Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1.Machabæaid 1

1
PEN. I
1 Wedi marwolaeth Alexander brenin Macedonia. 11 Antiochus yn cymmeryd y deyrnas. 12 Llawer o blant Israel yn gwneuthur ammod â’r cenhedloedd. 22 Antiochus yn daroswng yr Aipht, ac Ierusalem tano. 43 Wedi llosci Ierusalem yn gwneuthur cyfreithiau, yn gorafun cadw cyfraith Dduw. 57 Ac yn gosod ffiaidd-beth anrheithiol ar allor Dduw.
1Wedi i Alexander o Pacedonia, mab Philip fyned allan o wlâd Cethim, a lladd Darius brenin y Persiaid a’r Mediaid, a theyrnasu yn ei le ef, fel y teyrnasase efe o’r bla­en yn Groec,
2Efe a osododd ryfeloedd lawer, ac a enillodd ddinasoedd cedyrn, ac a laddodd frenhinoedd y ddaiar.
3Ac a dramwyodd hyd eithafoedd y byd, ac a yspeiliodd lawer o genhedloedd, a’r ddaiar a ddistawodd ger ei fron ef, ac am hynny ei galon ef a dderchafwyd, ac falchiwyd.
4Ac wedi iddo ef gesclu llu cadarn iawn,
5Efe a ddarostyngodd wledydd a chēhedloedd a theyrnasoedd, ac ai gwnaeth hwy yn drethawl iddo ef.
6Ac wedi hyn efe a glafychodd, ac wybu y bydde marw.
7Ac a alwodd am ei wasanaethwŷr anrhy­deddus, y rhai a gydfaethesid ag ef oi ieuengtid, ac a gyfrannodd ei deyrnas iddynt hwy, pan oedd efe etto yn fyw.
8Wedi i Alexander deyrnasu ddeu-ddeng mlhynedd a marw.
9Ei dywysogion ef a gadwasant feddiant, bôb vn yn ei fangre ei hun,
10Ac hwy oll a osodasant goronau [ar eu pennau] wedi ei farw ef, ai meibion ar eu hôl hwy lawer o flynyddoedd, a drygioni a amlhaodd ar y ddâiar.
11Ac o honynt hwy y daeth y gwreiddin pechadurus Antiochus Epiphanes mab Antiochus y brenin, yr hwn a fuase yn wystl yn Rhufain, ac efe a deyrnasodd yn y ddwyfed flwyddyn ar bymthec ar hugain a chant o frenhiniaeth y Groeg-wŷr.
12Yn y dyddiau hynny dynion afreolus a ddaethant allan o Israel, ac a hudasant lawer gan ddywedyd, awn ac gwnawn ammod a’r cenhedloedd y rhai sy o’n hamgylch ni, canys er pan ein gwhaned oddi wrthynt hwy, ni a gawsom lawer o ddryg-fyd.
13A’r ymadrodd hwn oedd dda yn eu golwg hwy.
14A rhai o’r bobl a fuont barod, ac a aethant at y brenin, ac efe a roddes iddynt hwy awdurdod i wneuthur defodau y cenhedloedd.
15Ac hwy a adailadasant yscol yn Ierusalem yn ôl arfer y cenhedloed.
16Ac hwy a wnaethant ddienwaediad iddynt ei hunain, ac a giliasant oddi wrth y cyfammod sanctaidd, ac wedi iddynt hwy ym­gyssylltu a’r cenhedloedd, hwy a ymroesant i wneuthur drwg.
17A’r deyrnas oedd barod o flaen Antiochus, ac efe a fwriadodd deyrnasu ar yr Aipht fel y galle efe deyrnasu ar ddwy deyrnas.
18Ac efe a aeth i mewn i’r Aipht â thorf fawr, â cherbydau, ag Elephannod â gwŷr meirch, ac â llynges fawr,
19Ac a ddechreuodd ryfela yn erbyn Ptolemeus brenin yr Aipht, a Ptolemues a drôdd allan oi olwg ef, ac ffôdd, a llawer a syrthiasant yn archolledig.
20Ac hwy a enillasant y dinasoedd amdde­ffynadwy yn nhir yr Aipht, ac Antiochus a gymmerodd yspail yr Aipht.
21Ac Antiochus a ddychwelodd wedi iddo ef daro yr Aipht, yn y drydedd flwyddyn a deugein a chant:
22Ac a aeth i fynu yn erbyn Israel ac Ierusalem â chynnulleidfa fawr.
23Ac efe a aeth i mewn yn falch i’r cyssegr, ac a gymerodd yr allor aur a’r canhwyll-bren [yr hwn oedd yn dal] y goleuad, ai holl offer ef, a bwrdd [y bara] gosod, a’r cawgiau, a’r dysclau, a’r llwyau aur, a’r llen, a’r coronau, a’r hardd wisc aur yr hon oedd rhyd tu wyneb y Deml, ac efe a dynnodd yr aur oddi arnynt hwy oll.
24Ac efe a gymmerodd yr arian a’r aur a’r dodrefn annwyl, ac a gymmerodd y tryssorau cuddiedic y rhai a gafodd efe, ac wedi iddo ef gymeryd y cwbl, efe a aeth ymmaith iw wlad ei hun.
25Ac efe a wnaeth gelanedd ar ddynion, ac a ddywedodd yn falch tros ben.
26Am hynny y bu galar mawr ym mhlith yr Israeliaid ym mhob lle o’r eiddynt hwy.
27Canys y tywysogion a’r henuriaid a o­cheneidiasant, y morwynion a’r gwŷr ieuaingc a lescasant, a thegwch y gwragedd a gyfnewi­diwyd.
28Pob priodas-fab a gymmerodd alar, yr hon oedd yn eistedd yn yr stafell briodas oedd mewn tristwch.
29A’r wlâd a gynhyrfodd o herwydd ei thri­golion, a holl dŷ Iacob a syrthiodd mewn cywi­lydd.
30Wedi dwy flynedd gyfiawn y brenin a ddanfonodd y tywysog yr hwn oedd yn derbyn y deyrn-ged i ddinasoedd Iuda, yr hwn a ddaeth i Ierusalem â thorf drom.
31Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy eiriau heddychol yn dwyllodrus, ac hwy ai credasāt ef.
32Felly efe a ruthrodd i’r ddinas yn ddisymmwth, ac ai tarawodd hi â dyrnod mawr, ac a ddestruwiodd lawer o bobl o Israel.
33Ac a gymmerodd yspail y ddinas, ac ai lloscodd hi â thân, ac a ddestruwiodd ei thai hi ai chaerau oddi amgylch.
34Ac hwy a gaethiwasant y gwragedd a’r plant, ac a feddiannasant yr anifeiliaid.
35Yna yr adeiladasant ddinas Dafydd â chaer fawr gref, ac â thyrau cedyrn, ac ai gwnaethant hi yn gastell cadarn iddynt eu hun.
36Heb law hyn hwy a osodasant y genhedlaeth bechadurus yno, sef y dynion anneddfol, ac hwy a ymgadarnhasant ynddi hi.
37Ac hwy a gludasant arfau a bwyd ac wedi iddynt hwy gasclu yspail Ierusalem yng­hyd, hwy ai gosodasant ef yno, ac felly hwy a fuant yn rhwyd fawr.
38Canys yr oedd yn cynllwyn y cyssegr, ac yn gyhuddwr drigionus i Israel bob amser.
39Oddi yno hwy a ollyngent waed diniwed o amgylch y cyssergr, ac a halogent y lle sanctaidd.
40A thrigolion Ierusalem a ffoasant oi plegit hwy, a’r dref oedd yn breswylfa i ddieithraid, ac oedd yn estronaidd iw meibion ei hun, ai phlant ei hun ai gadawsant hi.
41Ei chyssegr hi a anrheithiwyd fel diffa­ethwch, ei gwyliau hi a droiwyd yn alar, ei Sabbothau yn wradwydd, ei anrhydedd yn ddiddim.
42Fel y buase ei pharch hi, felly y bu ei hammarch hi, ac y troiwyd ei huchelder hi yn alar.
43A’r brenin a scrifennodd at ei holl deyr­nas am fod o bawb yn bobl gydt vn, ac ymadel o bob dŷn ai gyfreithiau ei hun.
44A’r holl genhedloedd a dderbyniasant orchymyn y brenin.
45A llawer o Israel a gytunasant iw wasaneuthu ef, ac a aberthasant i eulynnod, ac a halogasant y Sabboth.
46Canys y brenin a ddanfonodd lyfrau gyd â chenadon i Ierusalem, ac i ddinasoedd Iuda fel yr elent hwy ar ôl deddfau dieithriaid y wlad,
47I wahardd poeth offrymmau, a bwyd o­ffrwm, a diod offrwm yn y cyssegr,
48Ac i halogi y Sabbothau a’r gwyliau,
49Ac i ddifwyno y cyssegr a’r sainct.
50I adeiladu allorau, a llwynau, a themlau eulynnod, ac i aberthu cig môch, ac anifeiliaid aflan,
51Ac i ollwng eu meibion yn ddienwaededic i wneuthur eu heneidiau yn ffiaidd â phob peth aflan trwy halogrwydd fel y gollyogent hwy y gyfraith tros gof, ac fel y cyfnewidient hwy ’r holl ddeddfau.
52A’r hwn ni wnele yn ôl gorchymyn y brenin y bydde rhaid iddo farw,
53Efe a scrifennodd at ei holl deyrnas yn ôl yr holl eiriau hyn, ac a wnaeth wiliadwŷr ar yr holl bobl.
54Ac a orchymynnodd i ddinasoedd Iuda aberthu ym mhob cyfryw ddinas.
55Am hynny llawer o’r bobl a ymgasclasant attynt hwy, pwy bynnac a adawse ’r gyfraith: ac hwy a wnaethant ddrwg yn y wlad.
56Ac hwy a wnaethant i Israel lechu mewn lleoedd cuddiedic, [sef] yn eu holl lochesau.
57A’r pymthecfed dydd o’r mi’s Calleu yn y bummed flwyddyn a deugain a chant, hwy a adeiladasant ffiaidd beth anrheithiol ar yr allor, ac o fewn dinasoedd Iuda oddi amgylch hwy a adeiladasant allorau.
58Ac a arogl-darthasant yn-nrysau ’r tai, ac yn yr heolydd.
59Ac a rwygasant lyfrau yr gyfraith y rhai a gawsant hwy, [ac] ai lloscasant [hwy] â thân.
60A pha le bynnac y ceid llyfr y cyfammod gyd â neb, ne o’s cydtune neb âr gyfraith efe a leddid wrth orchymyn y brenin.
61Wrth eu cryfder hwy a wnaent felly i’r Israeliaid a geid bob mis yn y dinasoedd.
62A’r vnfed [dydd] ar hugain o’r mîs wrth aberthu ar yr allor yr hon oedd yn lle yr allor [gyfreithlon,]
63Hwy a laddasant y gwragedd yn-ôl gorchymyn Antiochus, y rhai a barase enwaedu ar eu meibion.
64Ac a grogasant y plant bychain wrth eu gyddfau, ac a yspeliasant eu tai hwy, ac a laddasant [y rhai] a enwaedase arnynt hwy.
65A llawer yn Israel a ymgadarnhasant, ac a ymsiccrhasant ynddynt eu hunain, na fwytaent bethau aflan.
66Ac hwy a gymmerasant feddwi i farw, rhac eu difwyno â bwydydd, a rhag halogi o honynt hwy y cyfammod sanctaidd.
67Ac hwy a ddioddefasant farwolaeth, am hynny y bu ddigofaint mawr iawn yn Ierusalem.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda