Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 15

15
1 Cân Moses. 22 Y bobl ag eisiau dwfr arnynt. 23 Chwerw ddyfroedd Mara. 25 Pren yn eu pereiddio hwy. 27 Deuddeg ffynnon o ddwfr, a deg palmwydden a thrigain, yn Elim.
1Yna y canodd Moses a meibion Israel y gân hon i’r Arglwydd, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Canaf i’r Arglwydd; canys gwnaeth yn rhagorol iawn: taflodd y march a’i farchog i’r môr. 2Fy nerth a’m #Deut 10:21; Salm 18:2; 22:3; 109:1; 118:14; Esa 12:2cân yw yr Arglwydd; ac y mae efe yn iachawdwriaeth i mi: efe yw fy Nuw, efe a ogoneddaf fi; Duw fy nhad, a mi a’i dyrchafaf ef. 3Yr Arglwydd sydd ryfelwr: yr Arglwydd yw ei enw. 4Efe a daflodd gerbydau Pharo a’i fyddin yn y môr: ei gapteiniaid dewisol a foddwyd yn y môr coch. 5Y dyfnderau a’u toesant hwy; #Neh 9:1disgynasant i’r gwaelod fel carreg. 6#Salm 118:15, 16Dy ddeheulaw, Arglwydd, sydd ardderchog o nerth; a’th ddeheulaw, Arglwydd, a ddrylliodd y gelyn. 7Ym mawredd dy ardderchowgrwydd y tynnaist i lawr y rhai a gyfodasant i’th erbyn: dy ddigofaint a anfonaist allan, ac efe a’u hysodd hwynt #Esa 5:24; 47:14fel sofl. 8#Pen 14:21; Job 4:9; 2 Thess 2:8Trwy chwythad dy ffroenau y casglwyd y dyfroedd ynghyd: y ffrydiau a safasant fel pentwr; y dyfnderau a geulasant yng nghanol y môr. 9#Barn 5:30Y gelyn a ddywedodd, Mi a erlidiaf, mi a oddiweddaf, mi a rannaf yr ysbail: caf fy ngwynfyd arnynt; tynnaf fy nghleddyf, fy llaw a’u #15:9 goresgyn.difetha hwynt. 10Ti a chwythaist â’th wynt; y môr a’u todd hwynt: #ad. 5soddasant fel plwm yn y dyfroedd cryfion. 11#2 Sam 7:22; 1 Bren 8:23; Salm 86:8; 89:6; Jer 10:6; 49:19Pwy sydd debyg i ti, O Arglwydd, ymhlith y #15:11 cedyrn.duwiau? pwy fel tydi yn ogoneddus mewn sancteiddrwydd, yn ofnadwy mewn moliant, yn gwneuthur rhyfeddodau? 12Estynnaist dy ddeheulaw; llyncodd y ddaear hwynt. 13Arweiniaist yn dy drugaredd y bobl y rhai a waredaist: yn dy nerth y tywysaist hwynt i anheddle dy sancteiddrwydd. 14#Num 14:14; Deut 2:25; Jos 2:9Y bobloedd a glywant, ac a ofnant: dolur a ddeil breswylwyr Palesteina. 15Yna #Deut 2:4y synna ar ddugiaid Edom: #Num 22:3; Hab 3:7cedyrn hyrddod Moab, dychryn a’u deil hwynt: #Jos 5:1holl breswylwyr Canaan a doddant ymaith. 16#Deut 2:25; 11:25; Jos 2:9Ofn ac arswyd a syrth arnynt; gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o’th bobl di, Arglwydd, nes myned o’r bobl #Pen 19:5; Deut 32:9; 2 Sam 7:23; Titus 2:14; 1 Pedr 2:9a enillaist ti trwodd. 17Ti a’u dygi hwynt i mewn, ac #Salm 44:2; 80:8a’u plenni hwynt ym mynydd dy etifeddiaeth, y lle a wnaethost, O Arglwydd, yn anheddle i ti; y cysegr, Arglwydd, a gadarnhaodd dy ddwylo. 18#Salm 146:10; Esa 57:15Yr Arglwydd a deyrnasa byth ac yn dragywydd. 19Oherwydd meirch Pharo, a’i gerbydau, a’i farchogion, a aethant i’r môr; a’r Arglwydd a ddychwelodd ddyfroedd y môr arnynt: ond meibion Israel a aethant ar dir sych yng nghanol y môr.
20A Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, #1 Sam 18:6a gymerodd dympan yn ei llaw, a’r holl wragedd a aethant allan ar ei hôl hi, #Barn 11:34; 21:21; 2 Sam 6:16; Salm 68:11, 25â thympanau ac â dawnsiau. 21A dywedodd Miriam wrthynt, Cenwch i’r Arglwydd; canys gwnaeth yn ardderchog; bwriodd y march a’r marchog i’r môr. 22Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch; ac aethant allan i anialwch #Gen 16:7; 25:18Sur: a hwy a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch, ac ni chawsant ddwfr.
23A phan ddaethant i #Num 33:8Mara, ni allent yfed dyfroedd Mara, am eu bod yn chwerwon: oherwydd hynny y gelwir ei henw hi #15:23 Chwerwder.Mara. 24A’r bobl a duchanasant yn erbyn Moses, gan ddywedyd, Beth a yfwn ni? 25Ac efe a waeddodd ar yr Arglwydd: a’r Arglwydd a ddangosodd iddo ef bren; #Edrych 2 Bren 4:41ac efe a’i bwriodd i’r dyfroedd, a’r dyfroedd a bereiddiasant: yno #Edrych Jos 24:25y gwnaeth efe ddeddf a chyfraith, ac yno #Pen 16:4y profodd efe hwynt, 26Ac a ddywedodd, Os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, ac os gwnei di yr hyn sydd uniawn yn ei olwg ef, a rhoddi clust i’w orchmynion ef, a chadw ei holl ddeddfau ef; #Deut 7:15ni roddaf arnat un o’r clefydau a roddais ar yr Eifftiaid; oherwydd myfi yw yr Arglwydd #Pen 23:25; Salm 103:3; 147:3dy iachawdwr di.
27A #Num 33:9daethant i Elim; ac yno yr oedd deuddeg ffynnon o ddwfr, a deg palmwydden a thrigain: a hwy a wersyllasant yno wrth y dyfroedd.

Dewis Presennol:

Exodus 15: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda