Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 12

12
Mair a Judas: cariad haelfrydig a chybydd‐dod lladradus
[Mat 26:6–13; Marc 14:3–9; (Luc 7:36–50?)]
1Yr Iesu gan hyny, chwe diwrnod cyn y Pasc#12:1 Disgynai y Pasc ar Nisan 14eg. Felly cyrhaeddodd yr Iesu Bethania, Ty y Mynediad, ar yr wythfed, sef hwyr dydd Gwener. Treuliodd y Sabbath olaf cyn ei Ddyoddefaint yn Bethania. Daeth yno Mawrth 31ain., a ddaeth i Bethania, lle yr oedd Lazarus,#12:1 yr hwn a fuasai farw A D Δ [La.] [Tr.]; gad. א B L Ti. WH. Diw., yr hwn a gyfododd yr#12:1 yr Iesu א A B D E Brnd.; gad. H. Iesu o feirw. 2Hwy a wnaethant gan hyny swper#12:2 deipnon, yn ol rhai, ciniaw, sef prif bryd y dydd, yr hwn a gymmerai le yn yr hwyr, pan fyddai gwaith y dydd drosodd. iddo yno: a Martha oedd yn gwasanaethu; ond Lazarus oedd un#12:2 Fel un o'r gwahoddedigion yn nhŷ Simon y Gwahan‐glwyfus. o'r rhai a eisteddent wrth y bwrdd gyd âg ef. 3Mair gan hyny gymmerodd bwys#12:3 sef byrbwys o ddeuddeg wns. o enaint#12:3 Gweler Marc 14:3. o nard#12:3 Gweler Marc 14:3. pur#12:3 Gweler Marc 14:3. gwerthfawr, ac a eneinoedd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â'i gwallt: a'r tŷ a lanwyd o#12:3 Llyth.: allan o. Y mae yr arogl yn lledu drwy y byd. Y mae y distadlaf a berthyn i Grist (traed) yn gofyn gwasanaeth y gwerthfawrocaf (gwallt). arogl yr enaint. 4Gan hyny y dywed Judas#12:4 Dywed Marc fod ‘rhai’ yn ddigllawn; Matthew fod y ‘Dysgyblion’ felly., yr Iscariot,#12:4 Mab Simon A Ia Q.; gad. א B D L Brnd., un o'i Ddysgyblion ef, yr hwn oedd ar fedr ei draddodi ef i fyny, 5Paham na werthwyd yr enaint hwn am dri chan denarion#12:5 Gweler Mat 20:2. Yr oedd yn werth tua deg gini., a'i roddi i dlodion#12:5 Ni esgeulusodd Iesu y tlodion, 13:29? 6Ond efe a ddywedodd hyn nid am ei fod yn gofalu ynghylch y tlodion, ond am ei fod yn lleidr; a chanddo y gôd#12:6 Gr. glôssokomon [o glôssa, tafod, a komeô, dwyn, cadw, oblegyd yr oedd, yn wreiddiol, yn gistan neu flwch yn yr hwn y cedwid minddarnau offerynau cerdd]. Defnyddir ef yn y LXX. am y gist yn yr hon y rhoddid yr offrymau at y Deml (2 Cr 24:8, 10, 11). Efallai i'r enw hwn i gael ei roddi i'r blwch am ei fod wedi ei ddefnyddio cyn iddo ddyfod i ddwylaw Judas fel ail‐law. Y gwahaniaeth rhwng blwch arian Judas a blwch alabastr Mair; ei ddeg‐ar‐hugain darn a'i thri chan denarion hi!, efe a arferai ddwyn ymaith#12:6 Bastazô, cymmeryd i fyny, dwyn [megys, y groes, yr iau,], dwyn ymaith, [ystyr anadnabyddus i Ysgrifenwyr Atticaidd,] megys clefydau; yna, lladrata. yr hyn a fwrid ynddi. 7Dywedodd yr Iesu gan hyny, Goddef iddi, fel#12:7 fel y cadwo, א B D L Brnd.; y mae wedi cadw A Γ Δ E F G H, &c. y cadwo hi ef erbyn dydd y parotöad i'm claddedigaeth#12:7 Cyfieithiadau eraill: (1) Gad iddi; yr oedd [wedi ei brynu, ei gael, &c.] fel y cadwai ef, &c.; (2) Goddef ei bod wedi ei gadw, neu, Goddef iddi am ei gadw, &c. Dywed Meyer na ddefnyddiodd yn awr ond rhan o'r enaint; ond y mae yn fwy na thebyg iddi ddefnyddio yr oll (gweler Mat a Marc). Yr oedd y weithred hon o eiddo Mair, mewn ystyr cyfriniol, yn ber‐eneiniad o gorff Crist ar gyfer ei gladdedigaeth. Golyga entiaphiasmos, nid claddedigaeth, ond parotöad i gladdedigaeth, megys per‐eneinio, perarogli, y corff.. 8Canys#12:8 Gad. adnod 8 yn D; ond nid yw o Mat. a Marc, gan fod ei geiriau mewn trefn wahanol, ac y mae bron yn yr oll o'r prif‐awdurdodau. y mae genych y tlodion gyd â chwi bob amser; eithr myfi nid oes genych bob amser.
Cynllwyn i ladd Lazarus.
9Gwybu gan hyny y bobl gyffredin#12:9 Neu dyrfa fawr: ond y mae y fannod yn א B L Ti. WH. Diw., yr hyn a rydd yr ystyr uchod. o blith yr Iuddewon ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lazarus hefyd, yr hwn a gyfododd efe o feirw. 10Eithr yr Arch‐offeiriaid a ymgynghorasant, fel y lladdent Lazarus hefyd#12:10 sef yn ogystal â Christ.; 11oblegyd o'i herwydd ef llawer o'r Iuddewon oeddynt yn myned ymaith ac yn credu yn yr Iesu.
Y Farchogaeth Freninol i Jerusalem
[Mat 21:1–11; Marc 11:1–11; Luc 19:29–44]
12Tranoeth tyrfa#12:12 tyrfa fawr א A D L Q Tr. Al. Diw.; y bobl gyffredin [ho ochlos, &c.] WH. fawr yr hon a ddaethai i'r Wyl, pan glywsant fod yr Iesu yn dyfod i Jerusalem, 13a gymmerasant y cangau#12:13 Defnyddir Baia, cangau palmwydd, yma yn unig yn y T. N. Dywed Matthew ‘cangau o'r coed,’ a Marc ‘haenau o'r brigau.’ Yr oedd palmwydd yn arwyddlun o fuddugoliaeth. Dywedir fod y balmwydden yn tyfu yn well os bydd pwysau wrth ei changhenau. o'r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod âg ef, ac a lefasant yn uchel, gan#12:13 gan ddywedyd א A D K Q X; gad. B. ddywedyd,
Hosanna!
Bendigedig yw yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd!
Ie#12:13 Kai, ïe, א B L Q Brnd.: gad. A D., Brenin Israel!#Salm 118:25, 26.
14A'r Iesu wedi cael ebol asyn#12:14 onarion, asyn bychan, yna, ebol asyn. Yma yn unig yn y T. N. a eisteddodd arno, fel y mae yn ysgrifenedig, —
15Nac ofna, Ferch Sion:
Wele y mae dy Frenin yn dyfod, yn eistedd ar ebol asyn#12:15 Y mae hwn yn dalfyriad o Zech 9:9. Cawn yma ‘Nac ofna’ am ‘Bydd lawen iawn.’ Ar yr un pryd, y mae yr Ysgrifenydd yn gyfarwydd â'r Hebraeg, fel y dengys y traws‐lythyreniad o ‘Hosanna,’ (yr hwn a gyfieithir i'r Groeg yn y LXX.) Cymharer Alleliwia yn Dad 19:1, 6.#Zeph 3:14–16; Zech 9:9.
16Y pethau hyn ni wybu#12:16 “ni ddaethant i wybod,” egnôsan. ei Ddysgyblion ef ar y cyntaf; eithr pan ogoneddwyd yr Iesu, yna cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig am dano#12:16 Llyth.: arno fel gwrthrych neu sylfaen y Broffwydoliaeth., ac iddynt wneuthur y pethau hyn iddo.
17Gan hyny yr oedd y dyrfa, yr hon oedd gyd âg ef pan alwodd efe Lazarus allan o'r bedd, ac y cyfododd ef o feirw, yn dwyn tystiolaeth. 18O herwydd hyn hefyd#12:18 hefyd א A D La. Ti. WH. Diw.; gad. B E H Δ Tr. yr aeth y dyrfa i gyfarfod âg ef, am glywed o honynt ei fod wedi gwneuthur yr arwydd hwn. 19Y Phariseaid gan hyny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Yr ydych yn canfod#12:19 Neu, A ydych yn canfod, &c.? nad ydych yn tycio#12:19 yn llwyddo, ffynu, enill tir. dim. Wele, fe aeth y byd#12:19 byd cyfan D. ymaith ar ei ol ef!
Ymchwiliad y Groegiaid: athrawiaeth y Cadw.
20Ac yr oedd rhai Groegiaid#12:20 sef Cenedloedd y rhai oeddynt hefyd Broselytiaid y Porth. Y Groeg yw Hellênes. Gelwir Iuddewon y rhai a lefarent yr iaith Roeg yn Hellenistai. Dygwydda yr olaf yn Act 6:1; 9:29. Dylid cyfieithu, felly, Iuddewon Groegaidd. yn mhlith y rhai a arferent fyned#12:20 Yr amser parhâol neu mynychol. i fyny i addoli yn yr Wyl: 21Y rhai hyn gan hyny a ddaethant at Philip#12:21 o herwydd ei enw Groeg, efallai, neu, o herwydd eu bod yn ei adnabod. Yr oedd llawer o Roegiaid yn trigo yn Decapolis. “Galilea y Cenedloedd.”, yr hwn oedd o Bethsaida yn Galilea, ac a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Syr#12:21 Llyth.: Arglwydd., ni a ewyllysiem weled yr Iesu. 22Y mae Philip yn dyfod, ac yn dywedyd i Andreas#12:22 Enw Groeg eto. Arweinydd penaf at Iesu oedd Andreas: yr uwchaf, Simon Petr, “Ac efe a'i dug ef at yr Iesu” (Ioan 1:42); a'r distadlaf, “Rhyw fachgenyn, a chanddo bum torth haidd” (Ioan 6:9).: y#12:22 Felly A B L Brnd.; a thrachefn y mae Andreas a Philip yn dywedyd &c., D X. mae Andreas yn dyfod a Philip, ac y maent yn dywedyd i'r Iesu. 23Y mae yr Iesu yn ateb iddynt, gan ddywedyd, Y mae yr Awr wedi dyfod, fel y gogonedder Mab y Dyn. 24Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear, a marw, y mae yn aros ei hun yn unig: eithr os bydd efe marw, y mae yn dwyn ffrwyth lawer#12:24 “Y mae yr Iuddew am fy lladd, a'r Groegwr am fy ngweled. Caiff yr Iuddew ei ffordd, er i'r Groegwr gael ei ddymuniad.” 1 Cor 15:36.. 25Yr hwn sydd yn caru ei fywyd#12:25 Neu, ei enaid, psuchê, sedd y serchiadau dynol, mewn gwrthgyferbyniaeth i'r yspryd, pneuma, sedd y gydwybod a'r tueddiadau crefyddol, trwy y rhai y mae y dyn yn cymdeithasu â Duw. sydd#12:25 sydd yn ei golli א B L; a'i cyll A D. yn ei golli#12:25 Neu, ei ddinystrio.; a'r hwn sydd yn cashâu#12:25 gan farweiddio ei nwydau, a lladd ei chwantau cnawdol. ei fywyd#12:25 Neu, ei enaid, psuchê, sedd y serchiadau dynol, mewn gwrthgyferbyniaeth i'r yspryd, pneuma, sedd y gydwybod a'r tueddiadau crefyddol, trwy y rhai y mae y dyn yn cymdeithasu â Duw. yn y byd hwn a'i dyogela#12:25 phulassô, gwarchod, cadw, dyogelu. i fywyd tragywyddol.
26Os gwasanaetha#12:26 Diakoneô, a diakonos. Yn y geiriau cyfleuir y meddylddrych, nid o is‐raddoldeb y gwas, (fel doulos, caethwas) ond o weithgarwch a ffyddlondeb yr hwn sydd yn gweini, ac o'r ymddiriedaeth a roddir ynddo, ac o'r anrhydedd a roddir arno. neb myfi, dylyned fi: a lle yr wyf fi, yno hefyd y bydd fy ngwas i; os gwasanaetha neb fi, y Tâd a'i anrhydedda ef. 27Yn awr y mae fy enaid#12:27 Neu, fy mywyd, yr un gair ag yn adnod 25. wedi ei gynhyrfu#12:27 Yr oedd ofn yr hyn oedd yn ei aros ac awydd i dalu perffaith ufydd‐dod yn cyd‐gwrdd yn ei enaid fel dau fôr‐gyfarfod.: a pha beth a ddywedaf? O Dâd, gwared fi allan o'r Awr hon#12:27 Rhai a ddarllenant, — a pha beth a ddywedaf: O Dâd, gwared fi allan o'r Awr hon? Hyny yw, “A weddïaf hyn? Na, i hyn y daethum,” &c. Ystyrir y ffurf hon yn gwneyd i ffwrdd â'r petrusdod a'r ofn a ymddangosent fel yn perthyn iddo yn ol y darlleniad arall, Y mae Chrysostom, Theophylact, Grotius, Lampe, Lachmann, Tregelles, Tholuck, Lange, Godet, &c., yn ffafr y darlleniad hwn. Ond ymddengys darlleniad y testyn yn well: (1) y mae yn fwy cyd‐weddol a chynhyrfiad enaid Crist; (2) gweddïa ar Dduw ei waredu, nid oddi wrth (apo) yr Awr, ond allan o honi Yr oedd yn benderfynol i fyned yn mlaen; yr oedd yn barod yn nghanol afon ddofn ei gystudd chwerw; nid oedd am droi yn ol, ond cyrhaedd yr ochr arall mor fuan ag oedd modd. Pa beth oedd yn fwy naturiol i enaid dynol y Ceidwad? (3) y mae yn gyd‐weddol â'i deimlad a'i weddi yn Gethsemane; (4) y mae yn gyd‐weddol â'r weddi a ddylyna, (a defnyddir O Dâd yn yr un modd yn y ddwy frawddeg), O Dâd, gogonedda dy enw.: eithr er mwyn hyn#12:27 Sef er mwyn a ganlyn: gogoneddiad enw Duw. y daethum i'r Awr hon: 28O Dâd, gogonedda dy enw. Daeth llef gan hyny o'r Nef,
Mi a'i gogoneddais#12:28 Nid yn gymaint yn mhob oes o'r byd, ond yn mywyd Crist, sef, yn ei wyrthiau, a'r hyn a gymmerodd le yn ei Fedydd, ei Wedd‐newidiad, &c., ac a'i gogoneddaf drachefn.
29Y dyrfa gan hyny, yr hon oedd yn sefyll, ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd; eraill a ddywedasant, Angel sydd wedi llefaru wrtho. 30Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Nid er fy mwyn i y mae y llef hon wedi dyfod, ond er eich mwyn chwi. 31Yn awr y mae barnedgaeth#12:31 ‘Yn awr y mae yn dymhor barn,’ &c. Y mae y gwahanu yn barod yn cymmeryd lle. y byd hwn: yn awr y bwrir allan Dywysog y byd#12:31 Hyn oedd ei enw, yn ol y Rabbiniaid, fel Llywiawdwr y Byd Cenedlig. Os felly, y mae yma awgrym o ddychweliad y Cenedloedd, ac o deyrnasiad cyffredinol Tywysog Heddwch. hwn. 32A minau, os dyrchefir#12:32 Dynoda yr ymadrodd yn benaf, yn ol esboniad Ioan, ddyrchafiad Crist i'r Groes. Dyfnder ei ddarostyngiad oedd uchelder ei ddyrchafiad. Ei Groes oedd ei Orsedd. Ond cynwysa y geiriau ei Esgyniad i'r Nef, ‘allan o'r ddaear.’ fi o'r ddaear, a at‐dynaf#12:32 Gweler 6:44. bawb ataf fi hun. 33Ond hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba fath angeu yr oedd efe ar fedr marw. 34Y dyrfa gan hyny a atebodd iddo, Ni a glywsom allan o'r Gyfraith#12:34 Yn yr ystyr eangaf, gan gynwys y Salmau a'r Proffwydi. Gweler Salm 89:29, 36; 110:4; Es 9:7; Esec 37:25. fod y Crist yn aros yn dragywydd: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd fod yn rhaid dyrchafu Mab y Dyn? Pwy yw y Mab y Dyn hwn? 35Dywedodd gan hyny yr Iesu wrthynt, Eto ychydig enyd y mae y Goleuni yn#12:35 gyd â chwi A; yn eich plith (ynoch,) B D K L, &c., Brnd. eich plith#12:35 Llyth.: ynoch.. Rhodiwch yn ol fel#12:35 fel, yn ol y mesur, mewn cyd‐ymffurfiad â'r ffaith fod y Goleuni genych.#12:35 fel [os, yn y modd] A B D L Brnd.: tra, [eôs] א. y mae y Goleuni genych, fel na oddiweddo#12:35 Katalambanô, gweler 1:5; Num 32:23, LXX.; 1 Thess 5:4. tywyllwch chwi: a'r hwn sydd yn rhodio yn y Tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae yn myned. 36Fel#12:36 Gweler 35 y mae genych y Goleuni, credwch yn y Goleuni, fel y deuwch yn Feibion goleuni. Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu, ac a aeth ymaith, ac a guddiwyd#12:36 Dyma eiriau olaf yr Iesu i'r Cyhoedd. Dysglaeriodd y Goleuni iddynt yn hir, ond yn awr y mae cysgodion yn codi o'r ddaear, y rhai a ataliant ei lewyrch. Y mae wedi cael ei wrthod, ac y mae dydd y prawf yn awr yn dyfod i ben. Nid ‘efe a ymguddiodd,’ ond ‘efe a guddiwyd.’ Nid ei waith ef ydoedd, ond canlyniad anghrediniaeth y genedl. oddi wrthynt.
Dallineb barnol: cyflawniad proffwydoliaeth.
37Ac er ei fod wedi gwneuthur cymaint o arwyddion yn eu gŵydd hwynt, nid oeddynt yn credu ynddo: 38fel y cyflawnid ymadrodd Esaiah y Proffwyd, yr hwn a ddywedodd efe, —
Arglwydd, pwy a gredodd i'n cenadwri#12:38 Llyth.: i'n clywediad, h. y. yr hyn a glywsant oddi wrthym, [yn hytrach nag yr hyn a glywsom oddi wrth Dduw].?
Ac i bwy y dadguddiwyd Braich#12:38 Nid Crist, ond gallu Duw yn ngwyrthiau Crist, &c. yr Arglwydd?#Es 53:1.
39O herwydd hyn ni allent gredu, oblegyd dywedyd o Esaiah drachefn, —
40Y mae efe wedi dallu eu llygaid hwynt,
Ac a galedodd eu calon hwynt;
Fel na welent â'u llygaid,
A dirnad â'u calon,
A'u troi, ac i mi eu hiachâu hwynt#12:40 Y mae hwn yn fath o aralleiriad o'r adnodau yn Esaiah.#Es 6:9, 10.
41Y pethau hyn a ddywedodd Esaiah#12:41 Gwelodd Esaiah (Paul yr Hen Oruchwylïaeth?) Ogoniant cynhenid yr Ail Berson Dwyfol; gwelodd Paul y Crist Dyrchafedig yn ei Ogoniant. Gweler hefyd Dad 4:8–11; 5:12–14., oblegyd#12:41 oblegyd [hoti] א A B L Brnd.: pan [hote] D. iddo weled ei Ogoniant ef, ac a lefarodd am dano ef. 42Er hyny, llawer hyd y nôd o'r penaethiaid a gredasant ynddo; ond o herwydd y Phariseaid, nid oeddynt yn gwneyd cyffes, rhag y byddent yn esgymunedig o'r Synagog#12:42 Gweler 9:22: 43canys carasant ogoniant dynion#12:43 sef yr anrhydedd a ddeillia o ddynion, &c. yn hytrach yn wir#12:43 êper, nag yn wir, nag o lawer neu o gwbl. Yma yn unig yn y T. N. na gogoniant Duw#12:43 sef yr anrhydedd a ddeillia o ddynion, &c..
Canlyniadau pell‐gyrhaeddol ffydd ac anghrediniaeth.
44A'r Iesu a lefodd#12:44 Gair am ddysgu yn gyhoeddus. Efallai fod y rhan olaf hon o'r bennod yn cynwys crynodeb o ddysgeidiaeth Crist ar wahanol adegau., ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr Hwn a'm hanfonodd i. 45A'r hwn sydd yn syllu#12:45 theôreô, dal sylw, edrych yn daer, craffu, darsyllu, canfod. Y mae ffydd yn gallu gweled drwy y llen. arnaf fi sydd yn syllu ar yr Hwn a'm hanfonodd i. 46Myfi wyf wedi dyfod yn Oleuni y byd, fel nad aroso neb sydd yn credu ynof fi yn y tywyllwch. 47Ac os clyw neb fy ymadroddion, ac nis ceidw#12:47 ceidw [phulassô, gwylied, gwarchod] א A B D K L X Brnd. hwynt, myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys ni ddaethum i farnu y byd, ond i achub y byd. 48Yr hwn sydd yn fy niystyru#12:48 Gweler Marc 6:26; Luc 7:30. i, ac heb dderbyn fy ymadroddion, y mae iddo un sydd yn ei farnu: Y Gair#12:48 Y mae yr holl eiriau grasol wedi myned yn un Gair. Y mae holl belydrau y Goleuni wedi casglu at eu gilydd, ac wedi myned yn un daranfollt i'r anghrediniol. Y mae yr ymadrodd ‘y Dydd Diweddaf’ yn Ioan yn unig. yr hwn a leferais, hwnw#12:48 hwnw. Y mae ei Air wedi myned allan, ac y mae yn sefyll, megys yn y pellder, [ekeinos] fel eu gwyliedydd, eu cyhuddwr, a'u barnwr. a'i barna ef yn y Dydd Diweddaf. 49Canys myfi ni leferais allan o honof fy hun: ond y Tâd yr hwn a'm hanfonodd i, y mae efe wedi#12:49 wedi rhoddi A B M X Brnd.; a roddodd א D. rhoddi gorchymyn i mi, beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn. 50Ac mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragywyddol: gan hyny y pethau yr wyf yn eu llefaru, fel y mae y Tâd yn dywedyd wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.

Dewis Presennol:

Ioan 12: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda