Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1.Machabæaid 2

2
PEN. II.
1 Galar Mattathias ai feibion am ddestruwiad y ddinas sanctaidd, 19 hwyntwy yn gwrthed aberthu i eulynnod, 24 serch Mattathias i gyfraith Dduw, 33 yr lddewon yn dioddef eu lladd, ac yn gwrthod ymladd ar y dydd Sabboth, 47 Mattathias cyn marw yn gorchymyn iw feibion lynu wrth air Duw yn ôl siampl yr henafiaid.
1YN yr amseroedd hynny Mattathias mab Ioan, fab Simeon offeiriad o hiliogaeth Ioarib o Ierusalem a gododd i fynu, ac a eisteddodd ym Modin.
2Ac iddo ef yr oedd pum mab, Ioan yr hwn a elwid Gades.
3Simon yr hwn a elwid Thassi.
4Iudas yr hwn a elwid Machabeus.
5Eleazar yr hwn a elwid Habaron, ac Ionathan yr hwn a elwid Aphus.
6Pan welodd efe y cabledd a wneuthid o fewn Iuda, ac yn Ierusalem.
7Efe a ddywedodd, gwae fi fyng-eni i weled cystudd fy-mhobl a chystudd y ddinas sanctaidd, ac i eistedd yno pan roddwyd hi yn llaw y gelynion.
8Y mae ’r cyssegr yn llaw dieithraid, ei theml hi a wnaethpwyd fel gŵr heb ogoniant.
9Ei llestri parchedig hi a dducpwyd ymmaith yn gaethglud, ei phlant bychain hi a ladded yn yr heolydd, ai gwyr ieuaingc hi â chleddyf y gelyn.
10Pa genedl sydd a’r ni etifeddodd ran o’r deyrnas, ac ni ymaflodd yn ei hyspail hi:
11Ducpwyd ymmaith ei holl harddwch hi, gwnaethpwyd hi yn forwyn gaeth yn lle [bod] yn rhydd.
12Canys wele ein cyssegr, a’n tegwch, a’n gogoniant a anrheithiwyd, a’r cenhedloedd ai halogasant hwy.
13I ba beth y byddwn fyw yn hwy nâ hyn:
14A Mattathias ai feibion a rwygasant eu dillad, ac a ymwiscasant mewn lliain sach, ac a alarasant yn ddirfawr.
15A phan ddaeth gwenidogion y brenin i ddinas Modin, y rhai a gymhellod apostasi [sef] aberthu o honynt hwy,
16Llawer o Israel a ddaethant attynt hwy, Mattathias hefyd ai feibion a gasclwyd yng-hyd.
17A gwenidogion y brenin a attebasant, ac a lefarasant wrth Mattathias gan ddywedyd, tywysog pharchedig a mawr wyt ti yn y ddinas hon, a chadarn o feibion, ac o frodyr.
18Gan hynny tyret yn gyntaf yr awran, a gwna orchymmyn y brenin, fel y gwnaeth yr holl genedloedd, a gwŷr Iuda, a’r rhai a adawed yn Ierusalem, felly ti a gei fod a’th dylwyth ym mhlith cyfeillon y brenin, a thydi a’th feibion a anrhydeddir ag arian, ac ag aur, ac â rhoddion lawer.
19A Mattathias a attebodd, ac a ddywedodd â lleferydd vchel, pe gwrandawe holl genhedloedd y deyrnas, a’r rhai sy yn nhŷ ’r brenin arno ef, gan sefyll o bawb allan o grefydd ein henafiaid, a phe cydtunent hwy ai orchymynnion ef:
20Etto myfi a’m meibion a’m brodyr a rodiem fel y mae ammod ein henafiaid.
21Duw a drugarhao wrthym, rhag gadel o honom ei gyfraith ai ddeddfau ef.
22Ni wrandawn ni ar eiriau y brenin i droseddu ein gwasanaeth [gan ŵyro] tu a’r llaw ddehau ne ’r llaw asswy.
23Pan beidiodd efe a dywedyd y geiriau hyn rhyw Iddew a ddaeth yn eu gŵydd hwy i aberthu ar yr allor ym Modin, yn ôl gorchymmyn y brenin.
24Pan welodd Mathathias hyn, efe a wynfydodd ai arennau ef a grynnasant, ac efe a gymmerodd galon yn ôl barn y gyfraith, ac a ru­throdd ac ai lladdodd ef wrth yr allor.
25Ac efe a laddodd yr amser hwnnw wasanaeth-wr y brenin yr hwn oedd yn [eu] cymmell [hwy] i aberthu, ac a ddestruwiodd yr allor.
26Ac efe a ddygodd zêl i’r gyfraith fel y gwnaeth Phinees i Zamri fab Salom.
27A Mattathias a lefodd yn y ddinas âl llef vchel gan ddywedyd, pwy bynag sy ’n dwyn zêl i’r gyfraith, ac sy ’n cadw y cyfammod, canlyned fi.
28Ac efe ai feibion a ffoasant i’r mynyddoedd, ac a adawsant beth bynnac oedd eiddynt hwy yn y ddinas.
29Yna llawer a ddaethant i wared y rhai oedynt yn ceisio cyfiawnder a chyfraith i’r annialwch hwnnw.
30I aros yno hwyntwy ai meibion, ai gwragedd ai hanifeiliaid, canys llawer o ddrwg a ddaeth arnynt hwy.
31A mynegwyd i wŷr y brenin ac i’r lluoedd y rhai oeddynt y Ierusalem yn-ninas Da­fydd fyned o’r gwŷr i wared (y rhai a escydwase orchymyn y brenin ymmaith) i lochesau yn yr anialwch.
32A llawer a redasant ar eu hôl hwy, ac ai goddiweddasant hwy, ac a werssyllasant yn eu herbyn hwy, ac a osodasant ryfel yn eu herbyn hwy ar y dydd Sabboth,
33Ac a ddywedasant wrthynt hwy, digon bellach, deuwch allan a gwnewch yn ôl gorchymmyn y brenin, a chwi a gewch eich hoedl.
34Ac hwy a ddywedasant, ni ddeuwn ni allan, ac ni wnawn ni orchymyn y brenin i halogi yr dydd Sabboth.
35Am hynny hwy a brysurasant i ryfel yn eu herbyn hwynt.
36Ond nid attebasant iddynt hwy, ac ni thaflasant garreg attynt hwy, ac ni chaeasant hwy y llochesau, gan ddywedyd,
37Ni a ddioddefwn farwolaeth oll yn ein diniweidrwydd, y nef, a’r ddaiar a destiolaetha trosom ni, eich bod chwi yn ein difetha heb farn.
38Felly hwy a godasant yn eu herbyn hwy mewn rhyfel ar y dydd Sabboth, ac hwy ai gwraged, ai plant, ai hanifeiliaid a fuant feirw hyd fîl o ddŷnion.
39Pan ŵybu Mattathias ai gyfeillion [hynny] hwy a alarasant am danynt hwy ’n ddir­fawr.
40Yna ’r naill a ddywedodd wrth y llall, os gwnawn ni oll fel y gwnaeth ein brodyr, ac oni ymladdwn ni ’n erbyn y cenedloedd am ein henioes a’n deddfau, hwy a’n difethant ni yrywan y gynt oddi ar y ddaiar.
41Ac hwy a ymgynghorasant y diwrnod hwnnw gan ddywedyd,
42Pwy bynnac a ddelo attom ni i ryfela ar y dydd Sabboth ni a ymladdwn yn ei erbyn ef rhac meirw oll fel y bu feirw ein brodyr yn eu llochesau.
43Yna cynnulleidfa o’r Asidaiaid a ymgasclasant attynt hwy [y rhai oeddynt] grysion o allu [sef] pwy bynnac o Israel oedd yn ewyllyscar i’r gyfraith.
44A phawb ar oedd yn ffoi rhag drygfyd a ymgysylltasant ag hwy, ac a fuant yn gadernid iddynt hwy.
45Ac hwy a gasclasant lu [o wŷr] ac a laddasant y pechaduriaid yn eu dig, a’r gwŷr a­neddfol yn eu llidiogrwydd, a’r llaill a ffoasant at y cenhedloedd ac a ddiangasant.
46Yna Mattathias ai gyfeillion a dramwyodd o amgylch, ac hwy a ddestruwiasant yr allorau.
47Ac hwy a enwaedasant ar y plant dien­waededig cymmaint ag a gawsant hwy o fewn terfynau Israel,
48Ac a erlidiasant y dynion beilchion yn nerthol, a’r gwaith hwn a lwyddodd yn eu dwylo hwynt.
49Ac hwy a waredasant y gyfraith o law y cenhedloedd, ac o law y brenhinoedd, ac ni roesant hwy gryfder i’r pechadur.
50A phan nesaodd dyddiau Mattathias i farw, efe a ddywedodd wrth ei feibion, balchder a chospedigaeth a siccrhaed yrywan, ac amser destruw a dig llidiog.
51Gan hynny fy meibion dygwch Zêl yrywan i’r gyfraith, a rhoddwch eich hoedl mewn perigl er mwyn cyfammod eich tadau.
52Cofiwch weithredoedd ein tadau y rhai a wnaethant hwy yn eu hamseroedd, felly chwi a dderbyniwch fawr barch ac enw tragywyddol.
53Oni chaed Abraham yn ffyddlon mewn profedigaeth, a hynny a gyfrifwyd iddo ef yn gyfiawnder:
54Ioseph yn amser ei gyfingder a gadwodd y gorchymyn, ac a wnaethpwyd yn arglwydd ar yr Aipht.
55Phinees ein tâd wrth ddwyn zêl a ga­fodd ammod am offeiriadaeth dragywyddol.
56Iosua am gyflawni gair [Duw] a wna­ethpwyd yn farn-wr ar Israel.
57Caleb am destiolaethu ger bron y gynnulleidfa a gafodd etifeddiaeth o’r tîr.
58Dafydd yn eu drugaredd a etifeddodd eisteddle y deyrnas dragywyddol.
59Elias wrth ddwyn zêl i’r gyfraith a gymerwyd i fynu i’r nefoedd.
60Ananias, Azarias, a Misael a gredasant [ac] a achubwyd o’r tân.
61Daniel yn ei ddifaleisrwydd a waredwyd oddi wrth safnau y llewod.
62Ac felly ystyriwch ym mhob oes pwy bynnac sydd yn ymddyried ynddo ef, ni orchfygir hwynt.
63Am hynny nac ofnwch rhac geiriau gŵr pechadurus: canys ei ogoniant ef [a syrth] yn dom a phryfed.
64Heddyw efe a dderchefir, ac y foru ni bydd ef iw gael, canys trodd iw bridd, a darfu am ei amcan.
65Gan hynny chwychwi feibion, cymmerwch galonnau ac ymwrolwch yn y gyfraith, canys chwi a gewch barch oddi wrthi hi.
66Ac wele Simon eich brawd gwn mai gŵr cynghorus yw efe, gwrandewch arno ef bob amser, efe a fydd yn dâd i chwi.
67Ac am Iudas Macchabæus yr oedd efe yn gryf ac yn nerthol oi ieuengtid bydded efe gapten i chwi, ac ordeiniwch ryfel y bobloedd.
68Felly y dygwch attoch bawb a’r y sy yn cadw yr gyfraith, a dielwch ddial eich pobl.
69Telwch adref i’r cenhedloedd a glynwch wrth orchymynnion y gyfraith.
70Yna efe ai bendithiodd hwy, ac efe a osodwyd at ei henafiaid.
71Ac efe a fu farw yn y chweched flwyddyn a deugain a chant, ai feibion ai claddasant ef ym­medd ei henafiaid ym Modin, a holl Israel a alarodd am dano ef â galar mawr.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda