Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 26

26
PEN. XXVI.
Clod gwraig dda, 5 y pedwar peth erchyll, 8 eiddigedd gwraig ai drygioni, 33 y tri pheth anweddus.
1Gwyn ei fyd gŵr y wraig dda: canys ddau­ddyblyg fydd rhifedi ei ddyddiau ef.
2Gwraig ŵrol a lawenycha ei gŵr, ac a gyflawna flynyddoedd ei fywyd ef mewn heddwch.
3Rhan dda yw gwraig dda, ac yn rhan y rhai ydynt yn ofni yr Arglwydd y rhoddir hi.
4Y mae gan dlawd a chyfoethog galon dda at yr Arglwydd, ac hwy a orfoleddant bob amser yn wyneb-lawen.
5Rhag tri pheth yr arswydodd fyng-halon i, a rhag y pedwerydd golwg yr ofnais i.
6Enllib dinas, a thorf o bobl,
7A gau destiolaeth: blinach nag angeu ydynt hwy oll.
8Baich calon a galar yw gwrag yn dal eiddigedd wrth wraig, a ffrewyll tafod yw ’r hon sydd yn cyfrannu â phawb.
9Iau ŷchen yn siglo yw gwraig ddrwg, ac y mae ei pherchennog megis yn ymaflyd mewn scorpion.
10Digter mawr yw gwraig feddw, ac ynfyd, ac ni chela hi ei gwarth ei hun.
11Putteindra gwraig a adweinir wrth dderchafiad [ei] llygaid [hi,] ac wrth [ei] ham­rantau [hi.]
12Dod ti gadwriaeth siccr #Pen.42.11.ar ferch anhywaith, rhag os caiff hi rydd-did iddi ei [cham] arfer ei hun.
13Gwilia ar y llygad digywilydd, ac na ryfedda os gwna efe fai â thi.
14Fel yr egyr fforddol sychedig ei safn pan gaffo efe ffynnon: felly yr yf hi o bob dwfr cyfagos, yr eistedd hi wrth bob pawl, ac yr egyr gawell yn erbyn y saeth.
15Grâs gwraig a wna ei gŵr yn hyfryd, ai gwybodaeth hi a wna ei escyrn ef yn freision.
16Rhodd yr Arglwydd yw gwraig ddistaw gall, ac nid oes cydwerth i enaid a gymero addysc.
17Grâs ar râs yw gwraig gywilyddgar a ffyddlon,
18Ac nid oes dim a ddichon bwyso yn gyfa­ddas ei diwair feddwl hi.
19Fel y mae yr haul yn codi yn vchelder yr Arglwydd: felly y mae tegwch gwraig dda yng-wychter ei thŷ.
20Fel cannwyll yn goleuo mewn canhwyllbren sanctaidd: felly y mae tegwch yrŷd mewn oedran diwegi.
21Fel colofnau aur mewn morteisiau arian: felly y mae traed têg gyd a dwyfron siccr.
22[Fy] mab cadw flodau dy ieuengtid yn iach, ac na ddod dy gryfder i ddieithriaid.
23Wedi it geisio y rhan ffaethaf o’r maes oll, haua dy hâd dy hun gan obeitho yn dy fonedd.
24Felly dy hiliogaeth di y rhai a fyddant byw gan gael hyder o fonedd a gynnyddant.
25Gwraig a’r werth a gyfrifir i fod vn wedd a hŵch, a’r briod a gyfrifir yn dŵr rhag angeu i’r rhai ai harferant.
26Gwraig annuwiol a roddir yn rhan i ŵr anwir, a’r dduwiol a roddir i’r hwn sydd yn ofni yr Arglwydd,
27Gwraig anhonest a bair ammarch, eithr merch honest a barcha ei gŵr.
28Megis ci y cyfrifir gwraig anhywaith, a’r gywilyddgar a ofna yr Arglwydd.
29Y wraig yr hon sydd yn perchi ei gŵr ei hun, a wêl pawb yn ddoeth, a’r hon ai amharcho ef a gydnebydd pawb ei bod yn annuwiol a balch.
30Gwyn ei fyd gŵr y wraig dda: o blegit dau ddyblyg fydd rhifedi ei flynyddoedd ef.
31Am wraig floeddgar a siaradus yr edry­chir i darfu gelynnion.
32Enaid pob dyn tebyg i’r rhai hyn a ddwg ei fywyd mewn terfyscoedd rhyfel.
33Am ddau beth y mae fyng-halon i yn athrist, ac am y trydydd y daeth arnaf ddigter.
34Bod rhyfelwr yn anghenus trwy eisieu, ac os dirmygir gwŷr synhwyrol.
35Yr hwn a ddychwelo o gyfiawnder i bechod yr Arglwydd ai paratoa ef i’r cleddyf: anhawdd yw tynnu marsiandwr heb fai, ac ni chyfiawnheir tafarn-wr oddi wrth bechod.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda