Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1.Machabæaid 3

3
PEN. III.
1 Iudas a wnaethpwyd yn llywodraethwr ar yr Iddewō. 11 Efe yn lladd Apollonius a Seron tywysogion Syria, 44 Hyder Iudas ar Dduw. 55 Iudas yn bwriadu ymladd yn erbyn Lysias yr hwn a wnaeth Antiochus yn gapten ar ei lu. 50 Gweddi tros Nazareaid.
1Yna Iudas yr hwn a elwid Macchabæus ei fab ef a gododd i fynu yn ei lê ef,
2Ai holl frodyr ai cymmorthasant ef, a phawb a’r a lynase wrth ei dâd ef, ac hwy a ym­laddasant tros Israel yn llawen.
3Felly efe a helaethodd barch ei bobl, ac a wiscodd ddwyfronnec fel cawr ac a ymwregysodd âi luric, ac a osododd ryfeloedd, ac a amddeffynnodd y gwerssyll a’r cleddyf.
4Ac efe a fu debyg i lew yn ei weithredoedd, ac fel cenw llew yn rhuo ar ei helfa.
5Ac efe a erlidiodd y rhai drwg gan eu chwilio [hwy] allan, ac a loscodd y rhai oeddynt yn cythryblu ei bobl ef.
6A’r rhai drwg a syrthiasant mewn cyfingder rhag ei ofn ef, a phawb a’r oeddynt yn gwneuthur drygioni a syrthiasant mewn cythry­fwl, felly y llwyddodd iechydwriaeth trwy ei lywodraeth ef.
7Ac efe a wnaeth i lawer o frenhinoedd ofidio, ac a llawenychodd Iacob ai weithredoedd, ac y mae ei goffadwriaeth ef yn fendith [lawn] hyd yn dragywydd.
8Ac efe a dramwyodd trwy ddinasoedd Iudaea, ac a ddestruwiodd y rhai annuwiol allan o honi hi, ac a drodd heibio ddigofaint oddi wrth Israel.
9Ai enw ef a gerddodd hyd eithafoedd y ddaiar, ac efe a gasclodd y rhai oeddynt ar ddarfod am danynt.
10Yna Apollonius a gasclodd genhedloedd a llu mawr o Samaria i ryfela yn erbyn Israel.
11Pan ŵybu Judas, efe a aeth iw gyfarfod ef, ac ai tarawodd ef: ac ai lladdodd ef, a llawer a sirthiasant yn archolledig, a’r llaill a ffoâsant, ac efe a gymmerodd eu hyspail hwy.
12Ac Iudas a gymmerodd gleddyf Apol­lonius, ac a ymladdodd ag ef [ei] holl ddyddiau.
13Pan glywodd Seron tywysog y llu o Syria gasclu o Iudas gynnulleidfa, ac eglwys o ffyddloniaid a rhyfel-wŷr gyd ag ef,
14Efe a ddywedodd, myfi a wnaf enw i mi fy hun, ac myfi a gaf barch yn y deyrnas, ac mi a ryfelaf yn erbyn Iudas a’r rhai sy gyd ag ef a’r rhai sy yn diystyru gorchymyn y brenin.
15Ac efe a ymrodd i ddyfod i fynu, a chyd ag ef y daeth gwerssyll cryf o rai annuwiol i fynu iw gymmorth ef, ac i wneuthur dial ar feibion Israel.
16Pan nessaodd efe yn gyfagos i riw Bethoron, Iudas a aeth allan iw gyfarfod ef â thorf fechan.
17A phan welsant hwy lu yn dyfod iw cyfarfod, hwy a ddywedasant wrth Iudas: pa fodd y gallwn ni, a ninnau yn ychydig ymladd yn erbyn lliaws cymmeint, [a chyn] gryfed: yr ydym ni [hefyd] wedi deffygio heb fwyd heddyw.
18Ac Iudas a ddywedodd, hawdd ydyw caeu llawer yn nwylo ychydig, ac nid oes rago­riaeth ger bron [Duw] nef, rhwng achub âlla­wer neu ag ychydig.
19Canys nid yn lliawsogrwydd y llu y mae buddugoliaeth y rhyfel, ond cadernid sydd o’r nef.
20Maent hwy yn dyfod attom ni mewn mawr draha a cham-wedd in dwyn ni ymmaith, a’n gwragedd an plant i’n hyspeilio.
21Ond nyni ydym yn ymladd am ein henioes a’n cyfreithiau.
22Ac efe [Duw] ai dryllia hwy ger ein bron ni, gan hyny nac ofnwch chwi rhagddynt hwy.
23A phan beidiodd efe a dywedyd, efe a neidiodd yn ddiarwybod arnynt hwy: felly y ddifethwyd Seron ai werssyll oi flaen ef.
24Ac hwynt ai herlidiâsant hwy ar hyd goriwared Bethoron hyd y maes, ac yno y lladded yng-hylch ŵyth-cant o wŷr o honynt hwy, a’r lleill a ffoâsant i wlâd y Philistiaid.
25Yna ofn ac arswyd Iudas at frodyr a ddechreuodd syrthio ar y cenhedloedd oi hamgylch hwy,
26Ai enw ef a gyrheddodd hyd at y brenin, a phob cenedl a fedre fynegu rhyfeloedd Iuda.
27A phan glybu Antiochus y brenin y geiriau hyn, efe a ddigiodd yn llidiog, ac a ddanfonodd allan, ac a gasclodd holl luoedd ei deyrnas yn werssyll cryfiawn.
28Ac efe a agorodd ei dryssor-dŷ, ac a roddes gyflogau iw luoedd tros flwyddyn, ac a orchymynnodd iddynt hwy fod yn barod tros flwyddyn i bob gwasanaeth.
29Ond pan welodd efe yr arian a’r tryssorau yn pallu a’r rhai oedd yn casclu teyrn-ged y wlad yn anaml, o blegit yr anghydtundeb, a’r dialedd a wnaethe efe yn y wlâd gan dynnu ymmaith y chfreithiau y rhai a fuase er y dyddiau cyntaf:
30Yna efe a ofnodd rhag na bydde ganddo ef ddigon i atteb vn waith neu ddwywaith y draul a’r rhoddion y rhai a roddase efe o’r blaen â llaw helaeth, fel y buase efe helaethach nâ ’r brenhinoedd o’r blaen mewn haelioni.
31Am hynny yr oedd efe mewn cyfyngder yn ei galon, ond efe a gymmerodd feddwl i fyned i Persia i gymmeryd teyrn-gêd y gwle­dydd, ac i gasclu llawer o arian.
32Am hynny efe a adawodd Lysias gŵr anrhydeddus, ac o genedl y brenin ar fatterion y brenin, o’r afon Euphrates hyd derfynau yr Aipht,
33Ac i ddwyn Antiochus ei fab ef i fynu hyd oni ddychwele efe.
34Ac efe a roddes iddo ef hanne y lluoedd, a’r Elephantiaid, ac a roes orchymynnion iddo ef am bob peth a’r a ewyllysie efe ei wneuthur, ac yng-hylch y rhai oeddynt yn trigo yn Iuda, ac yn Ierusalem,
35I ddanfon llu yn eu herbyn hwy i ddestruwid, ac i ddiwreiddio nerth yr Israeliaid, a gweddill Ierusalem, ac i dynnu ymmaith eu coffadwriaeth hwy o’r lle hwnnw.
36Ac i osod dynion dieithr i vrigo yn eir holl derfynau hwy, ac i gyfrannu eu gwlad hwy wrth goel-brennau.
37A’r brenin a gymmerodd hanner y llu­oedd y rhai a weddillasid, ac a gychwnnodd o Antioch dinas ei deyrnas ef y seithfed flwyddyn a deugain a chant, ac efe a aeth tros yr afon Euphrates, ac a drammwyodd trwy ’r gwledydd vchaf.
38A Lysias a ddewisodd Ptolomeus fab Dorymenus, Nicanor, a Gorgias gwŷr galluoc a chyfeillion y brenin.
39Ac efe a ddanfonodd ddeugain-mîl o wŷr [traed] gyd â hwy, a seith-mil o wŷr meirch i fyned i wlâd Iuda, iw destruwio hi yn ôl gorchymyn y brenin.
40Ac hwy a gychwnnasant âi holl lu, ac a ddaethant, ac a werssyllasant yn gyfagos i Emmaus ar y tîr gwastad.
41Pan glybu marchnad-wŷr y wlad sôn am danynt, hwy a gymmerasant arian, a llawer iawn o aur, a gwenidogion, ac a ddaethant i’r gwerssyll i brynu meibion Israel yn gaethion, â lluoedd o Syria a gwlâd y dieithraid a ddaethant attynt hwy.
42Pan welodd Iudas ai frodyr chwanegu o’r drwg a gwerssyllu o’r lluoedd o fewn eu terfynau hwy, pan ystyriasant hwy eiriau ’r brenin, y rhai a orchymynnase efe [nid amgen, nac] i wneuthur destruw a phen am y bobl,
43Yna ’r naill a ddywedodd wrth y llall, gosodwn ein pobl trachefn allan o orthrymder, ac ymladdwn tros ein pobl a’r cyssegr.
44A’r gynnulleidfa a ymgasclodd i fod yn barod i ryfela, ac i weddio, ac i ofyn trugaredd a thosturi.
45Canys gwâg oedd Ierusalem heb drigiolion fel anialwch, nid oedd neb oi phlant hi yn myned i mewn, nac yn dyfod allan, a ’r cyssegr oedd wedi ei sathru, a meibion alltudion yn cadw ’r castell, lle-ty [oedd hi] i’r cenhedloedd, a’r hyfrydwch a dynnasid ymmaith oddi wrth Iacob, a’r bibell a’r delyn a beidiasent.
46[A’r Israeliaid] a ymgasclasant yng­hyd, ac a ddaethant i Maspha gyferbyn ag Ierusalem, canys yr oedd lle ym-Maspha o’r blaen i Israel i weddio.
47Ac hwy a ymprydiasant y diwrnod hwnnw, ac a wiscasant liain sach, ac [a fwriasant] ludw ar eu pennau, ac a rwygâsant eu dillad.
48Ac a ledâsant lyfrau ’r gyfraith am y rhai yr oedd y cenhedloedd yn chwilio i orgra­phu lluniau eu delwau ynddynt hwy.
49Ac a ddugasant ddillad yr offeiriaid, a’r pethau cyntaf-anedig, a’r degymmau, ac a gyffroasant y Nazareiaid y rhai a gyflawnasent [eu] dyddiau.
50Ac a lefasant â llef [vchel] tu a’r nef gan ddywedyd, pa beth a wnawn ni i’r rhai hyn: ac i ba le y dygwn ni hwy ymmaith:
51Dy gyssegr di a sathred, ac a ddifwyned, a’th offeiriaid di sy mewn galar a gostyngiad.
52Ac wele ’r cenhedloedd a ymgasclasant yn ein herbyn ni i’n destruwio ni, ti a ŵyddost pa bethau y maent hwy yn eu bwriadu yn ein herbyn.
53Pa fodd y gallwn ni sefyll yn eu hwyneb hwy oddi eithr i ti ein cynnorthwyo ni?
54Yna hwy a ganâsant ag vdcyrn, ac a wa­eddasant â llef vchel.
55Yna Iudas a osododd gapteniaid ar y bobl, capteniaid ar fil, ar gant, ar ddec-a-deu­gain, ac ar ddêc.
56Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oeddynt yn adeiladu teiau, ac a briodasent wragedd, ac a blannasent win-llannoedd, a’r rhai ofnus am ddychwelyd o bob vn iw dŷ #Deut.20.5. Barn.7.3.yn ôl y gyfraith.
57A’r llu a esinudodd, ac a werssyllodd o’r tu heheu i Emmaus.
58Ac Iudas a ddywedodd, ymwregyswch, a byddwch wŷr gŵrol, a byddwch barod i ym­ladd y foru â’r cenhedloedd hyn y rhai a ymgasclasant yn ein herbyn ni, i’n destruwio ni a’n cyssegr.
59Canys gwell i ni feirw yn y rhyfel, na gweled drygfyd ein cenedl a’n cyssegr.
60Ond fel y byddo ewyllys [Duw] yn y nef, felly gwneled.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda