Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 21

21
1 Am alar yr offeiriaid. 6 Am eu sancteiddrwydd. 9 Am eu cymeriad. 7, 13 Am eu priodasau. 16 Ni chaiff yr offeiriaid a fo arnynt anaf weini yn y cysegr.
1A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Llefara wrth yr offeiriaid, meibion Aaron, a dywed wrthynt, #Esec 44:25Nac ymhaloged neb am y marw ymysg ei bobl. 2Ond am ei gyfnesaf agos iddo; am ei fam, am ei dad, ac am ei fab, ac am ei ferch, ac am ei frawd, 3Ac am ei chwaer o forwyn, yr hon sydd agos iddo, yr hon ni fu eiddo gŵr: am honno y gall ymhalogi. 4Nac ymhaloged #21:4 Neu, gŵr priod am ei wraig.pennaeth ymysg ei bobl, i’w aflanhau ei hun. 5#Pen 19:27, 28; Deut 14:1; Esec 44:20Na wnânt foelni ar eu pennau, ac nac eilliant gyrrau eu barfau, ac na thorrant doriadau ar eu cnawd. 6Sanctaidd fyddant i’w Duw, ac na halogant enw eu Duw: oherwydd offrymu y maent ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a #Edrych Pen 3:11bara eu Duw; am hynny byddant sanctaidd. 7#Esec 44:22Na chymerant buteinwraig, neu un halogedig, yn wraig: ac na chymerant wraig wedi ysgar oddi wrth ei gŵr; oherwydd sanctaidd yw efe i’w Dduw. 8A chyfrif di ef yn sanctaidd; oherwydd bara dy Dduw di y mae efe yn ei offrymu: bydded sanctaidd i ti; oherwydd sanctaidd ydwyf fi yr Arglwydd eich sancteiddydd.
9Ac os #21:9 Neu, ymhaloga, &c gan buteinio.dechrau merch un offeiriad buteinio, halogi ei thad y mae: llosger hi yn tân. 10A’r offeiriad pennaf o’i frodyr, yr hwn y tywalltwyd #Exod 30:30olew’r eneiniad ar ei ben, ac #Exod 28:2; Pen 16:32a gysegrwyd i wisgo’r gwisgoedd, #Pen 10:6na ddiosged oddi am ei ben, ac na rwyged ei ddillad: 11Ac na ddeued at gorff un marw, nac ymhaloged am ei dad, nac am ei fam: 12Ac nac aed allan o’r cysegr, ac na haloged gysegr ei Dduw; am fod #Exod 28:36coron olew eneiniad ei Dduw arno ef: myfi yw yr Arglwydd. 13A #Esec 44:22chymered efe wraig yn ei morwyndod. 14Gwraig weddw, na gwraig wedi ysgar, nac un halogedig, na phutain; y rhai hyn na chymered: ond cymered forwyn o’i bobl ei hun yn wraig. 15Ac na haloged ei had ymysg ei bobl: canys myfi yw yr Arglwydd ei sancteiddydd ef.
16A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 17Llefara wrth Aaron, gan ddywedyd, Na nesaed un o’th had di trwy eu cenedlaethau, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymu #21:17 Neu, ymborth.bara ei Dduw: 18Canys ni chaiff un gŵr y byddo anaf arno nesáu; y gŵr dall, neu’r cloff, neu’r trwyndwn, neu’r neb y byddo dim #Pen 22:23gormod ynddo; 19Neu’r gŵr y byddo iddo droed twn, neu law don; 20Neu a fyddo yn gefngrwm, neu yn #21:20 Neu, ry eiddil.gor, neu â magl neu bysen ar ei lygad, neu yn grachlyd, neu yn glafrllyd, neu wedi ysigo ei eirin. 21Na nesaed un gŵr o had Aaron yr offeiriad, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymu ebyrth tanllyd yr Arglwydd: anaf sydd arno; na nesaed i offrymu bara ei Dduw. 22Bara ei Dduw, o’r pethau sanctaidd cysegredig, ac o’r pethau cysegredig, a gaiff efe ei fwyta. 23Eto nac aed i mewn at y wahanlen, ac na nesaed at yr allor, am fod anaf arno; ac na haloged fy nghysegroedd: canys myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt. 24A llefarodd Moses hynny wrth Aaron ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel.

Dewis Presennol:

Lefiticus 21: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda