Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 11

11
PEN. XI.
Yr anifeiliaid, y pyscod, a’r Adar sy lân neu aflan.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd wrthynt:
2Lleferwch wrth feibion Israel gan ddywedyd, #Gene.7.9.|GEN 7:9. deut.14.13|DEU 14:13. act.10.14.dymma y bwyst-fil yr hwn a fwyttewch o bôb anifail yr hwn [sydd] ar y ddaiar.
3Pôb anifail yn cnoi ei gil, a hollto’r cwin, ac a fforchogo hollt yr ewinedd, hwnnw a fwytewch.
4Ond hynn ni fwyttewch o’r rhai a gnoant eu cîl, ac o’r rhai a holltant yr ewin, [sef] y Camel er ei fod y cnoi [ei] gîl, am nad yw yn hollti’r ewin, aflan, [sydd] efe i chwi.
5A’r gwningen am ei bod yn cnoi [ei] chîl, ac heb fforchogi’r ewin, aflan yw i chwi.
6A’r yscyfarnog am ei bod yn cnoi [ei] chil, ac heb fforchogi’r ewin, aflan yw i chwi.
7A’r llwdn hŵch am ei fod yn hollti’r ewin ac yn fforchogi fforchedd yr ewin, ac yntef heb gnoi [ei] gîl: aflan yw efe i chwi.
8Na fwyttewch oi cig hwynt, ac na chyffyrddwch ai burgyn hwynt: aflan ydynt i chwi.
9Hynn a fwyttewch o bôb dim, a’r sydd yn y dyfroedd: pôb peth yr hwn [y mae] iddo ascell, achenn, yn y dyfroedd, yn y moroedd ac yn yr afonydd, y rhai hynny a fwyttewch.
10A phôb dim nid [oes] iddo ascell, a chem yn y moroedd, ac yn yr afonydd: o bôb dim a ymlusco yn y dyfroedd, ac o bôb peth byw y rhai [fyddant] yn y dyfroedd byddant ffiaidd gennych.
11Byddant ffiaidd gennych: na fwyttewch or cig hwynt, a ffeiddiwch eu burgyn hwynt.
12Yr hynn oll yn y dyfroedd ni [byddo] escyll a chenn iddo: ffieidd-beth yw i chwi.
13A’r rhai hyn a ffieiddiwch chwi o’r adar, na fwyttewch [hwynt] ffieidd-dra ydynt: sef yr Eryr a’r wydd-walch, a’r for-wennol.
14A’r fwltur, a’r barcyd, yn ei ryw.
15Pôb cig-fran yn ei rhyw.
16A chyw’r estris, a’r frân nos, a’r gôg, a’r gwalch yn ei rhyw.
17Ac aderyn y corph, a’r fulfrā, a’r ddylluan.
18A’r gocfran, a’r pelican, a’r biogen.
19A’r ciconia, a’r crŷr yn ei rhyw, a’r gorn-chwigl, a’r stlym.
20Pôb ehediad a ymlusco [ac] a gerddo ar bedwar-troed ffieidd-dra yw efe i chwi.
21Ond hynn a fwyttewch o bob ehediad a ymlusco, ac a gerddo ar bedwar [troed] yr hwn ni byddo garrau iddo oddi ar ei draed i neidio wrthynt ar hyd y ddaiar.
22O’r rhai hynny, y rhai hynn a fwyttewch: yr Arb yn ei ryw, a’r Selam yn ei ryw, a’r Hargol yn ei ryw, a’r Hagab yn ei ryw.
23A phob ehediad [arall] a ymlusco yr hwn [y mae] pedwar troed iddo, ffieidd-dra yw efe i chwi.
24Ac yn y rhai hynn y byddwch aflan: pwy bynnac a gyffyrddo ai burgyn hwynt a fydd aflan hyd yr hwyr.
25A phwy bynnac a ddygo eu burgyn hwynt, golched ei ddillad, ac aflan fydd hyd yr hwyr
26Am bôb anifail sydd yn hollti’r ewin, ac heb ei hollti trwodd, ac heb gnoi ei gil, aflan yw y rhai hynny i chwi, aflan fydd yr hynn oll a gyffyrddo a hwynt.
27Pob vn hefyd a gerddo ar ei balfau, o bôb bwyst-fil a gerddo ar bedwar [troed] aflan ydynt i chwi, pôb dim a gyffyrddo ai burgyn a fydd aflan hyd yr hwyr.
28A’r hwn a ddygo eu burgyn hwynt #Lefit.5.2golched ei ddillad, a bydded aflan hyd yr hwyr: aflan yw y rhai hynn i chwi.
29A hynn sydd aflan i chwi o’r ymlusciaid a ymlusco ar y ddaiar: y wengci, a’r llygoden, ar llyffant yn ei ryw.
30A’r draenog, a’r lysard, a’r stelio, a’r falfoden, a’r wâdd.
31Y rhai hynn ydynt aflan i chwi o bôb ymlusciaid: pôb dim a gyffyrddo a hwynt pan fyddant feirw a fydd aflan oi plegit hyd yr hwyr.
32A phôb dim y cwympo [vn] o honynt wedi ei marw arno a fydd aflan, pôb offeryn, o bôb llestr pren, neu wisc, neu groen, neu sâch, y rhai y gwnelir dim gwaith ynddynt, rhodder ef mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr, yna bydded lân.
33A phôb llestr pridd yr hwn y syrthio [vn] o’r rhai hynn iw fewn, aflan fydd yr hynn oll [fydd] oi fewn, a thorwch yntef.
34Aflan sydd pôb bwyd a fwytteir, a’r hwn y del dwfr [aflan] arno: ac aflan fydd pôb diod yr hon a yfir mewn llestr [aflan.]
35Aflan fydd pôb dim yr hwn y cwympo [dim] oi burgyn arno, y ffwrn a’r badell a dorrir, aflan ydynt, ac aflan fyddant i chwi.
36Etto glân fydd y ffynnon, a’r pydew [a’r] llynn: ond yr hynn a gyffyrddo ai burgyn a fydd aflan.
37Ac os syrth [dim] oi burgyn hwynt ar ddim hâd hauedic, yr hwn a heuir glân yw efe.
38Ond os rhoddir dwfr ar yr hâd, a syrthio dim oi burgyn hwynt arno ef: aflan fydd efe i chwi.
39Ac os bydd marw vn anifail yr hwn sydd i chwi yn fwyd, yr hwn a gyffyrddo ai furgyn ef a fydd aflan hyd yr hwyr.
40A’r hwn a fwyttu ei furgyn ef, golched ei ddillad, a bydded aflan hyd yr hwyr: a’r hwn a ddygo ei furgyn ef, gloched ei ddillad, a bydded aflan hyd hwyr.
41A phôb ymlusciad a ymlusco ar y ddaiar, ffieidd-dra yw: na fwyttaer ef.
42Pôb vn a gerddo ar ei dorr, a phôb vn a gerddo, ar bedwar [troed] hyd yn oed pôb aml ei draed o bôb ymlusciad a ymlusco ar y ddaiar, na fwyttewch hwynt, canys ffieidd-dra ydynt.
43Na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd o blegit vn ymlusciad a ymlusco, ac na fyddwch aflan oi plegit, canys aflan fyddech oi herwydd.
44O herwydd myfi yw’r Arglwydd eich Duw chwi, ymsancteiddiwch a byddwch santaidd, o herwydd sanctaidd [ydwyf] fi: ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth vn-ymlusciad, a ymlusco ar y ddaiar.
45Canys myfi [yw]’r Arglwydd yr hwn a’ch dug chwi o dir yr Aipht, i fod yn Dduw i chwi, byddwch chwithau sanctaidd, canys sanctaidd [ydwyf] fi.
46Dymma gyfraith yr anifail, a’r ehediad a phôb peth byw, yr hwn sydd yn ymlusco yn y dyfroedd, ac am bôb peth sydd yn croppian ar y ddaiar.
47I wneuthur gwahan rhwng yr aflan a’r glan, a rhwng yr anifail a fwytteir, a’r anifail yr hwn nis bwytteir.

Dewis Presennol:

Lefiticus 11: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda