Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 27

27
PEN. XXVII.
Bod bai wrth brynu a gwerthu. 5 Y modd y mae adnabod dyn. 11 Cynneddf y ffol. 16 Brynted yw dadcuddio cyfrinach. 27 Bod drygioni dyn yn dy­fod arno ei hun.
1O Achos peth cyffredinol y pechodd llawer: a’r #1.Tim.6.9. Dihar.26.4.hwn sydd yn ceisio cael amldra a drŷ ei olwg ymmaith.
2Rhwng cysswlt cerrig y gyrrir gwanas, a rhwng prynu a gwerthu yr ymwthia pechod.
3Oni ddeil efe yn ofn yr Arglwydd yn ddiwyd, ebrwydd y dimstrir ei dŷ ef.
4Wrth escwyd y gogr yr erys y brynti, felly anrhaith dŷn yn ei ymrysymmiad ef.
5Y ffwrn sydd yn profi llestri pridd, #Dihar.27.21.felly y mae profedigaeth dŷn yn ei ymadrodd ef.
6Ei #Matth.7.17.ffrwyth a ddengys goleddiad y pren, felly y gwna traethiad y meddwl yng-halon dŷn.
7Na chanmol ŵr cyn [clywed ei] ymma­drodd: oblegit dyna brofedigaeth dŷn.
8Os dilyni di gyfiawnder ti ai goddiweddi hi, ac ai gwisci hi fel gwisc laes ogoneddus.
9Adar a arhoasant gyd âi cyffelyb, a’r gwirionedd a drŷ at y rhai a weithiant.
10Fel y cynllwyn llew i helfa, felly y gwna pechod i’r rhai a weithredant ddrygioni.
11Traethiad y duwiol sydd bob amser am ddoethineb, a’r angall a newidia fel lleuad.
12Ym mysc yr ansynhwyrol cadw amser, a thyret yn fynych i fysc y rhai pwyllog.
13Baich yw traethiaid ffyliaid, ai chwerthiniad fydd am ddigrifwch pechod.
14 # Pen.23.9.10. Ymadrodd yr hwn a dyngo lawer a wna i’r gwallt godi, ac ymsywyn y cyfryw a wna gaeu clustiau.
15Ymsywyn beilchion a bair gelanedd, ai difenwad hwynt sydd flin ei chlywed.
16Yr hwn #Pen.19.10.|SIR 19:10 & 22.22.sydd yn dadcuddio cyfrinach a gollodd ei gredyniaeth, ac ni chaiff efe gyfaill wrth ei fodd.
17Hoffa [dy] gyfaill, a gwna yn ffyddlon ag ef.
18Eithr os dadcuddi di ei gyfrinach ef, na ddilyn ar ei ôl ef.
19Oblegit megis y mae dŷn yn difetha ei elyn, felly y mae efe yn difetha ei gymmydog.
20Ac fel pe gollynge gŵr aderyn oi law, felly y gollyngaist dy gymmydog ac ni’s deli ef.
21Na chanlyn ef: oblegit y mae efe ym mhell, ac wedi ffoi fel iwrch o fagl.
22O blegit fe a ellir iachau archoll, ac y mae cymmod am ddifenwad.
23Eithr yr hwn a ddadcuddiodd gyfrinach a gollodd [ei] gredyniaeth.
24Y mae #Dihar.10.10.yr hwn sydd yn amneidio ai lygad yn adailadu drŵg, a’r hwn ai hadwaeno ef a gilia oddi wrtho ef.
25Efe a wna ei enau yn swyn yn dy ŵydd di, a rhyfedd fydd ganddo ef dy ymadrodd di: wedi hynny efe a drŷ ei chwedl, ac a fwrw fai ar dy ymadrodd di.
26Llawer a gaseais i [arno ef] ar ni welwn ddim tebyg iddo ef: yr Arglwydd hefyd ai casaodd [ef.]
27Y neb sydd yn taflu carreg yn vchel sydd yn ei thaflu hi ar ei ben ei hun: a dyrnod tywyllodrus a wahana ar choll.
28 # Psal.7.15. Dihar.26.27. Preg.10.8. Yr hwn a glodio ffôs a syrth ynddi hi.
29A’r hwn a osodo rwyd a ddelir â hi.
30Yr hwn a wnelo ddrwg, arno ef yr erys efe: ac ni chaiff efe ŵybod o ba le y mae efe yn dyfod iddo ef.
31Gwatwargerdd, a dannodedd y beilchion, a dialedd a gynllwyn iddynt hwy fel llew.
32Mewn magl y delir y rhai ydynt yn llawen ganddynt syrthio y rhai duwiol, a chyn eu marwolaeth y treulia gofid hwynt, digter, a llid: ffiaidd hefyd yw ’r pethau hyn, a’r pethau hyn y bydd gŵr pechadurus meddiannol o honynt.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda