Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 19

19
PEN. XIX.
Yn erbyn glothineb a godineb. 6 am ymadrodd pwyllog, 22 gwir ddoethineb 27 y modd yr adweinir dyn.
1Ni chyfoethoga gweithiwr meddw: a’r hwn sydd yn diystyru ychydig, a syrth o fesur ychydig.
2 # Gen 19.33.|GEN 19:33. 1.Bren.11.1. Gwin a gwragedd sydd yn gyrru doethion ar encil.
3A’r hwn a lyno wrth butteniaid a fydd hŷf: eithr pydyrni a phryfed ai cânt ef yn etifeddiaeth, ac efe a wywa mewn mwy o siampl.
4Yr hwn sydd yn credu yn fuan sydd yscafn ei feddwl, #Ios.22.12.a’r hwn sydd yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun a gyfeiliorna.
5Yr hwn sydd yn llawenychu mewn drygioni a gondemnir, yr hwn sydd yn gwrthwynebu melus-chwant sydd yn coroni ei fywyd.
6Yr hwn a attalio ei dafod a gyd-fyw a’r anhywaith, a’r hwn sydd yn casau siarad sydd yn llai ei niwed.
7Na ddad-ddywet air, ac ni bydd i ti niwed.
8Na fynega fuchedd arall wrth na chyfaill na gelyn, ac onid yn dy erbyn di y bydd y pechod na ddadcuddia ef.
9Canys efe a’th wrendu, ac a ddeil arnat ti, ac mewn amser efe a’th gasâ di.
10 # Pen.22.22. Pan glywech air gâd iddo ef farw gyd â thi, a bydd ddiogel, o blegit ni rwyga efe di.
11Vn ffol a ofidia gan air fel yr hon sydd yn escor ar blentyn.
12[Fel] saeth yng-lŷn ym morddwyd vn, felly y mae gair ym mola y ffôl.
13Cerydda dy gyfaill rhag iddo wneuthur, ac os efe a wnaeth rhag gwneuthur mwy.
14 # Lefit.19.17. Math.18.15. Cerydda dy gymmydog rhag iddo ddywedyd: ac os dywedodd, rhag iddo ddywedyd eil-waith.
15Cerydda dy gyfaill: o blegit mynych y mae cwyn heb achos.
16Hefyd na choelied dy galon di bob gair: y #Iago3.2.mae vn a lithro ganddo air, ac nid oi fodd: a phwy ni lithra ei dafod?
17Cerydda dy gymmydog cyn bygwth, a dod le i gyfraith y Goruchaf, gan fod yn ddiddig: ofn yr Arglwydd yw dechreuad cymmeradwyaeth, a doethineb a bâr gariad ganddo ef: addysc bywyd yw gwybodaeth gorchymynnion yr Arglwydd: a’r rhai ydynt yn gwneuthur yr hyn sydd fodlon ganddo ef ydynt yn cael ffrwyth pren anfarwoldeb.
18Yr ofn [a geir] gan yr Arglwydd yw pob doethineb, ac ym mhob doethineb y mae gwneuthuriad y gyfraith a gwybodaeth am ei holl alluogaeth ef: y gwâs yr hwn a ddywedo wrth ei feistr, ni wnaf yr hyn sydd fodlon [gennit,] pe gwnae efe wedi hynny, y mae efe yn digio ei faethudd.
19Nid doethineb yw gwybodaeth drygioni, ac lle y byddo cyngor pechaduriaid nid oes synnwyr.
20Y mae drygioni a hwnnw yn ffiaidd, ac y mae angall annoeth.
21Gwell yw ’r hwn sydd yn ofnus ddychrynnedig mewn deall, na’r hwn sydd yn rhagori mewn callineb, ac yn trosseddu cyfraith y Goruchaf.
22Y mae cyfrwystra diwyd a hynny yn anghyfiawn, ac y mae a drŷ ymmaith ffafor i ddangos barn: a doeth yw yr hwn sydd gyfiawn mewn barn.
23Y mae yn gwneuthur drygioni ryw vn wedi ymgrymmu, [ac] yn ddu: ac oi fewn yn llawn twyll tanllyd.
24Efe gan gyd-ostwng ei wyneb, a chymmeryd arno fod yn fyddar lle nid adweinir ef, a achub dy flaen di i wneuthur niwed.
25Ac os o eisieu gallu y rhwystrir iddo ef bechu, efe a wna ddrwg os caiff efe amser.
26Wrth y golwg yr adwainir gwŷr: ac wrth gyfarfod wyneb [yn wyneb] yr adwainir vn dehallus.
27 # Pen.21.20. Gwisc gŵr, a chwerthiniad dannedd, a cherddediad dŷn sydd yn dangos yr hyn sydd ynddo ef.
28Y mae cerydd yr hwn nid yw dêg, ac y mae vn distaw a hwnnw yn gall.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda