Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 6

6
A.D. 60. —
1 Na ddylem ni fyw mewn pechod, 2 a ninnau wedi marw iddo; 3 megis y mae ein bedydd ni yn dangos. 12 Na theyrnased pechod mwyach, 18 gan ddarfod i ni ymroi i wasanaeth cyfiawnder; 23 ac oherwydd mai cyflog pechod yw marwolaeth.
1Beth wrth hynny a ddywedwn ni? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhao gras? 2Na ato Duw. A ninnau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn byw eto ynddo ef? 3Oni wyddoch chwi, #Gal 3:27am gynifer ohonom ag a #6:3 Neu, fedyddir.fedyddiwyd i Grist Iesu, ein bedyddio ni i’w farwolaeth ef? 4#Col 2:12Claddwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth: fel #Pen 8:11; 2 Cor 13:4megis ag y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tad, #Eff 4:22, 23; Col 3:10; Phil 3:10, 11felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd‐deb buchedd. 5Canys os gwnaed ni yn gyd‐blanhigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, felly y byddwn i gyffelybiaeth ei atgyfodiad ef: 6Gan wybod hyn, ddarfod #Gal 2:20; 5:24; 6:14; Eff 4:22croeshoelio ein hen ddyn ni gydag ef, er mwyn dirymu #Col 2:11corff pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod. 7Canys #1 Pedr 4:1y mae’r hwn a fu farw, wedi ei #6:7 Gr. gyfiawnhau.ryddhau oddi wrth bechod. 8Ac #2 Tim 2:11os buom feirw gyda Christ, yr ydym ni yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef: 9Gan wybod nad yw #Dat 1:18Crist, yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, yn marw mwyach; nad arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach. 10Canys fel y bu efe farw, #Heb 9:27, 28efe a fu farw unwaith i bechod: ac fel y mae yn byw, #Luc 20:38byw y mae i Dduw. 11Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod: eithr #Gal 2:19yn fyw i Dduw, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. 12#Salm 119:133Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corff marwol, i ufuddhau ohonoch iddo yn ei chwantau. 13Ac na #Pen 7:5; Col 3:5; Iago 4:1roddwch eich aelodau yn #6:13 offer.arfau anghyfiawnder i bechod: eithr #Pen 12:1|ROM 12:1; 1 Pedr 4:2rhoddwch eich hunain i Dduw, megis rhai o feirw yn fyw; a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw. 14Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi: oblegid nid ydych chwi dan y ddeddf, eithr dan ras. 15Beth wrth hynny? a bechwn ni, #1 Cor 9:21; Gal 5:18oherwydd nad ydym dan y ddeddf, eithr dan ras? Na ato Duw. 16Oni wyddoch chwi, mai #Mat 6:24; Ioan 8:34; 2 Pedr 2:19i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn weision i ufuddhau iddo, eich bod yn weision i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag ai i bechod i farwolaeth, ynteu i ufudd‐dod i gyfiawnder? 17Ond i Dduw y bo’r diolch, eich bod chwi gynt yn weision i bechod; eithr ufuddhau ohonoch o’r galon i’r #2 Tim 1:13ffurf o athrawiaeth #6:17 Gr. i’r hon y’ch traddodwyd.a draddodwyd i chwi. 18Ac #Ioan 8:32; 1 Cor 7:22; Gal 5:1wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, fe a’ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder. 19Yn ôl dull dynol yr ydwyf yn dywedyd, oblegid gwendid eich cnawd chwi. Canys megis ag y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac anwiredd, i anwiredd; felly yr awr hon rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder, i sancteiddrwydd. 20Canys pan oeddech yn weision pechod, rhyddion oeddech #6:20 i gyfiawnder.oddi wrth gyfiawnder. 21#Pen 7:5Pa ffrwyth gan hynny oedd i chwi y pryd hwnnw o’r pethau y mae arnoch yr awr hon gywilydd o’u plegid? canys diwedd y pethau hynny yw marwolaeth. 22Ac yr awr hon, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a’ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd tragwyddol. 23Canys #Gen 2:17; Pen 5:12; Iago 1:15cyflog pechod yw marwolaeth; eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Dewis Presennol:

Rhufeiniaid 6: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda