Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 17

17
PEN. XVII.
Daioni Duw yn creu, ac yn ymgoleddu dyn.
1Yr #Gene.1.27. & 5.1.|GEN 5:1. doeth.2.23.|WIS 2:23 & 7.1.|WIS 7:1. 1.cor.11.7.|1CO 11:7. colos.3.10.Arglwydd a greawdd ddŷn o’r ddaiar, ac y mae efe yn ei droi ef iddi hi trachefn.
2Efe a roddes iddynt hwy ddyddiau rhifedig, ac amser, ac a roddes iddynt hwy feddiant ar y pethau sy ynddi hi.
3Ac efe ai gwiscodd hwynt â nerth cymmwys iddynt, ac ai gwnaeth hwynt ar ei ddelw ei hun.
4Efe a roddes ei ofn ef ar bob cnawd, ac iddo ef lywodraethu ar rith bwyst-filod ac ehediaid.
5Efe gan rannu a roddes iddynt hwy feddwl yn chweched, ac yn seithfed ymadrodd yr hwn sydd yn mynegu ei rym ef:
6Cyngor, a thafod, a llygaid, clustiau, a chalon a roddes efe iddynt hwy i feddwl: efe ai llanwodd hwynt â gŵybodaeth synnwyr, ac a ddangosodd iddynt hwy dda a drwg.
7Efe a osododd ei olwg ar eu calonnau hwynt: rhoddes iddynt lawenychu byth yn ei ryfeddodau ef, fel y mynegent ei weithrdoedd ef yn synhwyrol:
8Ac y clodfore yr etholedigion ei enw sanctaidd ef.
9Rhoddes hefyd iddynt hwy ŵybodaeth: ac efe a roddes gyfraith y bywyd yn etifeddiaeth iddynt hwy i ddeall eu bod hwy yn awr, y rhai oeddynt farwol.
10Efe a wnaeth gyfammod tragywyddol â hwynt, ac a ddangosodd ei farnedigaethau iddynt hwy,
11Eu llygaid a welsant fawredd gogoniant: ai clust a glywodd ogoniant eu lleferydd, ac efe a ddywedodd wrthynt hwy,
12Gochelwch rhag pob anghyfiawn: hefyd #Exod.20.16. & 22.23.efe a orchymynnodd bob vn o honynt hwy am ei gymydog.
13Ni chuddir eu ffyrdd hwynt oi olwg ef oi flaen ef [y maent hwy] bob amser: a phob dŷn oi ieuengtid [sydd yn pwyso] i ddrygioni: am hynny ni allent hwy wneuthur eu calonnau o rai carregaidd yn rai cigaidd.
14O herwydd wrth ddosparthu cenhedloedd yr holl dir, efe a osododd dywysog ar bôb cenedl, ac #Deut.4.20. & 10.15.a gymmerodd Israel yn rhan iddo ei hun, yr hwn ac efe yn gyntafanedic y mae efe yn ei faethu ag addysc, ac wrth gyfrannu goleuni cariad nid yw yn ei ollwng ef ymmaith.
15Am hynny eu holl weithredoedd hwynt ydynt fel yr haul ger ei fron ef, ac y mae ei lygaid ef yn oestadol ar eu ffyrdd hwynt.
16Nid yw eu anghyfiawnder hwynt guddiedig rhagddo ef: eithr y mae eu holl bechodau hwynt ger ei fron ef: a’r Arglwydd (am ei fod yn ddaionus, ac yn adnabod yr hyn a luniodd efe ei hun) ni’s gadawodd hwynt, ac ni pheidiodd ai harbed.
17Trugaredd gŵr sydd megis sêl gyd ag ef, #Pen.29.13.ac efe a geidw gymwynas dŷn, fel cannwyll llygad, gan rannu edifeirwch iw feibion ai ferched, ac #Matth.25.35.wedi hynny efe a gyfyd eil-waith ac a dâl iddynt hwy: îe eu taledigaeth a dâl efe ar eu pen hwynt.
18Etto #Act.3.19.efe a roddes i’r edifeiriol edifeirwch: ac a alwodd y rhai a adawsent amynedd.
19Tro gan hynny #Ier.3.12.at yr Arglwydd a gâd [dy] bechodau, gweddia oi flaen ef, a gwna lai o fai.
20Dychwel at y Goruchaf, a thro oddi wrth anghyfiawnder: o herwydd efe a’th arwain di o dywyllwch i oleuni iechydwriaeth.
21Casaa hefyd ffieidd-dra yn ddirfawr.
22Pwy #Psal.6.5. esay.38.18,19.a folianna y Goruchaf yn vffern yn lle y rhai a ydynt yn byw, ac yn rhoddi mawl?
23Darfu mawl gan y marw megis gan vn heb fod.
24Yr hwn sydd yn fyw ac yn iach a folian­na yr Arglwydd âi galon.
25Mor fawr yw trugaredd ein harglwydd Dduw ni ai gymmod i’r rhai sy yn troi atto ef yn sanctaidd.
26Ni all pob peth fod mewn dynion: am fod mab dŷn yn farwol.
27Pa beth ddiscleiriach na’r haul: ac y mae diffyg ar hwn: felly dŷn yr hwn sydd yn meddwl [yn ôl] cig a gwaed.
28Y mae efe yn ystyried nerth y nefoedd vchaf: eithr daiar a lludw yw pob dŷn.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda