Numeri 9
9
PEN. IX.
Cadwriaeth gwyl y Pasc. 15 Cwmwl y cyfarwydd-dab. Yr hwn tra safe ar y tabernacl ni syfle yr Israeliaid oi hun man: a thra fydde oddi arno ni thorrent ar eu cerdded.
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwynt allan o dir yr Aipht, ar y mîs cyntaf gan ddywedyd:
2*Cadwed meibion Israel y Pasc hefyd yn ei dymmor.
3Ar y pedwerydd dydd ar ddec or mîs hwn, #Exod.12.2. Lefit.23.5. Num.28.16. Deut.16.2.yn y cyfnos y cedwch ef yn ei dymmor: yn ôl ei holl ddeddfau, ac yn ôl ei holl ddefodau y cedwch ef.
4Felly y llefarodd Moses wrth feibion Israel am gadw y Pasc.
5A chadwasant y Pasc, ar y [mîs] cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddec o’r mîs yn y cyfnos yn anialwch Sanai: yn ol yr hyn oll a orchymynnase yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.
6Ac yr oedd dynion y rhai oeddynt wedi eu halogi wrth gelain dyn, ac ni allent gadw y Pasc ar y dydd hwnnw, yna y ddaethant ger bron Moses a cher bron Aaron, ar y dydd hwnnw.
7A’r dynion hynny a ddywedasant wrtho nyni [ydym] wedi ein halogi wrth gorph dyn marw: pa ham i’n gwaherddir rhac offrymmu offrwm i’r Arglwydd yn ei dymmor, ym mysc meibion Israel?
8A dywedodd Moses wrthynt, sefwch a mi a wrandawaf beth a orchymynno yr Arglwydd o’ch plegit.
9A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd:
10Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd pan fyddo neb wedi ei halogi gan gorph marw, neu [neb]o honoch neu o’ch cenhedlaethau mewn-ffordd bell, etto cadwed Basc i’r Arglwydd.
11Ar y pedwerydd dydd ar ddec o’r ail mîs yn y cyfnos y cadwant ef: yng-hyd a bara croiw, a dail chwerwon y bwyttànt ef.
12Na weddillant[ddim]o honaw hyd y boreu, ac #Exod.12.46. Ioan.19.36.na thorrant ascwrn ynddo: yn ôl holl ddeddf y Pasc y cadwant ef.
13A’r gwr yr hwn a fyddo glân, ac heb fod mewn taith, ac a oedo gadw’r Pasc, torrir ymmaith yr enaid hwnnw o fysc ei bobl, am na offrymmodd offrwm yr Arglwydd yn ei dymmor, ei bechod a ddwg y gŵr hwnnw.
14A phan ymdeithio dieithr gyd a chwi cadwed hefyd Basc yr Arglwydd, fel [y byddo] deddf y Pasc ai ddefod, felly y ceidw: yr #Exod.12.49. Num.15.15.vn deddf fydd i chwi, sef i’r dieithr ac i’r vn sydd ai anedigaeth o’r wlâd.
15Ac ar y dydd #Exod.40.34. Exod.13.21.y codwyd y tabernacl cwmwl a gaeodd am y tabernacl tros babell y destiolaeth, ac yr ydoedd ar y tabernacl fel tân o hwyr hyd forau.
16Felly yr ydoedd yn wastadol: y cwmwl agaie am dano y dydd, ond y nos lliw tân [ydoedd.]
17Ac fel y cyfode y cwmwl oddi ar y babell, felly wedi hynny y cychwnne meibion Israel: ac yn y lle yr hwr yr achose y cwmwl ynddo, yno y gwerssylle meibion Israel.
18Wrth amnaid yr Arglwyd y cychwnne meibion Israel, ac wrth amnaid yr Arglwydd y gwerssyllent: yr holl ddyddiau #1.Cor.10.1.yr arhose y cwmwl ar y tabernacl y gwerssyllent hwy.
19A phan drigc y cwmwl yn hîr ar y tabernacl lawer o ddyddiau, yna meibion Israel a gadwent wiliadwriaeth yr Arglwydd, ac ni chychwnnent.
20Ac os bydde y cwmwl ychydic o ddyddiau ar y tabernacl wrth amnaid yr Arglwydd y gwerssyllent, ac wrth amnaid yr Arglwydd y cychwnnent.
21Hefyd os bydde y cwmwl o hwyr hyd forau, a chyfodi o’r cwmwl y borau, hwythau a symmudent: pa vn bynnac ai dydd ai nos [fydde] pan gyfode y cwmwl yna y cychwnnent.
22 #
Exod.40.34. Os deu-ddydd, os mîs, os blwyddyn [fydde] tra y trige y cwmwl ar y tabernacl gan aros arno, meibion Israel a werssyllent, ac ni chychwnnent, ond pan gode efe y cychwnnent.
23Wrth air yr Arglwydd y gwerssyllent, ac wrth air yr Arglwydd y cychwnnent, [felly] y cadwent wiliadwriaeth yr Arglwydd, yn ol gair yr Arglwydd trwy law Moses.
Dewis Presennol:
Numeri 9: BWMG1588
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.