Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 18

18
PEN. XVIII.
Mawredd Duw. 6 trueni dyn 14 Haelioni, 18 a synnwyr.
1 # Gen.1.1. Yr hwn sydd yn byw byth, yn gyffredinol a greodd bob peth.
2Yr Arglwydd yn vnic sydd gyfiawn, ac nid oes neb ond efe: yr hwn â rhychwant ei law sydd yn gwneuthur y byd yn gyfanneddol, ac y mae pob peth yn vfyddhau ei ewyllys ef: o blegit y mae efe yn ei nerth yn Frenin ar bawb gan wahanu ynddynt hwy y pethau sanctaidd oddi wrth y pethau halogedic.
3I bwy y parodd efe fynegu ei weithredoedd ef: a phwy a ôlrheiniodd ei fawredd ef:
4Pwy a rif gadernid ei fawredd ef: a phwy a esyd ar draethu ei drugaredd ef:
5Ni ellir lleihau na chwanegu, ac ni ellir ôlrhain rhyfeddodau ’r Arglwydd.
6Pan orphenno dŷn yna y dechreu efe, a phan beidio efe, bydd eisieu arno ef.
7Pa beth gan hynny yw dŷn: a pha fudd sydd o honaw ef: pa dda neu ddrwg a dichō efe?
8Rhifedi dyddiau dŷn (pan fyddant lawer) ydynt gant mhlynedd, #Psal.90.10.eithr y mae i bawb hun [dros amser] ni all neb ei gyfrif: fel defnyn o ddwfr o’r môr, ac fel graienyn o dywod yw #2.Pet.3.8.mîl o flynyddoedd ym mysc dyddiau tragywyddoldeb.
9Am hynny y mae yr Arglwydd yn ymaros wrthynt hwy, ac yn tywallt ei drugaredd arnynt hwy.
10Efe a welodd, ac a ŵybu mai dinistr drwg fydd iddynt hwy.
11Am hynny efe a wnaeth ei drugaredd yn aml.
12Trugaredd dŷn sydd tu ag at ei gymmydog:
13A thrugaredd yr Arglwydd tu ag at bob cnawd.
14Yn argyoeddu, ac yn addyscu, ac yn athrawiaethu, ac yn troi fel y gwna bugail ei braidd.
15Y mae efe yn trugarhau wrth y rhai sy yn derbyn addysc, ac wrth y rhai ydynt yn bryssio at ei farnedigaethau ef.
16[Fy] mab na cherydda wrth wneuthur cymmwynas, a phan ymbilio neb, na ddod air drwg sarrig.
17Onid yw ’r gwlith yn gostwng y gwrês: felly gwell yw gair na rhodd.
18Wele onid gwell yw gair na rhodd dda: a grâslon yw pob vn o’r ddau gan ddyn.
19Vn ffôl a ddannod fel na haeddo efe ddiolch, a rhodd y cenfigennus a wna i’r llygaid wanhau.
20Cyn llefaru, dysc: a chyn afiechyd cymmer feddiginiaeth.
21Cyn barn ymbaratoa i wneuthur yn dda, #1.Cor.11.31.ac yn amser gofwy ti a gei drugaredd.
22Cyn dy glafychu ymddarostwng trwy ddirwest, ac yn amser pechod dangos edifeirwch.
23Na rwystra dalu adduned mewn prŷd: ac nac oeda ymgyfiawnhau hyd farwolaeth.
24Ymbaratoa cyn gweddio, ac na fydd fel dŷn yn temptio ’r Arglwydd.
25Meddwl am y digofaint [a fydd] yn y dydd diwedd, #Pen.7.17.ac am amser dialedd pan droer wyneb [Duw] ymmaith.
26 # Pen.11.14. Yn amser amldra meddwl am amser newyn, ac yn amser cyfoeth am dlodi, ac eisieu.
27O’r boreu hyd yr hwyr y newidia amser, ac ebrwydd yw hyn oll ger bron yr Arglwydd, ar ddŷn doeth y bydd ofn duwiol ym mhob peth, ac yn amser pechod efe a ymochel rhag amryfusedd, a’r angall ni cheidw amser.
28Pob vn synhwyrol a edwyn ddoethineb, ac addysc.
29Ac efe a rydd fawl i’r hwn sydd yn ei chael hi.
30Y rhai synhwyrol a fuant ddoethion yn eu hymadroddion, ac a ddiferasant fanwl ddiharebion i fywyd: goref yw hyder ar yr Arglwydd yn vnic, o blegit calon farw sydd yn glynu wrth beth marw.
31 # Rhuf.6.6. & 13.14. Na ddos ar ôl dy chwant, eithr ymattal oddi wrth dy awydd.
32Os rhoddi i’th enaid yr hyn a ryngo bodd iddo, yna y gwnei di i’th elynnion chwerthin y rhai ydynt yn cenfigennu wrthit ti.
33Na ymlawenycha yn dy fawr fwythau: ac na âd arnat eisieu ei chyngor hi.
34Na ddos yn dlawd trwy wledda ar o­creth heb ddim yn dy bwrs, canys [felly] y byddit ti enwog gynllwynwr i’th einioes dy hun.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda