostyngeiddrwydd.
1A chyn#13:1 Yn debygol, yn hwyr Nisan 14eg. Cyfeiria ‘A chyn’ at y dygwyddiadau a ddylynasant, ac nid at ‘yn gwybod.’ Gŵyl y Pasc, yr Iesu yn gwybod ddyfod ei Awr ef fel y symudai#13:1 metabainô, myned trosodd, symud o un man i'r llall, o un cylch i gylch arall. Yma yn unig. allan o'r byd hwn at y Tâd, wedi caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd, a'u carodd hwynt i'r eithaf#13:1 eis telos: golyga naill ai (1) i'r diwedd, i ddiwedd ei oes ddaearol, &c., (2) ar y diwedd; efe a roddodd brawf neu amlygiad o'i gariad ar ddiwedd ei oes, [gweler Luc 18:5]. (3) i'r eithaf, yn hollol, yn berffaith. Y llymaf ei brawf, y cryfaf ei gariad at ei eiddo; y creulonaf ei ing, y tyneraf ei serch. [Salm 12:1; 16:2; 74:3; Amos 9:8]. Ymddengys (3) y mwyaf tebygol.: ac ar#13:1 ar adeg [ginomenou] א B L X Ti. Tr. WH.; wedi dechreu, yn ystod [genomenou. Ni olyga hwn, wedi gorphen, canys nid oedd y swper wedi gorphen, yn ol adnodau 12 a 26] A D La. Al. adeg#13:1 Yr oedd y swper ar ddechreu. swper, 2wedi i'r Diafol eisioes roi#13:2 Llyth.: fwrw i galon, gan ddangos grym a thrawsder y brofedigaeth. Esbonia Meyer roi yn nghalon y Diafol, ac nid yn eiddo Judas! yn nghalon Judas, mab Simon, yr Iscariot, i'w fradychu ef; 3efe, yn gwybod roddi o'r Tâd bob peth yn ei ddwylaw ef, a dyfod o hono allan oddi wrth Dduw, a'i fod yn myned ymaith at Dduw, 4sydd yn codi oddi wrth y swper, ac a rydd heibio ei ar‐wisgoedd#13:4 ei wisgoedd uchaf, sef, ei gochl, y gwregys, &c., ac a gymmerodd dywel#13:4 linteon [gair Lladin, linteum], yma ac adnod 5., ac a ymwregysodd: 5yna y mae yn tywallt dwfr i'r cawg#13:5 Niptêr [o niptô, golchi], cawg, yn gyffredin o gopr. Yma yn unig yn y T. N., ac a ddechreuodd olchi#13:5 Niptô, golchi, megys rhan o'r corff, dwylaw, traed, pen, &c. Gweler Es 52:7; Rhuf 10:15. Nid oes dim i ategu y traddodiad iddo ddechreu gyd â Judas. Y mae yn debygol iddo ddechreu gyd â Petr. traed y Dysgyblion, a'u sychu â'r tywel, â'r hwn yr oedd efe wedi ei wregysu.
Ymddadliad Petr a bradwriaeth Judas.
6Y mae efe yn dyfod gan hyny at Simon Petr. Y mae efe yn dywedyd wrtho, Arglwydd, a wyt ti#13:6 Y mae ti a fy y nesaf i'w gilydd: ‘ti fy nhraed yn eu golchi.’ Y mae Petr yn awgrymu ei fod ef yn gwybod, ond nad oedd Crist yn gwybod, pa beth yr oedd yn ei wneuthur. yn golchi fy#13:6 Y mae ti a fy y nesaf i'w gilydd: ‘ti fy nhraed yn eu golchi.’ Y mae Petr yn awgrymu ei fod ef yn gwybod, ond nad oedd Crist yn gwybod, pa beth yr oedd yn ei wneuthur. nhraed i? 7Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost#13:7 oida, gwybod yn uniongyrchol, a ginôskô, gwybod trwy ddysgu, sylwadaeth, &c., dyfod i wybod. ti yr awrhon, ond ti a ddeui i wybod#13:7 oida, gwybod yn uniongyrchol, a ginôskô, gwybod trwy ddysgu, sylwadaeth, &c., dyfod i wybod. ar ol y pethau hyn#13:7 Ar ol dysgeidiaeth ad 13–17, yn rhanol, ond yn hollol ar ol disgyniad yr Yspryd.. 8Petr a ddywed wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i o gwbl yn dragywydd. Yr Iesu a atebodd iddo, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyd â myfi#13:8 Y ffordd i'r Deyrnas yw trwy Ddyffryn Gostyngeiddrwydd ac ar hyd llwybr Gwasanaeth cariadlawn.. 9Simon Petr a ddywed wrtho, Arglwydd, nid fy nhraed yn unig, ond hefyd fy nwylaw a'm pen. 10Dywed yr Iesu wrtho, Yr hwn sydd wedi ymdrochi#13:10 Golyga louô olchi yr holl gorff — golyga niptô olchi rhan o hono, megys y gwyneb, y dwylaw, &c. Gellir gwneyd y blaenaf drwy suddo yr holl gorff mewn dwfr, neu trwy gymhwyso dwfr at yr holl gorff. Felly gosodir allan ystyr y ferf hon gan y gair ‘ymdrochi.’ Wedi bod yn ymdrochi, yr unig ran o'r corff mewn perygl o'i halogi yw y traed; felly dywedodd ein Harglwydd, “Yr hwn a ymdrocha (neu a drochir), nid rhaid iddo ond golchi ei draed, eithr y mae yn lân oll.” Plunô a ddefnyddir am olchi pethau, megys rhwydau, &c. Gweler hefyd Eph 5:26; Titus 3:5; Heb 10:22., nid rhaid iddo olchi#13:10 Golyga louô olchi yr holl gorff — golyga niptô olchi rhan o hono, megys y gwyneb, y dwylaw, &c. Gellir gwneyd y blaenaf drwy suddo yr holl gorff mewn dwfr, neu trwy gymhwyso dwfr at yr holl gorff. Felly gosodir allan ystyr y ferf hon gan y gair ‘ymdrochi.’ Wedi bod yn ymdrochi, yr unig ran o'r corff mewn perygl o'i halogi yw y traed; felly dywedodd ein Harglwydd, “Yr hwn a ymdrocha (neu a drochir), nid rhaid iddo ond golchi ei draed, eithr y mae yn lân oll.” Plunô a ddefnyddir am olchi pethau, megys rhwydau, &c. Gweler hefyd Eph 5:26; Titus 3:5; Heb 10:22. ond#13:10 ond ei draed א B C Brnd. ond Ti.; gad. Ti. ei draed, eithr y mae yn lân oll: ac yr ydych chwi yn lân, eithr nid pawb oll. 11Canys efe a adwaenai yr hwn oedd yn ei fradychu ef: am hyny y dywedodd efe, Nid ydych chwi oll yn lân.
Yr Athraw a'r Dysgybl.
12Gan hyny wedi iddo olchi eu traed hwy, a#13:12 … || א B C L Brnd.; efe a gymmerodd … gan eistedd, ac a ddywedodd A. chymmeryd ei ar‐wisgoedd, ac eistedd#13:12 anapesen, syrthio yn ol, eistedd i fwyta. drachefn wrth y bwrdd, efe a ddywedodd#13:12 … || א B C L Brnd.; efe a gymmerodd … gan eistedd, ac a ddywedodd A. wrthynt, A ydych yn gwybod#13:12 A ydych yn deall, wedi dyfod i wybod [ginoskete]? pa beth yr wyf wedi ei wneuthur i chwi? 13Yr ydych chwi yn fy ngalw i, Yr Athraw, ac, Yr Arglwydd#13:13 Neu, O Athraw, ac, O Arglwydd, [Gwel Mat 11:26; Marc 5:41; Ioan 19:3].; a da y dywedwch: canys y cyfryw wyf fi. 14Os myfi gan hyny, yr Arglwydd a'r Athraw, a olchais eich traed chwi, chwithau hefyd a ddylech olchi traed eich gilydd: 15canys esiampl#13:15 hupodeigma [yn yr awduron clasurol, paradeigma], yr hyn a ddangosir dan, fel cynllun yr arch‐adeiladydd neu gynddelw yr arlunydd neu y cerfiedydd. Cyfieithir tupos hefyd esiampl [1 Cor 10:6, 11; Phil 3:17; 1 Thess 1:7, &c.] Golyga argraff a adewir gan yr hyn a darewir [tuptô:] ‘ol yr hoelion’ Ioan 20:25; yr argraff ar arian, cofadail, delw, ffugyr, &c. a roddais i chwi, fel megys y gwneuthum i i chwi y gwnewch chwithau hefyd. 16Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, nid yw gwas yn fwy na'i arglwydd, nac un a ddanfonir#13:16 Neu, Apostol. yn fwy na'r hwn a'i danfonodd. 17Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwynt.
Y Bradychiad
[Mat 26:20–25; Marc 14:17–21; Luc 22:21–23]
18Nid wyf yn llefaru am danoch oll: mi a wn pwy rai a etholais#13:18 i fod yn Apostolion.: a hyn a wnaethpwyd fel y cyflawnid yr Ysgrythyr, —
Yr hwn sydd yn bwyta#13:18 trôgô, y ferf a ddefnyddia Crist pan yn llefaru am fwyta ei gnawd [6:54]. Awgryma fod Judas wedi cyfranogi o'r Swper. Y mae y dyfyniad yn debycach i'r Hebraeg na Groeg y LXX., ond y mae yn gwahaniaethu oddiwrth y ddau. fy#13:18 fy mara B C L Tr. Al. WH. Diw.: bara gyd â mi א A D La. Ti. mara
A gododd ei sawdl yn fy erbyn i#Salm 41:9.
19O'r pryd hwn yr wyf yn dywedyd i chwi cyn ei ddyfod, fel y credoch, pan y daw, mai myfi yw efe. 20Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn derbyn neb a ddanfonwyf, sydd yn fy nerbyn i; a'r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd i.
21A'r Iesu yn dywedyd y pethau hyn, efe a gynhyrfwyd yn yr yspryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Un o honoch a'm bradycha i. 22Yr oedd y Dysgyblion yn edrych ar#13:22 gan hyny א A D L Ti. Al. WH.: gad. B C [Tr.] La. eu gilydd, gan fod mewn dyryswch#13:22 aporeomai, bod yn ansicr, methu penderfynu, bod mewn penbleth. Gweler Marc 1:20. am bwy y mae yn llefaru. 23Yr oedd yn lledorwedd#13:23 anakeimai, gorwedd yn ol; y gair a ddesgrifia y modd yr eisteddasid wrth y bwrdd i fwyta. Yr oedd arferiad yr Iuddewon, Groegiaid, a'r Rhufeiniaid yn debyg, os nid yn hollol yr un fath. wrth y bwrdd yn mynwes yr Iesu un o'i Ddysgyblion, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu. 24Y mae Simon Petr gan hyny yn amneidio ar hwnw, ac#13:24 Felly B C L Brnd.; i ofyn, &c., A D. yn dywedyd wrtho, Dywed pwy yw efe am yr hwn y mae yn llefaru#13:24 Felly B C L Brnd.; i ofyn, &c., A D.. 25Ac efe, gan bwyso#13:25 bwyso yn ol [anapesôn] B C K L X Brnd.; bwyso ar [epipesôn] A D. yn ol#13:25 Llyth.: syrthio yn ol. Ni ddefnyddir syrthio ar, pwyso ar, yn Ioan. Yr oedd Petr yn meddwl fod Ioan fel cyfaill mynwesol yr Iesu yn gwybod, ac yn y gair ‘pwyso yn ol’ cawn olwg newydd ar serch Ioan a thynerwch y Meistr. Gelwid Ioan, ar ol hyn, ho epïstêthios, yr un ar y fron, y cyfaill mynwesol. fel yr oedd#13:25 fel yr oedd [houtôs] B C Brnd.: gad. א A D [4:6]. ar ddwyfron yr Iesu, a ddywed wrtho, Arglwydd, pwy yw efe? 26Yr Iesu gan#13:26 gan hyny B C L X; gad. א A D. hyny a etyb, Hwnw yw efe, i'r hwn y gwlychaf#13:26 Llyth.: trochaf [baptô]. y tamaid, ac y rhoddaf ef iddo. Gan hyny wedi gwlychu y tamaid, y#13:26 y mae efe yn ei gymmeryd ac B C L M X Brnd.; gad. א A D. mae efe yn ei gymmeryd ac yn ei roddi i Judas, mab Simon Iscariot#13:26 Judas Iscariot א A; Simon Iscariot B C L M X Brnd.. 27Ac ar ol y tamaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo ef. Dywed gan hyny yr Iesu wrtho, Yr hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna yn fwy brysiog#13:27 Yr oedd Satan [yma yn unig yn Ioan] wedi cymmeryd meddiant o Judas, ac felly nid oedd edifeirwch bellach yn bosibl iddo, ac felly mae Crist am i'r argyfwng mawr i fod trosodd. Yr oedd yn barod wedi gweddïo am i Dduw “ei achub allan o'r Awr.”. 28A hyn ni wyddai neb o'r rhai oedd yn eistedd wrth y bwrdd, i ba ddyben y dywedasai efe wrtho: 29canys yr oedd rhai yn tybied, am fod Judas a'r göd#13:29 Gweler 12:6. ganddo, fod yr Iesu yn dywedyd wrtho, Pryn y pethau sydd arnom eu heisieu erbyn yr Wyl; neu, fel y rhoddai rywbeth i'r tlodion#13:29 Gweler Neh 8:10, 12; Ioan 12:5; Gal 2:10.. 30Yntau#13:30 Llyth.: efe, hwnw, fel un yn sefyll yn y pellder, tu hwnt i agendor mawr, wedi ymwahanu am byth oddi wrth Grist. gan hyny wedi derbyn y tamaid a aeth allan yn ebrwydd. Ac yr oedd hi yn nos#13:30 Rhai a gysylltant y frawddeg hon â'r hyn a ganlyn, “Ac yr oedd hi yn nos pan yr aeth efe gan hyny allan,” &c. Ond y mae yn amlwg mai diweddglo yw y geiriau syml ond dadganiadol i'r hyn sydd wedi myned o'r blaen. Gadawodd Judas y Goleuni, ac aeth allan i nos dragywyddol. Ar ol hyn y sefydlwyd y Swper. Y mae y rhan fwyaf o'r Tadau o'r farn fod Judas yn bresenol pan y gwnawd hyn: ond y mae y mwyrif mawr o esbonwyr diweddar o farn wahanol. Cyfranogwyd o honi yn unig gan y gwir Ddysgyblion..
Gogoneddiad y Mab, a gorchymyn newydd i'r Plant.
31Pan gan hyny yr aeth efe allan, dywed Iesu, Yn awr y gogoneddwyd#13:31 Y mae ei waith yn rhinweddol ar ben. Y mae ymadawiad Judas yn arwydd o fuddugoliaeth. Y mae y gogoneddiad yn cyd‐fyned â gweithred ‘mab y go lledigaeth.’ Yn yr yspryd y mae yn barod wedi gorchfygu gallu y Tywyllwch. Mab y Dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef. 32A#13:32 Ac os Duw a ogoneddwyd ynddo ef A Ti. [Tr.] [La.] [Al.]; gad. א B C D WH. Diw. Duw a'i gogonedda ef ynddo ei hun, ac a'i gogonedda#13:32 Yn ei Adgyfodiad, Esgyniad, &c. ef yn ebrwydd.
33Blant bychain#13:33 Yma yn unig gan Grist. Unwaith y cawn y gair yn yr Efengylau, ond ni anghofiodd Ioan byth mo hono (1 Ioan 2:1, 12, 28; 3:7, 18; 4:4; 5:21, &c.) Y mae ynddo gyd‐gyfarfyddiad o dynerwch a thosturi., eto yr wyf enyd fechan gyd â chwi. Chwi a'm ceisiwch: ac megys y dywedais wrth yr Iuddewon, Lle yr wyf fi yn myned ymaith, nis gellwch chwi ddyfod, yr wyf yn dywedyd i chwithau hefyd yr awrhon#13:33 arti, yn awr, fel adeg briodol. Y mae nun (ad 31) yn air cyffredinol am yr amser presenol; defnyddir arti fel yn dal perthynas neillduol â'r gorphenol neu y dyfodol (Mat 11:12; 26:53).. 34Gorchymyn newydd#13:34 kainos, newydd, yn wrthgyferbyniol i'r hyn sydd wedi ei dreulio allan, yr hyn sydd yn para yn newydd, tra y mae y neos, newydd, ieuanc, yn myned yn hen. Barna rhai mai cadw y Swper a chofio am Grist yw y Gorchymyn newydd yma; ond y mae yn eangach yn ei ystyr na hyny. Y mae Iesu yn taflu goleuni newydd ar hen orchymyn; y mae y cymhelliad i'w gadw yn newydd; y mae ei gylch yn eangach; y mae yr ymrwymiadau i'w gadw yn gryfach a lluosocach; ac y mae y modd y mae i'w gadw yn newydd, ‘fel y cerais i chwi.’ Y mae hwn yn ein gwneyd yn greaduriaid newydd, yn etifeddion Cyfamod newydd, ac yn ganwyr cân newydd. Yr ydym yn perthyn i Gymdeithas newydd; ac fel y mae y berthynas yn newydd, felly y mae y gorchymyn. Hefyd y mae yr holl fyd yn ‘gymydog’ i ni, ac felly yr ydym i'w garu. yr wyf yn ei roddi i chwi, ar garu o honoch eich gilydd: y modd y cerais i chwi, bod i chwithau hefyd garu eich gilydd. 35Yn hyn y gwybydd pawb mai Dysgyblion i mi ydych, os bydd genych gariad yn mhlith eich gilydd.
36Dywed Simon Petr wrtho, Arglwydd, i ba le yr wyt yn myned ymaith? Iesu a atebodd, Lle yr ydwyf fi yn myned ymaith, ni elli di yn awr fy nghanlyn; eithr ti a#13:36 a'm canlyni A D: a ganlyni א B C L X Brnd. ganlyni ar ol#13:36 Neu, yn ddiweddarach. Nid yn unig i farwolaeth, ond i'r un fath o farwolaeth, 21:18, 19. hyn. 37Petr a ddywed wrtho, Arglwydd, Paham nad allaf fi dy ganlyn di yr awrhon? mi a roddaf fy einioes drosof. 38Y mae Iesu yn ateb#13:38 iddo E G H, &c.; gad. א A B C Brnd., Dy einioes a roddi drosof? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, ni chân ceiliog ddim, nes i ti fy ngwadu dair gwaith.

Dewis Presennol:

Ioan 13: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda