Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 20

20
1 Am yr hwn a roddo ei had i Moloch. 4 Am yr hwn a arbedo y cyfryw. 6 Am fyned at frudwyr. 7 Am ymsancteiddio. 9 Am yr hwn a felltithio ei rieni. 10 Am odineb. 11, 14, 17, 19 Am ymlosgach. 13 Am orwedd gyda gwryw, 15 neu gydag anifail. 18 Am aflendid. 22 Gorchymyn ufudd‐dod gyda sancteiddrwydd. 27 Rhaid yw rhoddi brudwyr i farwolaeth.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2#Pen 18:21Dywed hefyd wrth feibion Israel, #Deut 18:10; 2 Bren 17:17; 23:10; Jer 32:35Pob un o feibion Israel, neu o’r dieithr a ymdeithio yn Israel, yr hwn a roddo o’i had i Moloch, a leddir yn farw; pobl y tir a’i llabyddiant ef â cherrig. 3A #Pen 17:10mi a osodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac a’i torraf o fysg ei bobl; am iddo roddi o’i had i Moloch, i aflanhau fy nghysegr, ac i halogi fy enw sanctaidd. 4Ac os pobl y wlad gan guddio a guddiant eu llygaid oddi wrth y dyn hwnnw, (pan roddo efe ei had i Moloch,) ac nis lladdant ef: 5Yna #Pen 17:10y gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac #Exod 20:5yn erbyn ei dylwyth, a thorraf ymaith ef, a phawb #Pen 17:7a ddilynant ei buteindra ef, gan buteinio yn ôl Moloch, o fysg eu pobl.
6 # Pen 19:31 A’r dyn a dro ar ôl dewiniaid, a brudwyr, i buteinio ar eu hôl hwynt; gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw hefyd, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl.
7 # Pen 11:44 ; 19:2; 1 Pedr 1:16Ymsancteiddiwch gan hynny, a byddwch sanctaidd: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi. 8Cedwch hefyd fy neddfau, a gwnewch hwynt: myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd.
9 # Exod 21:17; Deut 27:16; Diar 20:20; Mat 15:4 Os bydd neb a felltigo ei dad neu ei fam, lladder ef yn farw: ei dad neu ei fam a felltigodd efe; ei waed fydd arno ei hun.
10 # Pen 18:20 ; Deut 22:22; Ioan 8:4, 5A’r gŵr a odinebo gyda gwraig gŵr arall, sef yr hwn a odinebo gyda gwraig ei gymydog, lladder yn farw y godinebwr a’r odinebwraig. 11#Pen 18:8A’r gŵr a orweddo gyda gwraig ei dad, a noethodd noethni ei dad: lladder yn feirw hwynt ill dau; eu gwaed fydd arnynt eu hunain. 12#Pen 18:15; Deut 27:23Am y gŵr a orweddo ynghyd â’i waudd, lladder yn feirw hwynt ill dau: cymysgedd a wnaethant; eu gwaed fydd arnynt eu hunain. 13#Pen 18:22A’r gŵr a orweddo gyda gŵr, fel gorwedd gyda gwraig, ffieidd‐dra a wnaethant ill dau: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain. 14#Pen 18:17; Deut 27:23Y gŵr a gymero wraig a’i mam, ysgelerder yw hynny: llosgant ef a hwythau yn tân; ac na fydded ysgelerder yn eich mysg. 15#Pen 18:23; Deut 27:21A lladder yn farw y gŵr a ymgydio ag anifail; lladdant hefyd yr anifail. 16A’r wraig a êl at un anifail, i orwedd dano, lladd di y wraig a’r anifail hefyd: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain. 17#Pen 18:9; Deut 27:22A’r gŵr a gymero ei chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam, ac a welo ei noethni hi, ac y gwelo hithau ei noethni yntau: gwaradwydd yw hynny; torrer hwythau ymaith yng ngolwg meibion eu pobl: noethni ei chwaer a noethodd efe; efe a ddwg ei anwiredd. 18#Pen 18:19; Edrych Pen 15:24A’r gŵr a orweddo gyda gwraig glaf o’i misglwyf, ac a noetho ei noethni hi; ei diferlif hi a #20:18 Heb. ddinoethodd.ddatguddiodd efe, a hithau a ddatguddiodd ddiferlif ei gwaed ei hun: am hynny torrer hwynt ill dau o fysg eu pobl. 19#Pen 18:12, 13Ac na noetha noethni chwaer dy fam, neu chwaer dy dad; oherwydd ei gyfnesaf ei hun y mae yn ei noethi: dygant eu hanwiredd. 20#Pen 18:14A’r gŵr a orweddo gyda gwraig ei ewythr frawd ei dad, a noetha noethni ei ewythr: eu pechod a ddygant; byddant feirw yn ddi‐blant. 21#Pen 18:16A’r gŵr a gymero wraig ei frawd, (#20:21 ysgariaeth.peth aflan yw hynny,) efe a noethodd noethni ei frawd: di‐blant fyddant.
22Am hynny cedwch fy holl #Pen 18:26ddeddfau, a’m holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt; fel #Pen 18:25, 28na chwydo’r wlad chwi, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn iddi i breswylio ynddi. 23Ac #Pen 18:3, 30na rodiwch yn neddfau’r genedl yr ydwyf yn eu bwrw allan o’ch blaen chwi: oherwydd yr holl bethau hyn a wnaethant; #Deut 9:5am hynny y ffieiddiais hwynt. 24Ac wrthych y dywedais, Chwi a etifeddwch eu tir hwynt; mi a’i rhoddaf i chwi i’w feddiannu; gwlad yn llifeirio o laeth a mêl: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi, yr hwn a’ch neilltuais chwi oddi wrth bobloedd eraill. 25#Pen 11:2; Deut 14:4Rhoddwch chwithau wahaniaeth rhwng yr anifail glân a’r aflan, a rhwng yr aderyn aflan a’r glân; ac na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oherwydd anifail, neu oherwydd aderyn, neu oherwydd dim oll a #20:25 Neu, a ymsymudo.ymlusgo ar y ddaear, yr hwn a neilltuais i chwi i’w gyfrif yn aflan. 26Byddwch chwithau sanctaidd i mi: #ad. 7; Pen 19:2; 1 Pedr 1:16oherwydd myfi yr Arglwydd ydwyf sanctaidd, ac a’ch neilltuais chwi oddi wrth bobloedd eraill, i fod yn eiddof fi.
27 # Deut 18:10, 11; 1 Sam 28:7, 8 Gŵr neu wraig a fo ganddynt ysbryd dewiniaeth, neu frud, hwy a leddir yn farw: â cherrig y llabyddiant hwynt; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

Dewis Presennol:

Lefiticus 20: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda