Rhufeiniaid 3
3
A.D. 60. —
1 Rhagorfraint yr Iddewon: 3 yr hon ni chollasant: 9 er hynny y mae y ddeddf yn eu barnu hwythau hefyd yn euog o bechod: 20 gan hynny ni chyfiawnheir un cnawd trwy y ddeddf: 28 eithr pawb, heb wahaniaeth, trwy ffydd yn unig: 31 ac eto ni ddiddymwyd y ddeddf.
1Pa ragoriaeth gan hynny sydd i’r Iddew? neu pa fudd sydd o’r enwaediad? 2Llawer, ym mhob rhyw fodd: yn gyntaf, oherwydd #Salm 147:19, 20; Pen 9:4darfod ymddiried iddynt hwy am ymadroddion Duw. 3Oblegid beth os #Heb 4:2anghredodd rhai? #Num 23:19; Pen 9:6; 2 Tim 2:13a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer? 4Na ato Duw: eithr #Ioan 3:33bydded Duw yn eirwir, a #Salm 62:9; 116:11phob dyn yn gelwyddog; megis yr ysgrifennwyd, #Salm 51Fel y’th gyfiawnhaer yn dy eiriau, ac y gorfyddech #3:4 pan farnech.pan y’th farner. 5Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dyn yr wyf yn dywedyd;) 6Na ato Duw: canys wrth hynny #Gen 18:25pa fodd y barna Duw y byd? 7Canys os bu gwirionedd Duw trwy fy nghelwydd i yn helaethach i’w ogoniant ef, paham y’m bernir innau eto megis pechadur? 8Ac nid, (megis y’n ceblir, ac megis y dywed rhai ein bod yn dywedyd,) Gwnawn ddrwg, fel y dêl daioni? y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn. 9Beth gan hynny? a ydym ni yn fwy rhagorol? Nac ydym ddim: canys ni a brofasom o’r blaen #Gal 3:22fod pawb, yr Iddewon a’r Groegwyr, dan bechod; 10Megis y mae yn ysgrifenedig, #Salm 14:1, 2, 3; 53:1Nid oes neb cyfiawn, nac oes un: 11Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw. 12Gwyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol; nid oes un yn gwneuthur daioni, nac oes un. 13#Salm 5:9Bedd agored yw eu ceg; â’u tafodau y gwnaethant ddichell; #Salm 140:3gwenwyn asbiaid sydd dan eu gwefusau: 14#Salm 10:7Y rhai y mae eu genau yn llawn melltith a chwerwedd: 15#Diar 1:16; Esa 59:7, 8Buan yw eu traed i dywallt gwaed: 16Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd: 17A ffordd tangnefedd nid adnabuant: 18#Salm 36:1Nid oes ofn Duw gerbron eu llygaid. 19Ni a wyddom hefyd am ba bethau bynnag y mae’r ddeddf yn ei ddywedyd, mai wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn ei ddywedyd: fel #Esec 16:63y caeer pob genau, ac y byddo’r holl fyd #3:19 yn euog o flaen Duw.dan farn Duw. 20Am hynny #Gal 2:16trwy weithredoedd y ddeddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei olwg ef; canys #Pen 7:7trwy’r ddeddf y mae adnabod pechod. 21Ac yr awr hon #Pen 1:17; Phil 3:9yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y ddeddf, wrth gael tystiolaeth gan y ddeddf a’r proffwydi; 22Sef cyfiawnder Duw, yr hwn sydd trwy ffydd Iesu Grist, i bawb ac ar bawb a gredant: canys #Pen 10:12; Gal 3:28; Col 3:11nid oes gwahaniaeth: 23Oblegid #Pen 11:32; Gal 3:22pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw; 24A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy’r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu: 25Yr hwn a #3:25 rag‐ordeiniodd.osododd Duw yn #3:25 gymod, neu, gymodwr.iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant #Act 17:30; Heb 9:15y pechodau a wnaethid o’r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw; 26I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu. 27#1 Cor 1:29, 31; Eff 2:9Pa le gan hynny y mae y gorfoledd? Efe a gaewyd allan. Trwy ba ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage; eithr trwy ddeddf ffydd. 28Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif #Act 13:38; Pen 8:3; Gal 2:16mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn, heb weithredoedd y ddeddf. 29Ai i’r Iddewon y mae efe yn Dduw yn unig? onid yw i’r Cenhedloedd hefyd? Yn wir y mae efe i’r Cenhedloedd hefyd: 30Gan mai un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha’r enwaediad wrth ffydd, a’r dienwaediad trwy ffydd. 31Wrth hynny, a ydym ni yn gwneuthur y ddeddf yn ddi‐rym trwy ffydd? Na ato Duw: eithr yr ydym yn cadarnhau’r ddeddf.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 3: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society