Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 13

13
PEN. XIII.
Bod i’r offeiriad farnu gwahan-glwyf dyn. 47 a dillad.
1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd:
2Dŷn (pan fyddo yng-hroen ei gnawd, chŵydd neu grammen, neu ddisclaerder, a bod yng-hroen ei #Luc.17.15.gnawd ef megis anafod y clwyf gwahanol,) a ddygir at Aaron yr offeiriad, neu at vn oi feibion ef yr offeiriaid.
3Pan welo yr offeiriad yr anafod yng-hroen y cnawd: os y blewyn yn yr anafod fydd wedi troi yn wynn a gwelediad yr anafod yn ddyfnach na chroen ei gnawd ef, anafod gwahanglwyf yw hwnnw: a’r offeiriad ai hedrych ac ai barn yn aflan.
4Ond os disgleirdeb gwynn fydd efe yng-hroen ei gnawd ef, ac heb fod yn îs ei welediad na’r croen, a’r blewyn heb droi yn wynn: yna caeed yr offeiriad ar yr [anafodus] saith niwrnod
5A’r seithfed dydd edryched yr offeiriad ef, ac os sefyll y bydd yr anafod yn ei olwg ef, heb ledu o’r anafod yn y croen, yna caeed yr ofeiriad arno saith niwrnod eil-waith.
6Ac edryched yr offeiriad ef yr ail seithfed dydd, ac os bydd yr anafod yn crychu, heb ledu o’r anafod yn y croen, yna barned yr offeiriad ef yn lân: crammen yw honno, yna golched ei wiscoedd a glân fydd.
7Ac os y grammen gan ledu a ledy yn y croen, wedi i’r offeiriad ei weled, ai farnu yn lân: yna dangoser ef eilwaith i’r offeiriad.
8Ac edryched yr offeiriad, ac os lledodd y grammen yn y croen, yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwahan-glwyf yw hwnnw.
9Pan fyddo ar ddyn anafod gwahan-glwyf, yna dyger ef at yr offeiriad.
10Ac edryched yr offeiriad, yna os chŵydd gwynn [a fydd] yn y croen, a hwnnw wedi troi y blewyn yn wynn, a dim cîg byw yn y chŵydd.
11Hên wahan-glwyf yw hwnnw, yng-hroen ei gnawd ef, a barned yr offeiriad ef yn aflan: na chaeed arno o herwydd y mae efe yn aflan:
12Ond os y gwahan-glwyf gan darddu a dardda yn y croen, a gorchguddio o’r gwahanglwyf holl groen yr anafodus, oi ben hyd ei draed: pa le bynnac yr edrycho’r offeiriad.
13Yna edryched yr offeiriad ac os y gwahan-glwyf fydd yn cuddio ei holl gnawd ef, yna barned or offeiriad yr anafodus yn lân, [os] trôdd yn wynn ei yd, glân yw.
14A’r dydd y gwelir ynddo gîg byw, aflā fydd
15Yna edryched yr offeiriad ar y cîg byw, a barned ef yn aflan, aflan yw’r cîg byw hunnw, gwahan-glwyf yw.
16Neu os dychwel y cîg byw a throi’n wynn: yna deued at yr offeiriad.
17Ac edryched yr offeiriad arno, ac os trôdd yr anafod yn wynn, yna barned yr offeiriad yr anafod yn lân, glân yw efe.
18A chnawd hefyd (o bydd ynddo gornwyd yn ei groen, ai iachau,
19A bod yn lle y cornwyd chŵydd gwŷnn neu ddisclaerder gwynn-goch) a ddangosir i’r offeiriad.
20Ac edryched yr offeiriad, ac os gwelir ef yn îs na’r croen, a’r blewyn wedi troi yn wynn, yna barned yr offeiriad ef yn aflan gwahan-glwyf yw efe yn tarddu yn y cornwyd.
21Ond os yr offeiriad ai hedrych, ac wele ni bydd ynddo flewyn gwynn ac ni bydd is na’r croen, ond wedi duo: yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod.
22Ac os gan ledu y lleda yn y croen, yna barned yr offeiriad ef yn aflan, anafod yw efe.
23Ond os y disclaerder a saif yn ei le heb ymledu craith cornwyd yw efe, a barned yr offeiriad ef yn lân.
24Os cnawd fydd a llosciad tân ar ei groen, a bod cîg byw y llosciad yn ddisclaerder gwyngoch new wynn.
25Yna edryched yr offeiriad ef, ac os y blewyn yn y disclaerdeb fydd wedi troi yn wyn, ac yn îs iw weled na’r croen, gwahan-glwyf yw hwnnw yn tarddu yn y llosciad, a barned yr offeiriad ef yn aflan, anafod gwahan-glwyf yw hunnw.
26Ond os yr offeiriad ai hedrych, ac wele ni bydd blewyng wyn yn y disclaerder, ac ni bydd îs na’r croen ond ei fod wedi crychu: yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod.
27Ac edryched yr offeiriad ef y saithfed dydd os gan ledu y ledodd yn y croen, yna barned yr offeiriad ef yn aflan, anafod gwahan-glwyf yw hwnnw.
28Ac os y discleirdeb a saif yn ei lê, heb ledu yn y croen, ac efe yn crychu hefyd, chwydd y llosciad yw efe: barned yr offeiriad ef yn lân: canys craith y llosgiad yw hwnnw.
29Pann fyddo gwr neu wraig a’r anafod arno mewn pen neu farf.
30Yna edryched yr offeiriad yr anafod, ac os’s y gwelir na’r croē, a blewyn melyn main ynddo yna barned yr offeiriad ef yn aflā, y ddufrech yw hwnnw, gwahan-glwyf pen neu farf yw efe.
31Ac os yr offeiriad a edrych ar anafod y ddufrech, ac wele nid îs i weled na’r croen a heb flewyn du ynddo, yna caeed yr offeiriaid ar anafod y ddu-frech saith niwrnod.
32Ac edryched yr offeiriad ar yr anafod y seithfed dydd, ac os y ddufrech ni bydd wedi lledu, ac ni bydd blewyn melyn ynddi, ac heb fod îs gweled y ddu-frech na’r croen:
33Yna ymeillied, ac nac eillied [y fan y byddo] y ddufrech, a chaeed yr offeiriad ar [berchen] y ddu-frech saith niwrnod eilwaith.
34A’r seithfed dydd edryched yr offeiriad ar y ddu-frech, ac os y ddufrech ni ledodd yn y croen, ac ni bydd is ei gweled na’r croen, yna barned yr offeiriad ef yn lân, a golched ei ddillad, a glân fydd.
35Ond os y ddu-frech gan ledu a leda yn y croen wedi ei farnu ef yn lân,
36Yna edryched yr offeiriad ef, ac os lledodd y ddufrech yn y croen, na chwilied yr offeiriad am y blewyn melyn: y mae efe yn aflan.
37Ond os sefyll y bydd y ddufrech yn ei olwg ef, a blewyn du yn tyfu trwyddi, aeth y ddu-frech yn iach, glân yw hwnnw, a barned yr offeiriad ef yn lân.
38A phan fyddo yng-hroen cnawd gwr neu wraig lawer o ddisclaer fannau gwynnion:
39Yna edryched yr offeiriad ac os bydd ynghroen eu cnawd hwynt ddiscleiriadau gwynnion wedi eu crychu, brychni yw hynny, yn tarddu yn y croen: glân yw efe.
40A gŵr pan foelo ei ben, moelfydd, [etto] glân fydd efe.
41Ac os o du ei wyneb y moela ei benn ef, efe a fydd tâl-foel [etto] glân fydd efe.
42Ond pan fyddo anafod gwyn-goch yn y pen-foeledd, neu yn y tâl-foeledd, gwahanglwyf yw efe yn tarddu yn ei ben-foeledd, neu yn ei dâl-foeledd ef.
43Ac edryched yr offeiriad ef, ac os bydd chŵydd yr anafod yn wyn-goch yn ei ben-foeledd neu yn ei dâl-foeledd ef, fel lliw gwahanglwyf croen cnawd,
44Gŵr gwahan-glwyfus yw hwnnw, aflan yw: a’r offeiriad ai barna ef yn llwyr aflan: yn ei ben [y mae] ei anafod.
45A’r gwahan-glwyfus yr hwn y byddo’r anafod arno, bydded ei wiscoedd ef yn agored, a bydded ei ben ef yn noeth a rhodded gaead ar ei enau a llefed: aflan, falan,
46Yr holl ddyddiau y rhai y byddo’r anafod arno, #Num.5.2. 4.bren.15.5bernir ef yn aflan, aflan yw efe, triged ei hunan, bydded ei drigfa o’r tu allan i’r gwersyll
47Ac os dilledyn fydd a phla gwahanglwyf ynddo, o ddilledyn gwlân, neu o ddilled yn llîn.
48Pwy vn bynnac ai yn yr ystof, ai yn yr anwê o lin, neu o wlân, neu mewn croen, neu mewn dim a wnaed o groen:
49Os gwyrdd-las, neu gôch fydd yr anafod yn y dilledyn, neu yn y croen, neu yr ystof, neu yn yr anwê, neu mewn vn offeryn croen, anafod y gwahan-glwyf yw efe: a dangoser ef i’r offeiriad.
50Ac edryched yr offeiriad yr anafod, a chaeed ar yr anafod saith niwrnod.
51A’r seithfed dydd edryched yr anafod, os yr anafod a ledodd yn y dilledyn, pa vn bynac ai mewn ystof, ai mewn anwê, ai mewn croen i ba waith bynnac y gweithir y croen, gwahan-glwyf yssol [ac] anafod aflan yw.
52A llosced y dilledyn neu’r ystof, neu’r anwê, o wlân, neu o lîn, neu bôb offeryn croen, yr hwn y byddo anafod ynddo, canys gwahanglwy fyssol yw efe, llosger mewn tân.
53Ac os edrych yr offeiriad, ac wele ni ledodd yr anafod mewn dilledyn, neu mewn ystof, neu mewn anwê, neu mewn vn offeryn croen:
54Yna gorchymynned yr offeiriad iddynt olchi yr hyn y byddo’r anafod ynddo, a chaeed arno saith niwrnod eil-waith.
55Ac edryched yr offeiriad yr anafod wedi ei olchi: os yr anafod ni thrôdd ei liw, er na ledodd yr anafod, efe a fydd aflan: lloscer ef mewn tan, ffrettiad yw efe yn ei lwmder yn y tu wyneb, neu yn ei lwmder yn y tu gwrthwyneb.
56Ac os edrych yr offeiriad, ac wele’r anafod wedi crychu yn ôl ei olchi ef, yno torred ef allan o’r dilledyn, neu o’r croen, neu o’r ystof neu o’r anwê.
57Ond os gwelir mwy yn y dilledyn, neu yn yr ystof, neu yn yr anwê, neu mewn vn offeryn croen, tarddu y mae efe, llosger yr hwn [y mae] yr anafod ynddo mewn tân.
58A’r dilledyn, neu’r ystof, neu’r anwe, neu pa offeryn bynnac o groen, y rhai a olcher, ac yr ymadawo yr anafod hwynt, a olchir eilwaith, a glân fydd efe.
59Dymma gyfraith anafod gwahanglwyf dilledyn gwlân, neu lîn, neu ystof, neu anwê, neu pa offeryn croen bynnac iw farnu’n lân, neu iw farnu’n aflan.

Dewis Presennol:

Lefiticus 13: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda