Rhufeiniaid 4
4
A.D. 60. —
1 Ffydd Abraham a gyfrifwyd iddo yn gyfiawnder, 10 cyn enwaedu arno. 13 Trwy ffydd yn unig y derbyniodd efe a’i had yr addewid. 16 Abraham yw tad pawb a’r sydd yn credu. 24 Ein ffydd ninnau hefyd a gyfrifir i ni yn gyfiawnder.
1Pa beth gan hynny a ddywedwn ni ddarfod i #Esa 51:2Abraham ein tad ni ei gael, yn ôl y cnawd? 2Canys os Abraham a gyfiawnhawyd trwy weithredoedd, y mae iddo orfoledd; eithr nid gerbron Duw. 3Canys pa beth a ddywed yr ysgrythur? #Gen 15:6; Gal 3:6; Iago 2:23Credodd Abraham i Dduw; a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. 4Eithr #Pen 11:6i’r neb sydd yn gweithio, ni chyfrifir y gwobr o ras, ond o ddyled. 5Eithr i’r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder. 6Megis y mae Dafydd hefyd yn datgan dedwyddwch y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithredoedd, gan ddywedyd, 7#Salm 32:1, 2Dedwydd yw y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, a’r rhai y cuddiwyd eu pechodau: 8Dedwydd yw y gŵr nid yw’r Arglwydd yn cyfrif pechod iddo. 9A ddaeth y dedwyddwch hwn gan hynny ar yr enwaediad yn unig, ynteu ar y dienwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd ddarfod cyfrif ffydd i Abraham yn gyfiawnder. 10Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi? ai pan oedd yn yr enwaediad, ynteu yn y dienwaediad? Nid yn yr enwaediad, ond yn y dienwaediad. 11Ac #Gen 17:10efe a gymerth arwydd yr enwaediad, yn #4:11 sêl.insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad: fel #Luc 19:9; Ad. 12:16; Gal 3:7y byddai efe yn dad pawb a gredent, yn y dienwaediad; fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd: 12Ac yn dad yr enwaediad, nid i’r rhai o’r enwaediad yn unig, ond i’r sawl hefyd a gerddant lwybrau ffydd Abraham ein tad ni, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad. 13Canys nid trwy’r ddeddf y daeth yr addewid i Abraham, neu i’w had, y byddai efe yn etifedd y byd: eithr trwy gyfiawnder ffydd. 14Canys #Gal 3:18os y rhai sydd o’r ddeddf yw yr etifeddion, gwnaed ffydd yn ofer, a’r addewid yn ddi‐rym. 15Oblegid #Pen 3:20; 5:13, 20; 7:8, 10; 1 Cor 15:56; 2 Cor 3:7, 9; Gal 3:19; 1 Ioan 3:4y mae’r ddeddf yn peri digofaint; canys lle nid oes deddf, nid oes gamwedd. 16Am hynny o ffydd y mae, fel y byddai yn ôl gras: fel y byddai’r addewid yn sicr i’r holl had; nid yn unig i’r hwn sydd o’r ddeddf, ond hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham, #Esa 51:2yr hwn yw ein tad ni oll, 17(Megis y mae yn ysgrifenedig, #Gen 17:5Mi a’th wneuthum yn dad llawer o genhedloedd,) #4:17 yn gyffelyb i’r neb.gerbron y neb y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywhau’r meirw, ac sydd #Pen 8:11yn galw’r pethau nid ydynt, fel pe byddent: 18Yr hwn yn erbyn gobaith a gredodd dan obaith, fel y byddai efe yn dad cenhedloedd lawer; yn ôl yr hyn a ddywedasid, #Gen 15:5Felly y bydd dy had di. 19Ac efe, yn ddiegwan o ffydd, #Gen 17:17; 18:11; Heb 11:11, 12nid ystyriodd ei gorff ei hun, yr hwn oedd yr awron wedi marweiddio, ac efe ynghylch can mlwydd oed, na marweidd‐dra bru Sara. 20Ac nid amheuodd efe addewid Duw trwy anghrediniaeth; eithr efe a nerthwyd yn y ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw: 21Ac yn gwbl sicr ganddo, am yr hyn a addawsai efe, #Salm 115:3; Heb 11:19ei fod ef yn abl i’w wneuthur hefyd. 22Ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. 23Eithr #Pen 15:4; 1 Cor 10:6, 11nid ysgrifennwyd hynny er ei fwyn ef yn unig, ddarfod ei gyfrif iddo; 24Ond er ein mwyn ninnau hefyd, i’r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr hwn #Act 2:24; 13:30a gyfododd Iesu ein Harglwydd ni o feirw: 25Yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd i’n cyfiawnhau ni.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 4: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society