Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 25

25
PEN. XXV.
Y tri pheth hoff a’r tri pheth câs, 9 y naw dedwydd, 9 a’r wraig sceler.
1Gan dri pheth yr euthym i yn dêg, ac y codais i yn dêg ger bron yr Arglwydd a dynion.
2 # Gen.13.2.5.|GEN 13:2,5 Rhuf.12.10. Cydundeb brodyr, a chyfeillach cymmydog, a gŵr a gwraig yn cŷd-ddwyn ai gilydd.
3A thri math [ar ddŷn] sydd gâs gan fy enaid i, ac yr ydwyf yn anfodlon iawn iw buchedd.
4Tlawd balch, a chyfoethog celwyddog, a hen-wr godinebus angall.
5Oni chesclaist ti yn dy ieuengtid, pa fodd y cei di yn dy henaint?
6Mor dêg yw barn ar rai penllwyd: a medru cyngor ar henaf-gwŷr:
7Mor dêg yw doethineb henafgwŷr, a meddylfryd a chyngor mewn rhai anrhydeddus:
8Coron henaf-gwŷr yw gwybod llawer, ai gorfoledd yw ofn yr Arglwydd.
9Naw meddwl a gyfrifais i yn ddedwydd yn fyng-halon, a’r decfed a draethaf fi a’m tafod.
10Dŷn yn byw yn llawen oi blant, ac yn gweled cwymp ei elynnion.
11Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn cyttal â gwraig synhwyrol, #Pen.14.1.|SIR 14:1 & 19.16.|SIR 19:16. Iago.3.2.a’r hwn ni lithrodd ei da­fod, ac ni wasanaethodd yr hwn sydd anaddas iddo ef.
12Gwyn ei fyd yr hwn a gafodd synnwyr, ac ai mynego wrth y rhai sy yn gwrando.
13Mor fawr yw ’r hwn sydd yn cael doethineb? ond nid oes neb vwch na’r hwn sydd yn ofni yr Arglwydd.
14Cariad yr Arglwydd sydd eglurach nâ dim.
15I ba beth y cyffelybir yr hwn sydd yn cael afael arno ef:
16Ofn yr Arglwydd yw dechreuad ei gariad ef, a ffydd yw dechreuad glynu wrtho ef.
17[Dewis] bob dyrnod ond dyrnod [ar] y galon: a phob drygioni ond drygioni gwraig.
18[Dewis] bob niwed ond niwed caseion, a phob dial ond dial gelynnion.
19Nid oes pen waeth na phen sarph, na digofaint waeth na digofaint gelyn.
20Gwell gennifi gyttal â llew, ac â draig, #Dihar.12.19.na chyttal â gwraig ddrwg.
21Y mae drygioni gwraig yn newidio ei hwyneb hi, ac yn gwneuthur ei hwyneb-pryd hi cyn ddued ag arth.
22Yng-hanol ei gymmydogion y syrthia ei gŵr hi, ac efe a vcheneidia oi anfodd oi hachos hi.
23Bychan yw pob drwg wrth ddrwg gwraig, syrthied coel-bren pechadur arni hi.
24Fel y mae dringfa dywodlyd i draed henaf-gwr, felly y mae gwraig siaradus i ŵr distaw.
25 # Pen.42.12|SIR 42:12. 2.Sam.11.2. & 13.2. Na syrth at degwch gwraig, ac na chwennych wraig er trythyllwch.
26Dîg, a digywilydd-dra, a gwaith mawr yw gwraig, os rhydd hi iw gwr [ei gynhaliaeth.]
27Calon isel, ac wyneb sarrig ac archoll calon yw gwraig ddrwg.
28Dwylo gweniaid, a gliniau rhyddion yw ’r hon ni chynorthwya ei gŵr yn ei vchenaid.
29Trwy wraig #Gen.3.6.|GEN 3:6. 1.Tim.2.14.y daeth dechreu pechod, ac oi phlegit hi yr ydym ni yn meirw oll.
30Na ddod i ddwfr le: fyned trosodd, nac i wraig ddrwg rydd-did i fyned allan.
31Onid aiff hi wrth dy law di, tor hi oddi wrth dy gnawd, dod [yscar] a gollwng [hi] yn rhydd.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda