Habacuc 1
1
PENNOD I.
1Y baich#1:1 “Baich” yw prophwydoliaeth. Ystyr y gair yw dwyn neu gario. Dynoda naill ai y genadwriaeth a ddygir oddiwrth Dduw, neu yr hyn a ddygir ac a osodir fel baich ar ddynion. a welodd Habacuc y prophwyd: —
2Pa hyd, Arglwydd, y gwaeddaf, ac ni wrandewi?
Y bloeddiaf arnat “Gormes,” ac ni waredi?
3Pam y dangosir i mi drawsder,
Ac ar orthrymder yr edrychi?
Ië, anrhaith a gormes ydynt ger fy mron,
A dadl ac ymryson sy’n cyfodi!
4Am hyn#1:4 Nid yw “am hyn” yn cyfeirio at ddim a ddywedwyd, ond at yr hyn a ddaw — sef at “am fod,” yn y drydedd linell a ganlyn; a chadarnhëir yr un peth yn y llinell ddiweddaf o’r adnod. y metha y gyfraith
Ac nid ä allan farn i fuddygoliaeth,
Am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn:
Am hyn ä allan farn gamweddus.
5Gwelwch chwi ddirmygwyr,#1:5 Felly y cawn y geiriau yn Actau 13:41. Gadawyd un lythyren allan: dyma y camsyniad. Gwel sylwad yn ngwaith “Calfin ar y Prophwydi Lleiaf:” cyf. iv. tudal. 24, a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn yr iaith Seisnig.
Ië, edrychwch a synwch a rhyfeddwch;
Canys gwaith a wnaf yn eich dyddiau
Na chredwch pan fyneger ef:
6Canys wele fi yn cyffröi y Caldëaid,
Cenedl greulawn a byrbwyll,
Yr hon a gerdd trwy amgylchoedd y wlad
I feddiannu trigfanau nid ei heiddo.
7Ofnadwy ac arswydus a fydd —
O honi ei hun y daw ei hawl a’i huchelder:#1:7 Cymer hawl yn y wlad, a hòna ei goruchafiaeth trwy ei grymusder ei hun.
8Buanach na llewpartiaid fydd ei mheirch,
Ac awchlymach na bleiddiaid yr hwyr;
Ac ymdaena ei marchogion;
Ië, ei marchogion o bell y deuant,
Ehedant fel eryr yn brysio i ddifrodi.
9Yn gwbl er anrheithio y daw;
Gogwydd ei hwyneb fydd tua’r dwyrain,
A chasgla gaethion fel y tywod.
10Breninoedd hefyd a wawdia,
A bydd tywysogion yn watwar iddi;
A phob caer a ddirmyga,
Ië, casgla lwch a goresgyna hi.
11Yna adnewydda ei hysbryd,
Ac ä trwodd,#1:11 Sef, trwy yr holl wlad; “a throsedda,” neu gwna ei hun yn euog, a hynny trwy wneuthur Duw o’i dewrder neu allu milwraidd. Y “genedl” a feddylir yn yr holl linellau hyn: rhyw fenywaidd yw “cenedl” yn ein hiaith ni, er mai gwrywaidd yw yn yr Hebraeg. ac a drosedda:
Hwn ei dewrder yn Dduw iddi!
12Ond er cynt, Arglwydd, fy Nuw ydwyt;#1:12 Yr honiad yw, fod Duw yn Dduw Israel er cynt, neu er hen amser. Geilw ef hefyd yn “Sancteiddydd,” neu yn neillduolydd, gan i Dduw neillduoli Israel iddo ei hun: am hynny dywed y prophwyd, “Ni byddwn feirw.” “Hi,” yn yr adnod ganlynol, yw y genedl Galdeaidd.
Fy sancteiddydd — ni byddwn feirw.
Arglwydd, er barn y gosodaist hi,
Ac yn gadarn er ein ceryddu y gwnaethost hi.
13Glân dy lygaid, fel nad edrychi ar ddrwg,
Ac edrych ar ofid nid elli:
Pam yr edrychi ar y bradwrus,#1:13 Yr oedd y Caldead wedi bod mewn cynghrair âg Israel, ond aethai yn anffyddlawn — yn fradwrus.
Yr ymguddi pan mae’r annuwiol
Yn traflyncu un cyfiawnach nag ef ei hun?
14Ac y gwnai ddyn fel pysg y môr,
Fel yr ymlusgiad nad oes iddo lywydd?
15Pob un#1:15 Sef, pob “ymlusgiad.” “Hwynt,” yn y llinell nesaf, oeddent y “pysg.” Dyma y drefn y gosodir pethau yn aml yn y prophwydi: enwant ddau beth; dywedant yn gyntaf am y peth diweddaf, ac yna am y peth cyntaf. “Bach” a arferent i ddal y rhai oeddent yn ymlusgo yn agos i’r gwaelod; a “rhwyd” i ddal y rhai a nofient yn agos i’r wyneb. Gosodir allan yma y Caldead fel pysgotwr, yn dal pysgod o bob math, ac yn cyfrif ei offerynnau fel yn achosi ei lwyddiant, ac felly yn gwneuthur Duw o’i fedr a’i rymusder. Felly y gwnaeth llawer yn mhob oes. a dỳn allan â’i fach,
Casgla hwynt â’i rwyd,
Ië, cynnulla hwynt â’i fallegrwyd:
Am hyny llawenycha a gorfoledda.
16O herwydd hyn abertha i’w rwyd,
Ac arogldartha i’w fallegrwyd;
Am mai trwyddynt bydd ei ran yn fras,
A’i fwyd yn helaethlawn. —
17A gaiff efe gan hyny estyn ei rwyd,
A pharhau i ladd cenedloedd heb arbed!
Dewis Presennol:
Habacuc 1: CJO
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.