Rhufeiniaid 2
2
1-16Oherwydd paham, diesgus wyt ti, O ddyn! pwybynag wyt, à sydd yn barnu: canys wrth farnu arall, yr wyt yn dy gollfarnu dy hun; canys ti, yr hwn wyt yn barnu, wyt yn gwneuthur yr un pethau. Ni á wyddom, hefyd, bod collfarn Duw yn ol gwirionedd, yn erbyn y sawl à wnant gyfryw bethau. Ac á wyt ti yn tybied hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thithau yn gwneuthur yr un pethau, y diengi di rhag collfarn Duw? Neu á wyt ti yn diystyru golud ei ddaioni ef, a’i ddyoddefgarwch, a’i ymaros; heb gydnabod bod daioni Duw yn dy dywys di i ddiwygiad? Eithr, yn ol dy galon galed a diedifeiriol, yr wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint, erbyn dydd digofaint a dadguddiad cyfiawn farn Duw; yr hwn á dal i bob un ol ei weithredoedd: bywyd tragwyddol, yn wir, i’r rhai, drwy barâu yn gwneuthur da, á geisiant ogoniant, anrhydedd, ac anfarwoldeb: eithr llid a digofaint, i’r rhai sy gynhenus, ac anufydd i’r gwirionedd, ond yn ufydd i annghyfiawnder. Trallod ac ing á ddaw àr bob enaid dyn à sydd yn gwneuthur drwg; yr Iuddew yn gyntaf, a’r Groegwr hefyd. Ond gogoniant, anrhydedd, a thangnefedd, i bob un à sydd yn gwneuthur daioni; i’r Iuddew yn gyntaf, a’r Groegwr hefyd. Canys nid oes derbyn wyneb gèr bron Duw. Cynnifer, gàn hyny, ag á bechasant yn ddigyfraith, á gyfrgollir hefyd yn ddigyfraith; a chynnifer ag á bechasant o dan gyfraith, á gollfernir wrth gyfraith: canys nid y rhai à glywant y gyfraith, sy gyfiawn gèr bron Duw; ond y rhai à ufyddâant i’r gyfraith, á gyfiawnêir, yn y dydd y barna Duw ddirgelion dynion drwy Iesu Grist, yn ol fy efengyl i. Pan yw y Cenedloedd, gàn hyny, y rhai nid oes cyfraith ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur y pethau sydd yn y gyfraith, y rhai hyn, èr nad oes cyfraith ganddynt, ydynt gyfraith iddynt eu hunain: y rhai sydd yn dangos yn eglur weithred y gyfraith yn ysgrifenedig àr eu calonau; a’u cydwybod yn cyd‐dystiolaethu, a’u rhesymiadau hefyd rhyngynt â’u gilydd, wrth gyhuddo neu esgusodi eu gilydd.
17-29Os Iuddew, gàn hyny, yth elwir di, ac os wyt yn gorphwys yn y gyfraith, ac yn gorfoleddu yn Nuw, ac yn gwybod ei ewyllys ef, ac yn cymeradwyo y pethau sy ragorol, wedi dy addysgu gàn y gyfraith; ac yn bostio dy fod di yn arweinydd i’r deillion, yn oleuni i’r rhai sy mewn tywyllwch, yn ddysgawdwr i’r annghall, yn athraw i rai bach, a chenyt ddarlun gwybodaeth a gwirionedd yn y gyfraith: tydi, gàn hyny, yr hwn wyt yn addysgu arall; oni ddysgi di dy hun? Yr hwn wyt yn cyhoeddi, Na ladrata; á ladreti di? Yr hwn wyt yn gorchymyn, Na odineba; á odinebi di? Yr hwn wyt yn ffieiddio delwau; á gysegrysbeili di? Yr hwn wyt yn gorfoleddu yn y gyfraith; drwy dòri y gyfraith, á ddianrhydeddi di Dduw? Canys, fel y mae yn ysgrifenedig, “Enw Duw, o’ch plegid chwi, á geblir yn mhlith y Cenedloedd.” Canys enwaediad, yn wir, á wna les, os cedwi gyfraith; ond os troseddwr cyfraith wyt, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad. Ac os y dienwaediad á geidw orchymynion y gyfraith, oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad? Ac oni bydd i’r dienwaediad y sydd wrth naturiaeth yn cyflawni y gyfraith, dy euogfarnu di, droseddwr cyfraith, èr bod genyt y llythyren a’r enwaediad? Oblegid nid yr hwn sy felly oddiallan sydd Iuddew; a nid enwaediad yw yr hyn sydd oddiallan yn y cnawd: ond Iuddew yw yr hwn sy felly oddifewn; ac enwaediad yw yr eiddo y galon, yn yr ysbryd, nid yn y llythyren; yr hwn y mae ei glod nid o ddynion, ond o Dduw.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 2: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.