1
Rhufeiniaid 4:20-21
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 gyda chroesgyfeiriadau
Ac nid amheuodd efe addewid Duw trwy anghrediniaeth; eithr efe a nerthwyd yn y ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw: Ac yn gwbl sicr ganddo, am yr hyn a addawsai efe, ei fod ef yn abl i’w wneuthur hefyd.
Cymharu
Archwiliwch Rhufeiniaid 4:20-21
2
Rhufeiniaid 4:17
(Megis y mae yn ysgrifenedig, Mi a’th wneuthum yn dad llawer o genhedloedd,) gerbron y neb y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywhau’r meirw, ac sydd yn galw’r pethau nid ydynt, fel pe byddent
Archwiliwch Rhufeiniaid 4:17
3
Rhufeiniaid 4:25
Yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd i’n cyfiawnhau ni.
Archwiliwch Rhufeiniaid 4:25
4
Rhufeiniaid 4:18
Yr hwn yn erbyn gobaith a gredodd dan obaith, fel y byddai efe yn dad cenhedloedd lawer; yn ôl yr hyn a ddywedasid, Felly y bydd dy had di.
Archwiliwch Rhufeiniaid 4:18
5
Rhufeiniaid 4:16
Am hynny o ffydd y mae, fel y byddai yn ôl gras: fel y byddai’r addewid yn sicr i’r holl had; nid yn unig i’r hwn sydd o’r ddeddf, ond hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham, yr hwn yw ein tad ni oll
Archwiliwch Rhufeiniaid 4:16
6
Rhufeiniaid 4:7-8
Dedwydd yw y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, a’r rhai y cuddiwyd eu pechodau: Dedwydd yw y gŵr nid yw’r Arglwydd yn cyfrif pechod iddo.
Archwiliwch Rhufeiniaid 4:7-8
7
Rhufeiniaid 4:3
Canys pa beth a ddywed yr ysgrythur? Credodd Abraham i Dduw; a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
Archwiliwch Rhufeiniaid 4:3
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos