Mica 7
7
PENNOD VII.
1Gwae i mi! canys yr ydwyf#7:1 Cyffelybai ei hun i rai yn casglu lloffion gwinllan, heb gael cymaint a “phwng” neu byngiad (cluster) i’w fwyta. Pan chwiliai am ddyn da a chywir, nid oedd un i’w gael; megys ffrwyth gwinllan, yr oeddynt i gyd wedi eu casglu.
Fel casglwyr ffrwythau haf,
Fel lloffyddion gwinllan;
Nid oes un pwng i’w fwyta,
Y cynnar ffrwyth a ddymuna fy enaid.
2Darfu am y trugarog#7:2 Felly y gelwid y dyn da cymwynasgar. Yr “uniawn” oedd yr hwn a wnaethai gyfiawnder heb ormesu eraill. Gwel pen. 6:8, lle yr enwir “uniondeb a thrugaredd.” Nid oedd neb yn uniawn, am y “cynllwynent am waed;” ac nid neb yn drugarog, canys fel y dywedir yn yr adnod a ganlyn, “ar wneuthur drwg yr oedd eu dwylaw yn lle gwneuthur da,” neu ddaioni, neu gymwynasgarwch i’r tlawd a’r anghenus. Gwelwn yma gysondeb yn y cwbl; a chadarnheir yn, ddiammheuol y cyfieithiad a roddir o ddechreu y drydedd adnod, a eglurheir (neu yn hytrach a dywyllir) gan lawer mewn amryw ffyrdd. o’r wlad,
A’r uniawn ymhlith dynion nid oes un:
Hwynt oll, am waed y cynllwynant;
Pob un a hela ei frawd â rhwyd.
3Ar wneuthur drwg y mae eu dwylaw,
Yn lle gwneuthur da;
Y tywysog a ofyn,#7:3 Neu “a wna gais;” gofynai gymwynas gan y barnwr, a’r barnwr yntau a ofynai am wobr. “Y gŵr mawr,” oedd “y tywysog.” a’r barnwr a ofyn am wobr;
Ië, y gŵr mawr a ddywed am ddymuniad ei enaid,
“Hwn ydyw;” yna cydblethant ef.#7:3 Sef yr achos mewn llaw. “Cydblethu,” yw y gair yn llythyrenol, a thra addas yw.
4Eu dyn da#7:4 Sef, a gyfrifid yn dda, neu y goreu yn eu plith. “Trugarog,” a arferai yn adn. 2; ond cawn “uniawn” eto. sydd fel mieren,
A’r uniawn yn waeth na pherth ddrain.
Dydd dy wylwyr,#7:4 Arferid “gwylwyr” yn amser perygl: delai y dydd pan y gelwid y rhai hyn i’w awydd. Yna y deuai ar y mawrion a’r barnwyr “ddyrysni,” neu gyfyng-gynghor, heb wybod beth i’w wneuthur. dy ymweliad, sy’n dyfod!
Yna y bydd eu dyrysni!
5Na chredwch gyfaill,#7:5 Rhydd yma ddarluniad hynod o gyflwr diraddiedig y bobl. Nid allai gredu yr hyn a ddywedai cyfaill, na hyderu ar addewid cydymaith neu arweinydd, fel y dynoda y gair. Nid allai neb chwaith ymddiried yn ei wraig, a phob perthynas wedi colli y serch a’r cariad a’r ffyddlondeb perthynol iddi. Hyn oedd nodwedd trigolion Ierusalem! nodwedd hollol waradwyddus.
Na hyderwch mewn cydymaith;
Rhag yr hon a orwedd yn dy fynwes
Cadw ddrws dy enau:
6Canys mab a anmharcha dad,
Merch a gyfyd yn erbyn ei mam,
Y waudd yn erbyn ei chwegr;
Gelynion pob un ydynt ddynion ei dŷ. —
7Ond myfi, at Iehofa y troaf fy ngolwg,
Dysgwyliaf wrth Dduw, fy ngwaredwr;
Fy ngwrandaw a wna fy Nuw.
8Na lawenha, fy ngelynes, o’m herwydd;
Er syrthio, gwnaf gyfodi;
Pan eisteddwyf mewn tywyllwch,
Iehofa a fydd yn oleuni i mi:
9Digder Iehofa a ddyoddefaf,
(O herwydd pechais yn ei erbyn)
Hyd y dadleuo fy nadl,
Ac y gwnelo farn drosof;
Yna dwg fi allan i’r goleuni,
A chaf weled ei gyfiawnder.
10Gwel hyn hefyd, fy ngelynes;#7:10 “Y gelynes” oedd Babilon; gwêl Ier. 1:11; ond dywed rhai mai Edom a feddylir; Gwel Obad. adn. 12. Iaith ffydd yw hon — iaith un yn credu addewid Duw.
A gorchuddia hi gywilydd,
A ddywedasai wrthyf, “P’le mae Iehofa dy Dduw?”
Fy llygaid a edrychant arni;#7:10 Edrych ar elyn a arwydda oruchafiaeth arno.
Y pryd hyn y bydd yn sathrfa,
Megys tom yr heolydd.
11Dydd i adeiladu dy furiau!
Y dydd hwnw, ymbellheir y ddeddf;#7:11 Yr hon oedd yn gwarafun adeiladu Ierusalem.
12Y dydd hwnw, atat hefyd y deuant
O Assyria, a dinasoedd amddiffynfa,
Ac o amddiffynfa hyd afon a môr,
O fôr, ac o fynydd i fynydd.
13Eto bydd y wlad yn anghyfannedd,
O achos ei thrigolion,
O herwydd ffrwyth eu gweithredion.
14Portha dy bobl â’th ffon,
Praidd dy etifeddiaeth,
A drigant yn unig yn y goedwig.#7:14 Dyma weddi y prophwyd. Y “goedwig” oedd gwlad eu caethiwed; lle llawn o beryglon yw y goedwig, o herwydd creaduriaid rheibus; felly yr oedd gwlad estronol i Israel. Yr oeddynt “yn unig,” sef, ar eu pen eu hunain. Ceisiai gan Dduw eu porthi, neu eu bugeilio o’i “ffon,” offeryn i amddiffyn y praidd rhag bwystfilod y maes.
Yn nghanol Carmel y porant,#7:14 Yr ateb oedd, y caent eto ddychwelyd i’w gwlad eu hun, a phori yno, ac enwa rai o’r manau goreu o ran porfa, Carmel, Basan, a Gilead; y cyntaf o du dwyrain i’r Iorddonen, a’r ddau le arall o du deheu iddi.
Yn Basan a Gilead, fel yn y dyddiau gynt:
15Fel yn nyddiau dy ddyfodiad di allan o dir yr Aipht,
Paraf iddynt weled ryfeddodau;
16Gwel hwynt#7:16 Sef, “y rhyfeddodau” a wnelai Duw er gwaredu y bobl. y cenedloedd,
A chywilyddiant o herwydd eu holl nerth;#7:16 Sef, nerth, neu gadernid, neu wroldeb plant Israel. Ond darllen rhai, “am eu holl nerth,” sef y cenedloedd; cywilyddient am na fyddai eu nerth o un lles iddynt i wrthwynebu Israel.
Gosodant eu llaw ar eu genau,
Eu clustiau a fyddarant;#7:16 Gosod llaw ar y genau, yw bod yn ddystaw; bod yn fyddar, yw gochelyd gwrandaw unrhyw newydd rhag ofn o’i fod yn anffodus. Llyfu y llwch, yw llwyr ddarostyngiad. “Pryfed,” neu ymlusgiaid, y rhai a lochesant mewn cudd-fanau.
17Llyfant lwch fel y sarff,
Fel pryfed y ddaear dychrynant o’u llochesau;
Rhag Iehofa ein Duw yr arswydant,
Ac ofnant o’th herwydd di.
18Pwy Dduw fel tydi?#7:18 Diwedda y prophwyd mewn syndod o herwydd mawredd trugaredd Duw. Trefnir yma y llinellau yn y fath fodd ag i ddangos yr hyn a ddywed y prophwyd wrth Dduw, a’r hyn a ddywed am Dduw.
Yn dileu camwedd ac yn maddeu trosedd:
Yn erbyn gweddill ei etifeddiaeth
Ni ddeil dros fyth ei ddigofaint,
Canys yn hoffi trugaredd y mae efe:
19Dychwel a thosturia wrthym,
Gorchfyga ein camweddau;#7:19 Golygir “camweddau” megys gelynion; am hyny dywedir yn y llinell a ganlyn y teflid hwynt megys Pharo a’i lu i waelod y môr.
Ië, tefli i waelodion y môr eu holl bechodau:
20Cyflawni y gwirionedd i Iacob,
Y drugaredd i Abraham,#7:20 Pam “wirionedd” i Iacob, a “thrugaredd” i Abraham? Yr addewid i Abraham oedd rad; tarddai o drugaredd: ond yr addewid wedi ei gwneuthur, gwirionedd oedd yn gofyn ei chyflawniad. Gwel 1 Ioan 1:9.
Yr hon a dyngaist i’n tadau,
Er y dyddiau gynt.
Dewis Presennol:
Mica 7: CJO
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.