Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 22

22
1 Rhaid i’r offeiriaid yn eu haflendid ymgadw oddi wrth y pethau cysegredig. 6 Y modd y mae eu puro hwynt. 10 Pwy yn nhŷ yr offeiriaid a all fwyta o’r pethau cysegredig. 17 Rhaid i’r aberthau fod yn ddianaf. 26 Oedran yr aberth. 29 Y gyfraith am fwyta yr aberth diolch.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, am iddynt ymneilltuo oddi wrth bethau cysegredig meibion Israel, ac na halogant fy enw sanctaidd, yn y pethau y maent yn eu cysegru i mi: myfi yw yr Arglwydd. 3Dywed wrthynt, Pwy bynnag o’ch holl hiliogaeth, trwy eich cenedlaethau, a nesao at y pethau cysegredig a gysegro meibion Israel i’r Arglwydd, a’i aflendid arno; torrir ymaith yr enaid hwnnw oddi ger fy mron: myfi yw yr Arglwydd. 4Na fwytaed neb o hiliogaeth Aaron o’r pethau cysegredig, ac yntau yn wahanglwyfus, neu #Pen 15:2yn ddiferllyd, #Pen 14:2; 15:13hyd oni lanhaer ef: na’r hwn a #Num 19:11gyffyrddo â dim wedi ei halogi wrth y marw, na’r hwn #Pen 15:16yr êl oddi wrtho ddisgyniad had; 5Na’r un a #Pen 11:24gyffyrddo ag un ymlusgiad, trwy yr hwn y gallo fod yn aflan, neu â #Pen 15:7, 19dyn y byddai aflan o’i blegid, pa aflendid bynnag fyddo arno: 6A’r dyn a gyffyrddo ag ef, a fydd aflan hyd yr hwyr; ac na fwytaed o’r pethau cysegredig, oddieithr iddo olchi ei gnawd mewn dwfr. 7A phan fachludo’r haul, glân fydd; ac wedi hynny bwytaed o’r pethau cysegredig: canys ei fwyd ef yw hwn. 8Ac #Exod 22:31; Pen 17:15 Esec 44:31na fwytaed o ddim wedi marw ei hun, neu wedi ei ysglyfaethu, i fod yn aflan o’i blegid: myfi yw yr Arglwydd. 9Ond cadwant fy neddf i, ac na ddygant bechod bob un arnynt eu hunain, i farw o’i blegid, pan halogant hi: myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt. 10Ac #Edrych 1 Sam 21:6na fwytaed un alltud o’r peth cysegredig: dieithrddyn yr offeiriad, a’r gwas cyflog, ni chaiff fwyta’r peth cysegredig. 11Ond pan bryno’r offeiriad ddyn #22:11 Heb. â gwerth ei arian.am ei arian, hwnnw a gaiff fwyta ohono, a’r hwn a aner yn ei dŷ ef: y rhai hyn a gânt fwyta o’i fara ef. 12A merch yr offeiriad, pan fyddo hi eiddo gŵr dieithr, ni chaiff hi fwyta o offrwm y pethau cysegredig. 13Ond merch yr offeiriad, os gweddw fydd hi, neu wedi ysgar, a heb blant iddi, ac wedi dychwelyd i dŷ ei thad, a gaiff fwyta o fara ei thad, #Pen 10:14megis yn ei hieuenctid; ac ni chaiff neb dieithr fwyta ohono.
14A phan fwytao un beth cysegredig mewn anwybod; yna chwaneged ei bumed ran ato, a rhodded gyda’r peth cysegredig i’r offeiriad. 15Ac na halogant gysegredig bethau meibion Israel, y rhai a offrymant i’r Arglwydd. 16Ac na #22:16 Neu, ymlwythant â chosb.wnânt iddynt ddwyn cosb camwedd, pan fwytaont eu cysegredig bethau hwynt: oherwydd myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd.
17A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 18Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, #Pen 1:2, 3, 10Pwy bynnag o dŷ Israel, ac o ddieithr yn Israel, a offrymo ei offrwm yn ôl ei holl addunedau, ac yn ôl ei holl roddion gwirfodd, y rhai a offrymant i’r Arglwydd yn boethoffrwm; 19Offrymwch wrth eich ewyllys eich hun, un gwryw perffaith‐gwbl, o’r eidionau, o’r defaid, neu o’r geifr. 20#Deut 15:21; 17:1; Mal 1:8Nac offrymwch ddim y byddo anaf arno; oherwydd ni bydd efe gymeradwy drosoch. 21A #Pen 3:1phan offrymo gŵr aberth hedd i’r Arglwydd, gan neilltuo ei adduned, neu rodd ewyllysgar o’r eidionau, neu o’r praidd, bydded berffaith‐gwbl, fel y byddo gymeradwy: na fydded un anaf arno. 22#ad. 20Y dall, neu’r ysig, neu’r anafus, neu’r dafadennog, neu’r crachlyd, neu’r clafrllyd, nac offrymwch hwy i’r Arglwydd, ac na roddwch aberth tanllyd ohonynt ar allor yr Arglwydd. 23A’r eidion, neu yr #22:23 Heb. myn.oen a fyddo #Pen 21:18gormod neu ry fychain ei aelodau, gellwch ei offrymu yn offrwm gwirfodd; ond dros adduned ni bydd cymeradwy. 24Nac offrymwch i’r Arglwydd ddim wedi llethu, neu ysigo, neu ddryllio, neu dorri; ac na wnewch yn eich tir y fath beth. 25Ac nac offrymwch o law un dieithr fwyd eich Duw o’r holl bethau hyn: canys y mae eu llygredigaeth ynddynt; anaf sydd arnynt: ni byddant gymeradwy drosoch.
26A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 27#Exod 22:30; 23:19; 34:26; Deut 14:21Pan aner eidion, neu ddafad, neu afr, bydded saith niwrnod dan ei fam; o’r wythfed dydd ac o hynny allan y bydd cymeradwy yn offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd. 28Ac am fuwch neu #22:28 Neu, afr.ddafad, na leddwch hi #Deut 22:6a’i llwdn yn yr un dydd. 29A phan aberthoch aberth diolch i’r Arglwydd, offrymwch wrth eich ewyllys eich hunain. 30Y dydd hwnnw y bwyteir ef; #Pen 7:15na weddillwch ohono hyd y bore: myfi yw yr Arglwydd. 31Cedweh chwithau fy ngorchmynion, a gwnewch hwynt: myfi yw yr Arglwydd. 32Ac na halogwch fy enw sanctaidd, ond #Pen 10:3sancteiddier fi ymysg meibion Israel: myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd, 33Yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, i fod yn Dduw i chwi: myfi yw yr Arglwydd.

Dewis Presennol:

Lefiticus 22: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda