Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 23

23
1 Gwyliau yr Arglwydd. 3 Y Saboth. 4 Y Pasg. 9 Yr ysgub flaenffrwyth. 15 Gŵyl y Sulgwyn. 22 Rhaid yw gadael peth i’r tlodion i’w loffa. 23 Gŵyl yr utgyrn. 26 Y dydd cymod. 33 Gŵyl y pebyll.
1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, ydyw fy ngwyliau hyn. 3#Exod 20:9; 23:12; 31:13; 34:21; Pen 19:3; Deut 5:13; Luc 13:14Chwe diwrnod y gwneir gwaith; a’r seithfed dydd y bydd Saboth gorffwystra, sef cymanfa sanctaidd; dim gwaith nis gwnewch: Saboth yw efe i’r Arglwydd yn eich holl drigfannau.
4Dyma wyliau yr Arglwydd, y cymanfeydd sanctaidd, y rhai a gyhoeddwch yn eu tymor. 5#Exod 12:18; 13:3; 23:15; 34:18; Num 9:2; 28:16; Deut 16:1O fewn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, yn y cyfnos, y bydd Pasg yr Arglwydd. 6A’r pymthegfed dydd o’r mis hwnnw y bydd gŵyl y bara croyw i’r Arglwydd: saith niwrnod y bwytewch fara croyw. 7Ar y dydd cyntaf y bydd i chwi gymanfa sanctaidd: dim caethwaith ni chewch ei wneuthur. 8Ond offrymwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd saith niwrnod; ar y seithfed dydd bydded cymanfa sanctaidd; na wnewch ddim caethwaith.
9A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, 10#Exod 23:16; 34:22; Num 28:26; Deut 16:9Pan ddeloch i’r tir a roddaf i chwi, a medi ohonoch ei gynhaeaf; yna dygwch #23:10 Neu, ddyrnaid. Heb. omer.ysgub blaenffrwyth eich cynhaeaf at yr offeiriad. 11Cyhwfaned yntau yr ysgub gerbron yr Arglwydd, i’ch gwneuthur yn gymeradwy: trannoeth wedi’r Saboth y cyhwfana yr offeiriad hi. 12Ac offrymwch ar y dydd y cyhwfaner yr ysgub, oen blwydd, perffaith‐gwbl, yn boethoffrwm i’r Arglwydd. 13A’i fwyd‐offrwm o ddwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd, yn arogl peraidd: a’i ddiod‐offrwm fyddo win, pedwaredd ran hin. 14Bara hefyd, nac ŷd wedi ei grasu, na thywysennau ir, ni chewch eu bwyta hyd gorff y dydd hwnnw, nes dwyn ohonoch offrwm eich Duw. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau, fydd hyn.
15A #Deut 16:9chyfrifwch i chwi o drannoeth wedi’r Saboth, o’r dydd y dygoch ysgub y cyhwfan; saith Saboth cyflawn fyddant: 16Hyd drannoeth wedi’r seithfed Saboth, y cyfrifwch ddeng niwrnod a deugain; ac offrymwch fwyd‐offrwm newydd i’r Arglwydd. 17A dygwch o’ch trigfannau ddwy dorth gyhwfan, dwy ddegfed ran o beilliaid fyddant: yn lefeinllyd y pobi hwynt, #Exod 23:16, 19; 34:26; Num 15:17; 28:26; Deut 26:1yn flaenffrwyth i’r Arglwydd. 18Ac offrymwch gyda’r bara saith oen blwyddiaid, perffaith‐gwbl, ac un bustach ieuanc, a dau hwrdd: poethoffrwm i’r Arglwydd fyddant hwy, ynghyd â’u bwyd‐offrwm a’u diod‐offrwm; sef aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 19Yna aberthwch #Pen 4:2, 3, 28un bwch geifr yn bech‐aberth, a dau oen blwyddiaid #Pen 3:1yn aberth hedd. 20A chyhwfaned yr offeiriad hwynt, ynghyd â bara’r blaenffrwyth, yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd, ynghyd â’r ddau oen: #Num 18:12; Deut 18:4cysegredig i’r Arglwydd ac eiddo’r offeiriad fyddant. 21A chyhoeddwch, o fewn corff y dydd hwnnw, y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; dim caethwaith nis gwnewch. Deddf dragwyddol, yn eich holl drigfannau, trwy eich cenedlaethau, fydd hyn.
22 # Pen 19:9 A phan fedoch gynhaeaf eich tir, na lwyr feda gyrrau dy faes, #Deut 24:19ac na loffa loffion dy gynhaeaf; gad hwynt i’r tlawd a’r dieithr: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
23A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 24Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd, Ar y #Num 29:1seithfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y bydd i chwi Saboth, yn goffadwriaeth caniad utgyrn, a chymanfa sanctaidd. 25Dim caethwaith nis gwnewch; ond offrymwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd.
26A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 27#Pen 16:29; Num 29:7Y degfed dydd o’r seithfed mis hwn, y bydd dydd cymod; cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau, ac offrymwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd. 28Ac na wnewch ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw: oherwydd dydd cymod yw, i wneuthur cymod drosoch gerbron yr Arglwydd eich Duw. 29Canys pob enaid a’r ni chystuddier o fewn corff y dydd hwn, #Gen 17:14a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl. 30A phob enaid a wnelo ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw, difethaf yr enaid hwnnw hefyd o fysg ei bobl. 31Na wnewch ddim gwaith. Deddf dragwyddol, trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau, yw hyn. 32Saboth gorffwystra yw efe i chwi; cystuddiwch chwithau eich eneidiau ar y nawfed dydd o’r mis, yn yr hwyr: o hwyr i hwyr y #23:32 Heb. gorffwyswch.cedwch eich Saboth.
33A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd. 34Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, #Exod 23:16; Num 29:12; Deut 16:13Ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis hwn y bydd gŵyl y pebyll saith niwrnod i’r Arglwydd. 35Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: dim caethwaith nis gwnewch. 36Saith niwrnod yr offrymwch aberth tanllyd i’r Arglwydd: #Ioan 7:37ar yr wythfed dydd #2 Cron 7:9y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; a chwi a offrymwch aberth tanllyd i’r Arglwydd: #23:36 Heb. dydd gwaharddedig.uchel ŵyl yw hi; na wnewch ddim caethwaith. 37Dyma wyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, i offrymu i’r Arglwydd aberth tanllyd, offrwm poeth, bwyd‐offrwm, aberth, a diod‐offrwm; pob peth yn ei ddydd: 38Heblaw Sabothau yr Arglwydd, ac heblaw eich rhoddion chwi, ac heblaw eich holl addunedau, ac heblaw eich holl offrymau gwirfodd, a roddoch i’r Arglwydd. 39Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis, pan gynulloch ffrwyth eich tir, cedwch ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod: bydded gorffwystra ar y dydd cyntaf, a gorffwystra ar yr wythfed dydd. 40#Neh 8:15A’r dydd cyntaf cymerwch i chwi #23:40 Neu, geinciau.ffrwyth pren prydferth, canghennau palmwydd, a brig pren caeadfrig, a helyg afon; ac ymlawenhewch gerbron yr Arglwydd eich Duw saith niwrnod. 41A chedwch hon yn ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod yn y flwyddyn: deddf dragwyddol yn eich cenedlaethau yw; ar y seithfed mis y cedwch hi yn ŵyl. 42Mewn bythod yr arhoswch saith niwrnod; pob priodor yn Israel a drigant mewn bythod: 43Fel y gwypo eich cenedlaethau chwi mai mewn bythod y perais i feibion Israel drigo, pan ddygais hwynt allan o dir yr Aifft: myfi yw yr Arglwydd eich Duw. 44A thraethodd Moses wyliau yr Arglwydd wrth feibion Israel.

Dewis Presennol:

Lefiticus 23: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda