Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 5

5
A.D. 60. —
1 Wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae i ni dangnefedd rhyngom a Duw, 2 a llawenydd yn ein gobaith: 8 gan ein cymodi trwy ei waed ef, a nyni yn elynion iddo, 10 y cawn yn hytrach fod yn gadwedig wedi ein cymodi. 12 Megis y daeth pechod a marwolaeth trwy Adda, 17 felly yn hytrach y daw cyfiawnder a bywyd trwy Iesu Grist. 20 Lle yr amlhaodd pechod, y rhagor‐amlhaodd gras.
1Am hynny, #Esa 32:17; Ioan 16:33gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist: 2#Eff 2:18; 3:12; Heb 10:19Trwy yr hwn hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd i’r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll ac #Heb 3:6yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw. 3Ac nid felly yn unig, eithr yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau; #Iago 1:3gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch; 4A dioddefgarwch, brofiad; a phrofiad, obaith: 5A gobaith ni chywilyddia, am fod cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau ni, trwy’r Ysbryd Glân yr hwn a roddwyd i ni. 6Canys Crist, pan oeddem ni eto yn weiniaid, mewn #5:6 amser cyfaddas.pryd a fu farw dros yr annuwiol. 7Oblegid braidd y bydd neb farw dros un cyfiawn: oblegid dros y da ysgatfydd fe feiddiai un farw hefyd. 8Eithr #Ioan 15:13; 1 Pedr 3:18; 1 Ioan 3:16; 4:9y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom; oblegid, a nyni eto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni. 9Mwy ynteu o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, y’n hachubir rhag digofaint trwyddo ef. 10Canys #Pen 8:32os pan oeddem yn elynion, #2 Cor 5:19; Eff 2:16y’n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef; mwy o lawer, wedi ein heddychu, y’n hachubir #Ioan 5:26; 14:19; 2 Cor 4:10, 11trwy ei fywyd ef. 11Ac nid hynny yn unig, eithr gorfoleddu yr ydym hefyd yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn yr awr hon y derbyniasom y cymod. 12Am hynny, megis #Gen 8:6; 1 Cor 15:21trwy un dyn y daeth pechod i’r byd, a #Gen 2:17; Pen 6:23marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint â phechu o bawb: 13Canys hyd y ddeddf yr oedd pechod yn y byd: eithr #Pen 4:15; 1 Ioan 3:4ni chyfrifir pechod pryd nad oes deddf. 14Eithr teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, ie, arnynt hwy y rhai ni phechasant yn ôl cyffelybiaeth camwedd Adda, #1 Cor 15:21, 22, 45yr hwn yw ffurf yr un oedd ar ddyfod. 15Eithr nid megis y camwedd, felly y mae’r dawn hefyd. Canys os trwy gamwedd un y bu feirw llawer; mwy o lawer yr amlhaodd gras Duw, a’r dawn trwy ras yr un dyn Iesu Grist, #Mat 20:28; 26:28i laweroedd. 16Ac nid megis y bu trwy un a bechodd, y mae’r dawn: canys y farn a ddaeth o un camwedd i gondemniad; eithr y dawn sydd o gamweddau lawer i gyfiawnhad. 17Canys os trwy #5:17 un camweddgamwedd un y teyrnasodd marwolaeth trwy un; mwy o lawer y caiff y rhai sydd yn derbyn lluosowgrwydd o ras, ac o ddawn cyfiawnder, deyrnasu mewn bywyd trwy un, Iesu Grist. 18Felly gan hynny, megis trwy #5:18 un camwedd.gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad; felly hefyd trwy #5:18 un cyfiawnder.gyfiawnder un y daeth y dawn #Ioan 12:32; Heb 2:9ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd. 19Oblegid megis trwy anufudd‐dod un dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid; felly trwy ufudd‐dod un y gwneir llawer yn gyfiawn. 20Eithr #Ioan 15:22; Pen 4:15 7:8; Gal 3:19, 23y ddeddf a ddaeth i mewn fel yr amlhâi’r camwedd: eithr lle yr amlhaodd y pechod, y rhagor amlhaodd gras: 21Fel megis y teyrnasodd pechod i farwolaeth, felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Dewis Presennol:

Rhufeiniaid 5: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda