Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 14

14
1 Duw yn hyfforddi yr Israeliaid yn eu taith. 5 Pharo yn erlid ar eu hôl hwynt. 10 Yr Israeliaid yn tuchan. 13 Moses yn eu cysuro hwy. 15 Duw yn dysgu i Moses beth a wnâi. 19 Y niwl yn symud i’r tu ôl i’r gwersyll. 21 Yr Israeliaid yn myned trwy y môr coch; 23 a’r Eifftiaid yn boddi ynddo.
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Dywed wrth feibion Israel, #Pen 13:18am ddychwelyd a gwersyllu o flaen #Num 33:7Pihahiroth, rhwng Migdol a’r môr, o flaen Baal‐seffon: ar ei chyfer y gwersyllwch wrth y môr. 3Canys dywed Pharo am feibion Israel, Rhwystrwyd hwynt yn y tir; caeodd yr anialwch arnynt. 4A #Pen 4:21mi a galedaf galon Pharo, fel yr erlidio ar eu hôl hwynt: felly y’m gogoneddir ar Pharo, a’i holl fyddin; a’r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd. Ac felly y gwnaethant.
5A mynegwyd i frenin yr Aifft, fod y bobl yn ffoi: yna #Salm 105:25y trodd calon Pharo a’i weision yn erbyn y bobl; a dywedasant, Beth yw hyn a wnaethom, pan ollyngasom Israel o’n gwasanaethu? 6Ac efe a daclodd ei gerbyd, ac a gymerodd ei bobl gydag ef. 7A chymerodd chwe chant o ddewis gerbydau, a holl gerbydau yr Aifft, a chapteiniaid ar bob un ohonynt. 8A’r Arglwydd a galedasai galon Pharo brenin yr Aifft, ac efe a ymlidiodd ar ôl meibion Israel: ond #Num 33:3yr oedd meibion Israel yn myned allan â llaw uchel. 9A’r #Jos 24:6Eifftiaid a ymlidiasant ar eu hôl hwynt, sef holl feirch a cherbydau Pharo, a’i wŷr meirch, a’i fyddin, ac a’u goddiweddasant yn gwersyllu wrth y môr, gerllaw Pihahiroth, o flaen Baal‐seffon.
10A phan nesaodd Pharo, meibion Israel a godasant eu golwg; ac wele yr Eifftiaid yn dyfod ar eu hôl; a hwy a ofnasant yn ddirfawr: a meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd. 11A dywedasant wrth Moses, Ai am nad oedd beddau yn yr Aifft, y dygaist ni i farw yn yr anialwch? Paham y gwnaethost fel hyn â ni, gan ein dwyn allan o’r Aifft? 12#Pen 5:21; 6:9Onid dyma y peth a lefarasom wrthyt yn yr Aifft, gan ddywedyd, Paid â ni, fel y gwasanaethom yr Eifftiaid? canys gwell fuasai i ni wasanaethu’r Eifftiaid, na marw yn yr anialwch.
13A Moses a ddywedodd wrth y bobl, #2 Cron 20:15, 17Nac ofnwch; sefwch, ac edrychwch ar iachawdwriaeth yr Arglwydd, yr hwn a wna efe i chwi heddiw; oblegid yr Eifftiaid y rhai a welsoch chwi heddiw, ni chewch eu gweled byth ond hynny. 14#Neh 4:20Yr Arglwydd a ymladd drosoch; am hynny tewch chwi â sôn.
15A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Paham y gwaeddi arnaf? dywed wrth feibion Israel am gerdded rhagddynt. 16A chyfod dithau dy wialen, ac estyn dy law ar y môr, a hollta ef: a meibion Israel a ânt trwy ganol y môr ar dir sych. 17Wele, fi, ie myfi a galedaf galon yr Eifftiaid, fel y delont ar eu hôl hwynt: a mi a ogoneddir ar Pharo, ac ar ei holl fyddin, ar ei gerbydau ef, ac ar ei farchogion. 18A’r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw’r Arglwydd, pan y’m gogoneddir ar Pharo, ar ei gerbydau, ac ar ei farchogion.
19Ac angel Duw, #Pen 13:21yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel, a symudodd, ac a aeth o’u hôl hwynt; a’r golofn niwl a aeth ymaith o’u tu blaen hwynt, ac a safodd o’u hôl hwynt. 20Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Eifftiaid a llu Israel; ac #Edrych Esa 8:14; 2 Cor 4:3yr ydoedd yn gwmwl ac yn dywyllwch i’r Eifftiaid, ac yn goleuo y nos i Israel: ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos. 21A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a’r Arglwydd a yrrodd y môr yn ei ôl, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac #Salm 66:6a wnaeth y môr yn sychdir, #Jos 3:16; 4:23; Neh 9:11; Salm 74:13; 106:9; 114:3a holltwyd y dyfroedd. 22A #Num 33:8; Salm 74:13; 1 Cor 10:1; Heb 11:29meibion Israel a aethant trwy ganol y môr ar dir sych: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, o’r tu deau, ac o’r tu aswy.
23A’r Eifftiaid a erlidiasant, ac a ddaethant ar eu hôl hwynt; sef holl feirch Pharo, a’i gerbydau, a’r farchogion, i ganol y môr. 24Ac ar yr wyliadwriaeth fore #Edrych Salm 77:17 &cyr Arglwydd a edrychodd ar fyddin yr Eifftiaid trwy’r golofn dân a’r cwmwl, ac a derfysgodd fyddin yr Eifftiaid. 25Ac efe a dynnodd ymaith olwynion eu cerbydau; ac #14:25 a barodd iddynt gerdded.yr oeddynt yn gyrru yn drwm: fel y dywedodd yr Eifftiaid, Ffown oddi wrth Israel; oblegid yr Arglwydd sydd yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Eifftiaid.
26A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law ar y môr; fel y dychwelo’r dyfroedd ar yr Eifftiaid, ar eu cerbydau, ac ar eu marchogion. 27A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a dychwelodd y môr cyn y bore i’w nerth; a’r Eifftiaid a ffoesant yn ei erbyn ef: a’r Arglwydd a #14:27 Heb. ysgytiodd. Deut 11:4; Salm 78:53ddymchwelodd yr Eifftiaid yng nghanol y môr. 28#Hab 3:8, 13A’r dyfroedd a ddychwelsant, ac a orchuddiasant gerbydau, a marchogion, a holl fyddin Pharo, y rhai a ddaethant ar eu hôl hwynt i’r môr: #Salm 106:11ni adawyd ohonynt gymaint ag un. 29Ond #Salm 77:20meibion Israel a gerddasant ar dir sych yng nghanol y môr: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, ar y llaw ddeau, ac ar y llaw aswy. 30Felly yr Arglwydd a achubodd Israel y dydd hwnnw o law yr Eifftiaid: a gwelodd Israel yr Eifftiaid yn feirw ar fin y môr. 31A gwelodd Israel y #14:31 Heb. llaw fawr.grymuster mawr a wnaeth yr Arglwydd yn erbyn yr Eifftiaid: a’r bobl a ofnasant yr Arglwydd, ac #Salm 106:12a gredasant i’r Arglwydd, ac i’w was ef Moses.

Dewis Presennol:

Exodus 14: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda