Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 14

14
PEN. XIIII.
Puredigaeth y dyn, 34 ar ty gwahan-glwyfus.
1Llefarawdd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd.
2Dymma gyfraith y gwahan-glwyfus, #Lefit.13.2. Luc.17.14.y dydd y glanheuir ef: yna dyger ef at yr offeiriad.
3A’r offeiriad a ddaw allan, i’r tu allan ir gwerssyll, ac edryched yr offeiriad, ac os anafod y gwahan-glwyf a iachaodd ar y gwahanglwyfus:
4Yna gorchymynned yr offeiriad i’r hwn a lanheuir gymmeryd dau aderyn y tô byw [a] glân, a choed Cedr, ac yscarlat, ac Yssob.
5A gorchymyned yr offeiriad ladd y naill aderyn y tô, mewn llestr pridd ar ddwfr rhedegoc
6A chymmered efe yr aderyn byw, a’r coed Cedr, a’r scarlat, a’r Yssob, a throched hwynt, a’r aderyn byw hefyd, yng-waed yr aderyn a laddwyd ar y dwfr rhedegoc,
7A thaenelled seithwaith ar yr hwn a lanheuir oddi wrth y gwahan-glwyf, a barned ef yn lân, yna gollynged yr aderyn byw ar hyd wyneb y maes.
8A golched yr hwn a lanheuir eiddillad, ac eillied ei holl flew, ac ymolched mewn dwfr, a glân fydd: a deued wedi hynny i’r gwerssyll, a thriged o’r tu allan iw babell saith niwrnod.
9Ar seithfed dydd bydded iddo eillio ei holl flew, sef ei ben, ai farf, ac aeliau ei lygaid, îe eillied ei holl flew, a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr, a glân fydd.
10A’r wythfed dydd cymmered ddau hesbwrn perffaith-gwblac vn hesbin flwyd berffaith-gwbl, a thair decfed ran [Epha] o beillied yn fwyd offrwm wedi ei gymmyscu trwy olew, ac vn Log o olew.
11A gossoded yr offeiriad yr hwn a lanhâo, y gwr a lanheuir, a hwynt hefyd ger bron yr Arglwydd [wrth] ddrws pabell y cyfarfod.
12A chymmered yr offeiriad vn hesbwrn, ac offrymmed ef yn aberth tros gamwedd, a’r Log o olew hefyd, a chwhwfaned hwynt yn offrwm cwhwfan ger bron yr Arglwydd.
13A lladded efe yr hesbwrn, yn y llê y lladder y peth aberth, a’r poeth offrwm, [sef] yn y lle sanctaidd: o herwyd yr aberth tros gamwedd sydd eiddo’r offeiriad, yn gystal a’r pech aberth, sancteidd-beth cyssegredic yw efe.
14A chymmered yr offeiriad o waed yr aberth dros gamwedd, a rhodded ar gwrr clust ddehau yr hwn a lanheuîr, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau ef.
15A chymmered yr offeiriad o Log yr olew, a thywallted ar gledr ei law asswy ei hun.
16A gwlyched yr offeiriad ei fŷs dehau yn yr olew, yr hwn [fydd] ar gledr ei law asswy, a thaenelled o’r olew ai fŷs, seith-waith ger bron yr Arglwydd.
17Ac o weddill yr olew yr hwn [fydd] at gledr ei law y rydd yr offeiriad ar gwrr clust ddehau yr hwn a lanheuir, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed hehau, ar waed yr offrwm tros gamwedd.
18A’r rhan arall o’r olew yr hwn [fydd] ar gledr llaw’r offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheuir, a gwnaed yr offeiriad iawn trosto ger bron yr Arglwydd.
19Ie gwnaed yr offeiriad aberth tros bechod, a gwnaed iawn tros yr hwn a lanheuir oddi wrth ei aflendid, ac wedi hynny lladded y poeth offrwm.
20Ac aberthed yr offeiriad y poeth offrwm a’r bwyd offrwm ar yr allor: a gwnaed yr offeiriad iawn trosto, a glân fydd.
21Ond os tlawd fydd, ai law heb gyrheuddyd [hyn,] yna cymmered vn hesbwrn, yn aberth tros gamwedd o offrwm cwhwfan, i wneuthur iawn trosto, ac vn decfed ran [Epha] a beillied wedi ei gymmyscu trwy olew yn fwyd offrwm, a Log o olew,
22A dwy durtur, neu ddau gyw colomen y rhai a gyrhaeddo ei law: a bydded vn yn bech aberth, a’r llall yn boeth offrwm.
23A dyged hwynt yr wythfed dydd (at yr offeiriad) iw lanhau wrth ddrws pabell y cyfarfod: ger bron yr Arglwydd.
24A chymmered yr offeiriad hesbwrn yr offrwm tros gamwedd, a’r Log olew, a chwhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cwhwfan gerbron yr Arglwydd.
25A lladded hesbwrn yr offrwm tros gamwedd, a chymmered yr offeiriad o waed yr offrwm tros gamwedd, a rhodded ar gwrr clust ddehau yr hwn a lanheuir, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau.
26A thywallted yr offeiriad yr olew, ar gledr ei law asswy ei hun.
27Ac ai fŷs dehau taenelled yr offeiriad o’r olew yr hwn [fydd] ar gledr ei law asswy, seithwaith ger bron yr Arglwydd.
28A rhodded yr offeiriad o’r olew yr hwn [a fydd] ar gledr ei law, ar gwrr clust ddehau’r hwn a lanheuir, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau, ar y man [y byddo] gwaed yr offrwm tros gamwedd.
29A’r rhan arall o’r olew yr hwn [sydd] ar gledr llaw’r offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheuir, i wneuthur iawn trosto ger bron yr Arglwydd.
30Yna offrymmed vn o’r turturau, neu o’r cywion colomennod [sef] o’r rhai a gyrhaeddo ei law ef.
31Y rhai [meddaf] a gyrhaeddo ei law ef, vn yn bech aberth ac vn yn boeth offrwm ynghyd a’r bwyd offrwm, a gwnaed yr offeiriad iawn tros yr hwn a lanheuir, ger bron yr Arglwydd.
32Dymma gyfraith yr vn [y byddo] anafod y gwahan-glwyf arno, yr hwn ni chyredd ei law wrth ei lanhau [gael amgen.]
33A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd.
34Pan ddeloch i dîr Canaan, yr hwn yr ydwyf yn ei roddi i chwi yn feddiant, os rhoddaf anafod gwahan-glwyf ar dŷ [o fewn] tir eich meddiant.
35Yna deued yr hwn biau y tŷ, a dangosed i’r offeiriad gan ddywedyd gwelaf megis anafod yn tŷ.
36A gorchymynned yr offeiriad iddynt arloesi y tŷ cyn dyfod yr offeiriad i weled yr anafod, fel na halogir yr hyn oll a [fyddo] yn tŷ, ac wedi hynny deued yr offeiriad i edrych y tŷ.
37Ac edryched yr anafod: ac os yr anafod [fydd] ym mharwydydd y tŷ yn agennau gwyrdd-leision, neu gochion, a’r olwg arnynt yn îs na’r pared.
38Yna aed yr offeiriad allan o’r tŷ, i ddrws y tŷ, a chaeed y tŷ saith niwrnod.
39A’r seithfed dydd deued yr offeiriad trachefn, ac edryched, ac os lledodd yr anafod ym mharwydydd y tŷ,
40Yna gorchymynned yr offeiriad iddynt, dynnu y cerric y rhai [y byddo]’r anafod arnynt, a bwriant hwynt, o’r tu allan i’r dinas i lê aflan.
41A phared efe grafu y tŷ oi fewn o amgylch, a thywalldant y llwch yr hwn a grafant, o’r tu allan i’r dinas i lê aflan.
42A chymmerant gerric eraill, a gossodant yn lle y cerric hynny, a chymmered bridd arall a phridded y tŷ.
43Ond os daw’r anafod trachefn, a tharddu yn tŷ, wedi cynnu y cerric, ac wedi crafu y tŷ, ac wedi priddo.
44Yna doed yr offeiriad, ac edryched, ac os lledodd yr anafod yn y tŷ, gwahan-glwyf yssol yw hwnw yn tŷ: aflan yw efe.
45Yna tynned i lawr y tŷ yng-hyd ai gerric, ai goed, a holl bridd y tŷ: a bwried i’r tu allan i’r dinas i lê aflan.
46A’r hwn a ddêl i’r tŷ, yr holl ddyddiau [y rhai] y parodd efe ei gaeu, efe a fydd aflan hyd yr hwyr.
47A’r hwn a gysco yn y tŷ, golched ei ddillad: felly yr hwn a fwyttu yn tŷ golched ei ddillad.
48Ac os yr offeiriad gan ddyfod a ddaw, ac a edrych, ac wele ni ledodd yr anafod yn tŷ, wedi priddo y tŷ, yna barned yr offeiriad y tŷ yn lâu, o herwydd iachau’r anafod.
49A chymmered i buro y tŷ ddau aderyn y tô, #Heb.9.19.a choed Cedr, ac scarlat, ac Ysob.
50A lladded y naill aderyn mewn llestr pridd, ar ddwfr rhedegoc.
51A chymmered y coed Cedr, a’r Ysob, a’r scarlat, a’r aderyn byw, a throched hwynt yng-waed yr aderyn a laddwyd ar y dwfr rhedegoc, a thaenelled ar y tŷ seith-waith.
52A phured y tŷ a gwaed yr aderyn, ac a’r dwfr rhedegoc, ac a’r aderyn hwy, ac a’r coed Cedr, ac a’r Ysob, ac a’r scarlat.
53A gollynged yr aderyn hwy, i’r tu allan i’r ddinas ar hŷd wyneb y maes, a gwnaed iawn tros y tŷ, a glân fydd.
54Dymma gyfraith am bob anafod y clwyf gwahanol, ac am y ddu-frech.
55Ac am wahan-glwyf gwisc, a thŷ.
56Ac am chŵydd, a chrammē, a discleirdeb.
57I ddyscu pa ddydd y bydd [vn] aflan, a pha ddydd y hydd [vn] glân, dymma gyfraith y gwahan-glwyf,

Dewis Presennol:

Lefiticus 14: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda