Numeri 8
8
PEN. VIII.
Trefn y lusernau. 4 Gwaith y canhwyll-bren. 6 Puredigaeth y Lefiaid. 24 Ar ba oedran y caent ddechreu a diweddu eu gwasanaeth.
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd:
2Llefara wrth Aaron a dywet wrtho, pan roddech i fynu y lusernau, llewyrched y saith lusern #Exod.25.37.ar gyfer wyneb y canhwyll-bren.
3Ac felly y gwnaeth Aaron, ar gyfer wyneb y canhwyll-bren y goleuodd efe ei lusernau ef megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
4Dymma waith y canhwyll-bren, #Exod.25.18.cyfanwaith o aur [fydd] hyd ei balader [ie] hyd ei flodau cyfan-waith fydd, yn ol y dull a ddangosodd yr Arglwydd i Moses felly y gweithia efe y canhwyll-bren.
5Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses gan ddywedyd:
6Cymmer y Lefiaid o fysc meibion Israel a phura hwynt.
7Ac fel hyn y gwnei iddynt iw pûro: taenella arnynt ddwfr puredigaeth, a gwnant i’r ellyn fyned tros eu holl gnawd hwynt, a golchant eu gwiscoedd ac ymlanhânt.
8Yna cymmerant fustach ieuangc, ai fwyd offrwm o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew, a’r ail bustach ieuangc a gymmeri di yn aberth tros bechod.
9A phâr i’r Lefiaid ddyfod o flaen pabell y cyfarfod, a chynnull holl gynnulleidfa meibion Israel.
10Yna pâr i’r Lefiaid ddyfod ger bron yr Arglwydd, a gosoded meibion Israel eu dwylo ar y Lefiaid,
11Ac offrymmed Aaron y Lefiaid ger bron yr Arglwydd, yn offrwm o feibion Israel, a byddant hwy i wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd.
12A gosoded y Lefiaid eu dwylo ar ben y bustych: a pharatoa vn yn bech aberth, a’r llall yn offrwm poeth i’r Arglwydd i wneuthur iawn tros y Lefiaid.
13Yna gosod y Lefiaid ger bron Aaron, a cher bron ei feibion, ac offrwm di hwynt yn offrwm i’r Arglwydd.
14A nailltua y Lefiaid o blith meibion Israel, a #Num.3.41.bydded y Lefiaid eiddofi.
15Wedi hynny deued y Lefiaid i wasanaethu pabell y cyfarfod: a phûra di hwynt, ac offrymma hwynt yn offrwm.
16Canys hwynt a roddwyd yn rhodd #Num.3.9.i mi o blith meibion Israel: yn lle agorydd pôb crôth [sef] pôb cyntafanedic o feibion Israel) y cymmerais hwynt i mi.
17 #
Exod.13.1. Luc.2.23. Canys i mi [y daeth] pôb cyntafanedic ym mhlith meibion Israel, o ddyn ac o anifail: er y dydd y tarewais bôb cyntafanedic yng-wlad yr Aipht y sancteiddiais hwynt i mi fy hûn.
18A chymmerais y Lefiaid yn lle pôb cyntafanedic o feibion Israel.
19A rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron, ac iw feibion o blith meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth meibion Israel ym mhabell y cyfarfod, ac i wneuthur iawn tros feibion Israel, fel na byddo plâ ar feibion Israel, wrth ddyfod o feibion Israel i’r cyssegr.
20Yna y gwnaeth Moses ac Aaron a holl gynnulleidfa meibion Israel i’r Lefiaid yn ol yr hyn oll a orchymynnase yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid: felly y gwnaeth meibion Israel iddynt.
21A’r Lefiaid a ymburasant, ac a olchasant eu dillad: ac Aaron ai hoffrymmddd hwynt yn offrwm ger bron yr Arglwydd: a gwnaeth Aaron iawn trostynt iw glanhau.
22Wedi hynny y Lefiaid a ddaethant i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod, ger bron Aaron ai feibion: megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid, felly y gwnaeth efe iddynt.
23A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd:
24Dymma yr hynn [a wneir] i’r Lefiaid: o fab pum mlwydd ar hugain ac vchod y deuant i filwrio milwriaeth yng-wasanaeth pabell y cyfarfod.
25Ac o fab deng-mlwydd a deugain y caiff vn ddychwelyd yn ei ol o filwriaeth y gwasanaeth fel na wasanaetho mwy.
26Ond gwasanaethed gyd ai frodyr ym mhabell y cyfarfod, i orchwylio: ac na wasanaethed y gwasanaeth: fel hyn y gwnei i’r Lefiaid yn eu gorchwyliaeth.
Dewis Presennol:
Numeri 8: BWMG1588
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.