Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 10

10
PEN. X.
Yr vd-cyrn arian. 11 Yr Israeliaid yn ymado a mynydd Sinai. 30 Hobab yn gwrthod myned gyd a Moses.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd:
2Gwna it ddau vd-corn arian: yn gyfanwaith y gwnei hwynt, a byddant it i alw y gynnulleidfa yng-hyd, ac i beri i’r gwerssylloedd gychwyn.
3Pan gânant a hwynt, yr ymgascl yr holl gynnulleidfa attat wrth ddrws pabell y cyfarfod.
4Ond os ag vn y cânant yna y tywysogion [sef] pennaethiaid miloedd Israel a ymgasclant attat-ti.
5Pan ganant hwy alarwm [y waith gyntaf] yna y gwerssylloedd y rhai a werssyllant tua’r dwyrain, a gychwnnant.
6Os canant alarwm [yr ail waith] yna y gwerssylloedd y rhai a werssyllant, tua’r dehau a gychwnnant, alarwm a gânant hwy wrth eu cychwyn.
7Ac wrth alw yng-hyd y gynnulleidfa cenwch yr vdcyrn, ond na chenwch alarwm.
8A meibion Aaron yr offeiriad a gânant ar yr vdcyrn, a byddant i chwi yn ddeddf dragywyddol trwy eich cenhedlaethau.
9Hefyd pan eloch i ryfel yn eich gwlâd, yn erbyn y gorthrymmwr a’ch gorthrymmo chwi, cênwch alarwm mewn vdcyrn: yna y coffeir chwi ger bron yr Arglwydd eich duw, ac yr achubir chwi rhac eich gelynion.
10Ar ddydd eich llawenydd hefyd, ac ar eich gwyliau gosodedic, ac ar ddechrau eich misoedd y cênwch ar yr vdcyrn vwch ben eich offrymmau poeth, a’ch aberthau hedd: a byddant i chwi yn goffadwriaeth ger bron eich Duw: myfi [ydwyf] yr Arglwydd eich Duw.
11A bu yn yr ail flwyddyn ar yr ail mîs ar yr vgeinfed [dydd] o’r mis gyfodi or cwmwl oddi ar dabernacl y destiolaeth.
12A meibion Israel a gychwnnasant iw taith o anialwch Sinai, a’r cwmwl a arhosodd yn anialwch Pharan.
13Felly y cychwnnasant y waith gyntaf wrth air yr Arglwydd trwy law Moses.
14Ac yn #Num.2.3.gyntaf y cychwnnodd lluman gwerssyll meibion Iuda yn ol eu lluoedd: ac ar ei lu ef [yr ydoedd] #Num.1.7.Nahesson mab Aminadab.
15Ac ar lû llwyth meibion Issachar, Nathaniel mab Zuar.
16Ac ar lû llwyth meibion Zabulon, Eliab mab Helon.
17Yna y tynnwyd i lawr y tabernacl, a meibion Israel, a meibion Merari a gychwnnasant gan ddwyn y tabernacl.
18Yna y cychwnnodd lluman gwerssyll Ruben yn eu lluoedd, ac [yr ydoedd] ar ei lu ef Elizur mab Sedeur.
19Ar ar lu llwyth meibion Simeon, Selumiel mab Suri Sadai.
20Ac ar lû llwyth meibion Gad, Eliasaph mab Duel.
21A’r Cehathiaid a gychwnnasant gan ddwyn #Num.4.4.y cyssegr [a’r lleill] a godent y tabernacl tra fyddent hwy yn dyfod.
22Yna lluman gwerssyll meibion Ephraim a gychwnnodd yn ol eu lluoedd, ac [yr oedd] ar ei lû ef Elisamah mab Ammihud.
23Ac ar lû llwyth meibion Manasses, Gamaliel mab Pedazur.
24Ac ar lû llwyth meibion Beniamin, Abidan mab Gedeon.
25Yna lluman gwerssyll meibion Dan yn olaf o’r holl werssylloedd a gychwnnodd yn ol ei lluoedd, ac [yr ydoedd] ar ei lu ef Ahieser mab Ammi Sadi.
26Ac ar lû llwyth meibion Aser, Pagiel mab Ocran.
27Ac ar lû llwyth meibion Nephthali, Ahiram mab Enan.
28Dymma gychwnniadau meibion Israel yn ol eu lluoedd, fel y cychwnnasant.
29A dywedodd Moses wrth Hobab mab Reguel y Madianiad, chwegrwn Moses: myned yr ydym i’r lle yr hwn a ddywedodd yr Arglwydd, rhoddaf hwnnw i chwi, tyret gyd a ni, a gwnawn ddaioni it: canys llefarodd yr Arglwydd ddaioni am Israel.
30Dywedodd yntef wrtho nid âf ddim, onid i’m glwâd fy hun, ac at fyng-henedl fy hun yr âf.
31Yna y dywedodd [Moses,] na âd ni attolwg: canys am it adnabod ein gwerssyllfaoedd yn yr anialwch yr ydwyt i ni yn lle llygaid.
32A phan ddelech gyd a ni, a dyfod o’r daioni hwnnw, yr hwn a wna yr Arglwydd i ni, gwnawn ninnau ddaioni i tithe.
33A chychwnnasant oddi wrth fynydd yr Arglwydd daith trî diwrnod, ac Arch cyfammod yr Arglwydd a gychwnnodd daith tri diwrnod oi blaen hwynt i chwilio am orphywysfa iddynt.
34A chwmwl yr Arglwydd [oedd] arnynt beunydd, wrth eu cychwyn o’r gwerssyll.
35A hefyd pan gychwnne yr Arch Moses a ddywede: #Psal.68.1.cyfot Arglwydd, a gwascarer dy elynion, a ffoed dy gaseion o’th flaen.
36A phan orphywyse hi y dywede efe: dychwel Arglwydd [at] fyrddiwn miloedd Israel.

Dewis Presennol:

Numeri 10: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda