Actau 6
6
Anhawsderau tufewnol: penodiad y Saith, 1–6
1Ac yn y dyddiau hyn, a'r dysgyblion yn amlhau, bu grwgnach#6:1 goggusmos [gair yn efelychu y weithred], achwyn, manson, grymial, sisial tuchanllyd; nid siarad cyhoeddus gwyneb‐agored. Rhagymadrodd i Hanesiaeth Eglwysig. Erledigaeth yn gyntaf, ymraniad wedy'n. Y mae Duw wedi goruwch‐lywodraethu y ddau. gan yr Iuddewon Groegaidd#6:1 Hellenistai, o hellenizô, ‘byw fel Groegwr,’ yn enwedig siarad yr iaith Roeg. Iuddewon oedd y ddwy blaid hyn. Yr Hallenistiaid hyn oeddynt Iuddewon wedi cofleidio Cristionogaeth. Efallai fod ychydig Broselytiaid yn eu plith. Yr oedd yr Iuddewon hyn wedi rhoddi i fyny arferyd neu wedi anghofio yr Hebraeg (neu yr Aramaeg), ac yn siarad yr iaith Roeg. Yr oeddynt fel miloedd o Gymry heddyw heb wybod Cymraeg ac yn arfer Saesneg. Defnyddient gyfieithiad y LXX yn lle y Beibl Hebraeg. Yr oeddent wedi dychwelyd o wahanol ranau o'r byd cenedlig ac wedi ymsefydlu yn Jerusalem. Symudodd Alexander Fawr wyth mil i Thebais, a ffurfiai yr Iuddewon un ran o dair o boblogaeth ei ddinas newydd, Alexandria. Wedi hyn ymsefydlasant ar lanau Môr y Canoldir, ac yn ngwahanol ranau o Asia. Yr Hebreaid a olygant Iuddewon Palestina, y rhai a gadwent i fyny yr hen arferion, ac a siaradent iaith y wlad, sef yr Hebraeg, neu yn hytrach, yr Aramaeg, yr hon oedd yr hen iaith wedi myned trwy gyfnewidiadau ac wedi ei llygru. Yr oedd llawer o genfigen rhwng y ddwy blaid. Hellen yw y gair am Roegwr o genedl ac iaith. Yn fynych defnyddir ef am y cenhedloedd a sariadent Roeg. yn erbyn yr Hebreaid, oblegyd fod eu gwragedd gweddwon#6:1 Gelwir sylw neillduol yn y Beibl at y ddyledswydd o dosturio wrth y gweddwon (Ex 22:22; Deut 10:18; 1 Tim 5:3–5). yn cael eu hesgeuluso#6:1 Llyth: edrych heibio, heb ddal sylw digonol arnynt, [nid dirmygu]. yn y gweinyddiad#6:1 Diakonia, gwasanaeth, gweinidogaeth, goruchwyliaeth, trefniad, dosbarthiad. Y mae y cyfeiriad at gyfranu bwyd yn ddyddiol i'r rhai anghenus. Dynoda y gair, cymhorth yn 11:29 a dyna yw ei gynwys yma. dyddiol. 2A'r Deuddeg, wedi galw y lliaws dysgyblion atynt, a ddywedasant, Nid yw yn ddymunol#6:2 arestos, boddhaol, cymeradwy, dewisol. i ni i roddi gair Duw i fyny#6:2 kataleipô, gadael, ymwrthod a, esgeuluso, rhoddi i fyny; llyth: gan roddi i fyny Air Duw i, &c. á gwasanaethu byrddau#6:2 Nid byrddau i gyfnewid neu i gyfranu arian. Ni fuasai anghen hyn yn ddyddiol, ond byrddau er cyfranu bwyd. Bwyd yn benaf a olygir. Yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin. Efallai hefyd y defnyddid hwy er gweinyddu Swper yr Arglwydd. 3Ond#6:3 Ond א B Ti. WH.; gan hyny C E Al. Tr. Diw.; yn sicr (dê) A La. edrychwch#6:3 Llyth: edrych ar, arolygu; ymweled, yma, edrych ar er ethol, dewis. allan, frodyr#6:3 Cyfarchiad priodol, yn enwedig ar yr achlysur. Cydraddoldeb a brawdgarwch yw hanfodion Eglwys Dduw. Cydnabydda yr Apostolion annybyniaeth eglwysig. Yr oedd pawb yn cael llais yn y mater., am saith#6:3 Paham saith? Gwahanol farnau, (1) rhif cysegredig yn mhlith yr Iuddewon, yn dangos perffeithrwydd, fel y mae deuddeg yn dangos cyffredinolrwydd; (2) yr oedd yr Eglwys yn Jerusalem yn gynwysedig o saith cynulleidfa; (3) ar gyfer saith dydd yr wythnos; (4) saith mil o gredinwyr, un ar gyfer pob mil. Nid yw yr oll ond tybiadau ofer ac anfuddiol. o wyr o'ch plith eich hunain, i'r rhai y dygir tystiolaeth#6:3 Llyth: i'r rhai y tystiolaethir. dda, llawn#6:3 Llawn, yn wastad; ‘a lanwyd’ ar adegau neillduol. o'r Yspryd#6:3 Glân A C E H. Test. Der.: gad. א B D Brnd. a doethineb, y rhai a osodom ni ar y gorchwyl#6:3 Llyth: anghenrhaid, yna, dyledswydd, gorchwyl. hyn. 4Eithr nyni a ddyfalbarhawn#6:4 Gwel 1:14 ymgyflwyno, parhau i lynu, ymgysegru. yn y Weddi#6:4 Nid yn y weddi ddirgelaidd, ond ynddi fel rhan o'r gwasanaeth cyhoeddus. Y fath le amlwg yr oedd yn ei gael — y blaenaf. Rhaid agor drws y nefoedd cyn y ffrydia goleuni yr Yspryd ar y Gair. Yr oedd y dysgyblion yn dyfal‐barhau mewn gweddi (1:14) ac yn nysgeidiaeth yr Apostolion (2:42). Gweddi rydd flas ar athrawiaethau crefydd a chwaeth i'w myfyrio. Y dyn sydd ‘iach yn y ffydd’ yw yr hwn mewn gweddi sydd yn anadlu awyr Duw. Yn nghwmpeini Duw ni a rodiwn lwybrau Gwirionedd. ac yn ngweinidogaeth y Gair. 5A'r ymadrodd oedd ddymunol yn ngolwg yr holl liaws: a hwy a etholasant#6:5 A gawn yma sefydliad y Ddiaconiaeth? Yn erbyn: (1) Ni ddefnyddir yr enw yma. (2) Ni elwir un o honynt yn ddiacon, er enghraifft, gelwir Philip yn Efengylwr (21:8). (3) Ni chyfeirir at y swydd yn Llyfr yr Actau, (4) Nid oes ond tebygrwydd rhwng dyledswyddau a chymhwysderau y swydd yn Timotheus ac yma. Yn ffafr: (1) Nid yw adroddiad mor fanwl yn ffafr llanw swydd ag oedd i barhau am ychydig amser, i gyfarfod ag argyfwng neillduol, (2) Os nad yw yr enw yma, y mae y gwaith, yr hwn sydd yn fwy pwysig na'r enw, (3) Y mae yr hanes yn ol dull arferol Ysgrifenydd yr Actau. Ffurfir yr Eglwys yn gyntaf, rhoddir yr enw arni wedi hyny, a hwnw ddim yn enw newydd, felly, hefyd gyda'r Henuriaid (11:30); (4) Nid oes genym hanes arall am sefydliad y Ddiaconiaeth, ac y mae yr Eglwys drwy y canrifoedd yn ystyried hwn fel ei dechreuad, (5) Y gair a ddefnyddir yma, diakonia; galwyd y person yn ddiacon o herwydd ei waith. Defnyddir diakonos yn yr ystyr yma yn Phil 1:1; 1 Tim 3:8, 12; 4:6. Stephan#6:5 Stephanos, coron (yr hwn oedd y cyntaf i dderbyn coron merthyrdod). Yr oedd traddodiad ei fod fel Paul yn ddysgybl i Gamaliel, a'i fod hefyd yn un o'r Deg‐a‐thri‐ugain. Yr oedd efe yn flaenaf yn mhlith y Saith, fel Petr yn mhlith y Deuddeg. Rhoddir iddo yr un cymeriad a Barnabas (11:24) ‘yn llawn o ffydd,’ &c. Arosir yma gyda Stephan fel arweiniad naturiol i'w anerchiad godidog a'i ferthyrdod., gwr llawn o ffydd ac o'r Yspryd Glân, a Philip#6:5 Philip yr Efengylwr, a bregethodd yn Samaria, ac a fedyddiodd yr Eunuch (8:5, &c; 21:8). Ni ddywedir dim am y lleill. Cofnodir yn yr Actau weithrediadau dau o'r Diaconiaid fel gweithrediadau dau o'r Apostolion (Petr a Phaul) fel cynnrychiolwyr o'r oll, ac fel esiamplau i ddiaconiaid pob oes., a Prochorus, a Nicanor, a Timon, a Parmenas, a Nicolas#6:5 Yr oedd traddodiad mai y Nicolas hwn oedd sylfaenydd sect y Nicolaiaid (Dad 2:6, 15). Os felly, yr oedd Nicolas yn mhlith y Saith fel Judas yn mhlith y Deuddeg. Ond nid oes sail i hyn., proselyt#6:5 Tebygol mai efe oedd yr unig broselyt. Da oedd cael un i gynnrychioli y dosparth. Tebygol fod Luc ei hun yn broselyt o Antiochia. o Antiochia#6:5 Yr oedd llawer o Iuddewon yn Antiochia, ac yr oeddent wedi bod yn llwyddianus iawn i wneuthur proselytiaid.: 6y rhai a osodasant hwy gerbron yr Apostolion: ac wedi iddynt weddïo hwy a ddodasant eu dwylaw arnynt#6:6 Y mae yr holl enwau yn enwau Groegaidd, ond nid yw hyn yn profi mai Iuddewon Groegaidd oedd y rhan fwyaf. Yr oedd enwau Groegaidd yn gyffredin yn mhlith yr Iuddewon, Philip, Nicodemus, Didymus, &c..
Stephan o flaen y Sanhedrin, 7–15.
7A Gair Duw oedd yn cynyddu, ac yr oedd rhifedi y dysgyblion yn Jerusalem yn amlhau yn ddirfawr; hefyd tyrfa fawr o'r offeiriaid#6:7 Y mae rhai [Beza, Casaubon, &c.] wedi ymyraeth a'r adnod hon o herwydd yr anhebygolrwydd fod tyrfa fawr o'r offeiriaid wedi dyfod yn gredinwyr. Ond nid oes sail i hyn. (1) Yr oedd yr offeiriaid yn lliosog iawn. Dychwelodd 4,289 o'r Caethiwed (Ez 2:36–49); (2) Yr oedd y dylanwadau Dwyfol mor nerthol fel ag i argyhoeddi pob dosparth o'r bobl; (3) Defnyddir y gair ‘tyrfa’ yn fynych am nifer cymharol fychan, megys am y cant‐ac‐ugain 1:15, am y gwahoddedigion i wledd Lefi (Luc 5:29); (4) Cyflawnir yn rhanol brophwydoliaeth Malachi 3:3 ‘Ac efe a bura feibion Lefi.’ oeddent yn ufuddhau i'r ffydd#6:7 Nid yn gymaint yr Efengyl fel cyfundrefn neu gorph o athrawiaethau, ond ffydd yn Nghrist. Dyma'r ffydd sydd yn amlwg yn yr Actau.. 8A Stephan, yn llawn o ras#6:8 Y mae gras yn derm eangach na ffydd. Y mae yn dynodi ei fywyd ysbrydol aml‐ochrog, tra y mae gallu yn golygu y gallu goruwch‐naturiol a feddai. Dyma y tro cyntaf y darllenir yn yr Actau am gyflawniad gwyrthiau gan rai tu allan i gylch yr Apostolion.#6:8 gras א A B D Brnd.; ffydd Test. Derb. a gallu, oedd yn gwneuthur rhyfeddodau ac arwyddion mawrion yn mhlith y bobl. 9Ond cyfododd rhai o'r Synagog a elwir eiddo'r Libertiniaid#6:9 Libertiniaid [Gwyr Rhyddion] Iuddewon a'u disgynyddion a arweiniwyd yn gaethion i Rufain, ac a ryddhawyd. Dygodd Pompey lawer o Iuddewon i Rufain. Dywed Josephus i Tiberius orchymyn i'r holl Iuddewon ymadael o Rufain. Llawer o honynt a ddanfonwyd i Sardinia; eraill, yn ddiameu, a ddychwelasant i Palestina. Geilw Tacitus hwynt Libertini. Dygwyddodd hyn tua 17 mlynedd cyn hyn., a'r Cyreniaid#6:9 Yr oedd rhan fawr o boblogaeth Cyrene yn Iuddewon. Efallai fod y presenol yn adeg un o'r Uchel‐wyliau. Cyfrifai hyn am bresenoldeb cynifer yn Jerusalem., a'r Alexandriaid#6:9 Yr oedd dwy o bum' rhanbarth y ddinas yn cael eu trigianu gan Iuddewon a chanddynt Lywodraethwr o'u heiddo eu hunain., a'r rhai o Cilicia#6:9 O'r Synagog hon, efallai, yr oedd Saul yn aelod ar y pryd. ac Asia#6:9 Sef Asia, dan lywodraeth y Rhaglaw Rhufeinig (Lydia, &c.,) o'r hon yr oedd Ephesus yn Brif‐ddinas.#6:9 Asia א B C E Brnd.; gad. A D., gan ymddadleu â Stephan. 10Ac nid oeddent hwy yn alluog i wrth‐sefyll y doethineb#6:10 Gwel Luc 21:15 ‘Mi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr ei gwrth‐sefyll na'i gwrth‐ddywedyd.’ a'r Yspryd#6:10 Nid ei yspryd tanbaid ei hun, ond yr Yspryd Glân o'r Hwn yr oedd yn llawn. trwy yr Hwn y llefarai. 11Yna yn ddirgelaidd y cymhellasant#6:11 hupoballô, taflu adnodd, gweithredu dan law, lled‐awgrymu i'r meddwl, cynhyrfu yn ddirgelaidd, gwthio yn mlaen trwy ddichell [yma yn unig yn y T.N.]. Y mae y Libertiniaid hyn yn olyniaeth cyhuddwyr Crist [Mat 26:60, 61]. ddynion, y rhai a ddywedasant, Nyni ydym wedi ei glywed ef yn dywedyd pethau cableddus#6:11 Ac felly yn teilyngu marwolaeth [Deut 13:6–10] mewn perthynas i Moses a Duw. 12Hefyd, hwy a gynhyrfasant#6:12 sunkineô [yma yn unig yn y T.N.] symud ynghyd, ‘hwy a symudasant holl gorph y bobl,’ &c. Dyma y tro cyntaf y darllenwn am ‘y bobl’ yn wrthwynebol i'r Cristionogion. Y mae y rheswm yn eglur. Yr oedd y Phariseaid hyd yn hyn wedi bod yn dawel. Yr oeddent yn caru athrawiaeth yr Adgyfodiad a'i dadgysylltu a Christ; ond yr oedd Stephan wedi ymosod ar yr holl gyfundrefn seremoniol, ac wedi rhoddi ergydion trymion i Iuddewaeth; dangosodd annigonoldeb y ddeddf, ac nad oedd yr oll ond cysgod o ‘bethau gwell i ddyfod.’ Cynhyrfwyd y genedl. Cauwyd drws Iuddewaeth yn erbyn Cristionogaeth; ond agorwyd led y pen ddrws y Cenhedloedd, gan ‘ddechreu yn Samaria.’ y bobl#6:12 y bobl, yn gryf mewn nifer, yr Henuriaid mewn awdurdod, yr Ysgrifenyddion mewn gwybodaeth. a'r Henuriaid a'r Ysgrifenyddion, a chan ddyfod#6:12 yn ddirybudd, sydyn, disymwth. arno, hwy a'i cipiasant ef gyda hwynt, ac a'i dygasant i'r Sanhedrin; 13hefyd gosodasant dystion gau, y rhai a ddywedasant, Nid yw y dyn hwn yn peidio a dywedyd pethau#6:13 cableiriau [cableddau] gad. א A B C D Brnd. yn erbyn y lle Sanctaidd#6:13 Jerusalem, ac yn enwedig y Deml. Yr oedd y Sanhedrin yn cyfarfod mewn ystafell o'r Deml, Gazith, o'r tu deheu.#6:13 hwn B C Diw.; gad. א A D E H Brnd., a'r Gyfraith#6:13 Nid oedd hyn ond gwyr‐droi geiriau Stephan yn ei ymddadleu yn y Synagogau.. 14Oblegyd yr ydym wedi ei glywed ef yn dywedyd y dystrywiai yr Iesu, y Nazaread hwn, y lle hwn, ac y cyfnewidiai y defodau#6:14 Neu, arferion. a draddododd Moses i ni. 15A phawb oedd yn eistedd yn y Sanhedrin, gan edrych yn graff#6:15 Gweler 1:10; 3:4, 12 arno, a welent ei wyneb ef fel gwyneb angel#6:15 Cyhuddant ef o lefaru yn erbyn Moses, ond y mae Duw yn ei osod yn ymyl Moses, ac y mae ei wyneb yn dysgleirio fel gwyneb Moses pan ddaeth o'r Mynydd (Ex 34:29). Y mai Stephan wedi dringo i gopa'r bryn, ac y mae pelydrau haul Duw yn ei wyneb. Y mae efe gyda Moses a'i Feistr ar Fynydd y Gweddnewidiad. Yr oedd wedi byw yn nghwmni Angelion, ac wedi myned yn un o honynt. Safai ar fin Byd y Goleuni, a thorodd tón o'i ddysglaerdeb ar ei wyneb. Planodd Duw enfys ei ddyogelwch ar gwmwl du digofaint ei elynion, ac o fewn ei gylch eisteddai Stephan yn dawel, ac angelion fel gwarchodlu Dwyfol o'i gwmpas. Yr Yspryd Glân, yr hwn a lanwodd ei enaid, yn awr a orlifai mewn ffrydlif o ogoniant trwy ei gorph gan ei wneyd o'r braidd yn gorph ysprydol yr ochr hon. Gwelodd y Nef yn agoryd ar ddiwedd ei Anerchiad, ond yr oedd yn gwenu arno ef cyn ei ddechreu. Fel yr oedd Ioan Fedyddiwr yn rag‐redegydd Crist, felly Stephan oedd rhag‐redegydd Paul. Efe oedd y cyntaf i osod allan wendid y ddeddf a natur ddiflanol y seremoniau. Cynhyrfodd yr Iuddewon yn ei erbyn fel y gwnaeth Paul ar ei ol. Rhoddodd y rhai a labyddiasant Stephan eu dillad eu hunain wrth draed Saul; ond gofalodd Duw yn fuan ei lapio yn mantell Stephan..
Dewis Presennol:
Actau 6: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.