Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 12

12
PEN. XII.
Puredigaeth gwraig yn ol escor.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd:
2Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, os gwraig a feichioga ac a escor ar wryw, yna bydded aflan saith niwrnod: fel dyddiau gwahaniaeth ei mys-glwyf y bydd hi aflan.
3A’r #Gene.17.12.|GEN 17:12. luc.2.21.|LUK 2:21. ioan.7.22.wythfed dydd yr enwaedir ar gnawd ei ddienwaediad ef.
4A thri diwrnod ar ddec ar hugain yr crys yng-waed ei phuredigaeth: na chyffyrdded a dim sanctaidd, ac na ddeued i’r cyssegr nes cyflawni dyddiau ei phuredigaeth.
5Ond os ar fenyw yr escor hi, yna y bydd hi aflan bythefnos, megis [yn] ei misglwyf a chwe diwrnod a thrugain yr erys ar waed ei phuredigaeth.
6A phan gyflawner dyddiau ei phuredigaeth ar fâb neu ferch, dyged oen blwydd yn offrwm poeth, a chyw colomen, neu durtur, yn aberth tros bechod, at yr offeiriad i ddrws pabell y cyfarfod:
7Ac offrymmed efe hynny ger bron yr Arglwydd, a gwnaed iawn drosti: a hi a lanheuir oddi wrth gerddediad ei gwaed: dymma gyfraith yr hon a escor ar wryw neu ar fenyw.
8Ac os ei llaw ni chaiff werth oen, yna cymmered #Luc.2.24.ddwy durtur neu ddau gyw colomen, y naill yn offrwm poeth a’r llall yn aberth tros bechod: a gwnaed yr offeiriad iawn trosti, a glan fydd.

Dewis Presennol:

Lefiticus 12: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda