Habacuc 2
2
PENNOD II.
1Ar fy ngwylfa y safaf
Ac ymsefydlaf ar y tŵr;
A gwyliaf i weled beth a ddywed wrthyf,
A pheth a atebaf pan y’m cerydder. —
2Yna atebodd yr Arglwydd fi, a dywedodd, —
“Ysgrifena y weledigaeth,
A gwna hi yn eglur ar lechau,
Fel y gallo yr hwn a redo ei darllen;
3Canys y weledigaeth sydd eto dros amser,
Ond anadla#2:3 Dywed am y weledigaeth fel yn farw dros amser, ond daw yn fyw gan yr “anadla:” dyma ystyr y gair. yn y diwedd, ac ni thwylla;
Oes oeda, dysgwyl amdani,
O herwydd gan ddyfod y daw, nid ohiria;#2:3 Er yr “oeda,” eto nid “ohiria;” ni bydd tu hwnt i’r amser gosodedig.
Wele y diffygiol!#2:3 Dyma yr ystyr unol â’r dyfyniad a wna Paul o’r adnod, yn Heb. 10:38. nid uniawn ei galon ynddo;
4Ond y cyfiawn, trwy ei ffydd y bydd byw.”
5A dïau fod gwin#2:5 Nid “gwin” cyffredin a feddylir, ond gwin gorymgais a balchder. Gwel adn 15. Brenin Babilon yw y “cadarn.” yn twyllo’r cadarn,
Trahaus yw, ac ni orphwysa;
Ymhelaetha fel y bedd ei ddymuniad,
Ac fel angeu, ac nis digonir;
A chasgl ato ei hun yr holl genedloedd,
A chynnull ato ei hun yr holl bobloedd.
6Oni wna y rhai’n, bob un o honynt,
Gyfodi am dano ddammeg a dïareb,
Ië, gwawdeiriau amdano, a dywedyd, —
“Ho!#2:6 Felly y dylai fod, gan mai gwawdiaeth ydyw. Dywedir yn gyntaf am dano, yna cyfeirir yr ymadrodd ato. llïosoga yr hyn nad yw ei eiddo! pa hyd!
A phentyra arno ei hun glai lawer!
7Onid yn sydyn y cyfyd dy frathwyr
Ac y deffry dy boenydwyr,
Ac y deui yn ysglyfaeth iddynt?
8Am i ti anrheithio cenedloedd lawer,
Anrheithia di holl weddill y bobloedd,
O herwydd gwaed dynion, a gormesu y wlad,
Y ddinas a phawb a drigent ynddi.
9“Ho! chwennycha chwant drwg i’w dŷ,
Er gosod yn uchel ei nyth,
Fel y gwaredo ei hun o law adfyd! —
10Trefnaist waradwydd i’th dŷ,
Trwy dori ymaith bobloedd lawer,
A phechu yn erbyn dy hun:#2:10 Sef, trwy wneuthur yr hyn a drodd er niwed iddo: yn llythyrenol, “dy enaid dy hun”; ond dynoda “enaid” yn aml ddyn ei hun.
11Canys y gareg o’r mur a lefa,
A’r trawst o’r coedadail a’i hetyb, —
12“Ho! adeilada dref â gwaed!
A sefydla ddinas trwy ormes!”
13Onid yw hyn oddiwrth Arglwydd y lluoedd —
Yr ymboena’r bobloedd yn yr hyn a losgir,
Ac yr ymflina y cenedloedd mewn peth ofer?
14Canys llenwir y ddaear
A gwybodaeth o ogoniant yr Arglwydd,
Fel y dyfroedd a ymdaenant dros y môr.#2:14 Y gogoniant a feddylir yma oedd yr hyn a ddeilliai oddiwrth y dinystr a ddygai Duw ar ddinas Babilon.
15“Ho! gwna i’w gyfaill yfed! —
Gan roddi iddynt dy gostrel, ac hefyd ddïod gadarn,
Fel yr edrychit ar eu noethni,
16Digonaist hwynt â gwarth yn lle gogoniant:
Yf dithau fel y dynoether dy flaengroen;
Troir iti gwpan deheulaw yr Arglwydd,
A chwydiad gwarthus fydd ar dy ogoniant:
17Canys gormesu#2:17 Arferir yn ein iaith ni, megys ag yn yr Hebraeg, barwyddiaid fel enwadau. Lebanon a’th ddadymchwel,
Ac anrheithio anifeiliaid a’th ddryllia, —
O herwydd gwaed dynion a gormesu y wlad,
Y ddinas a phawb a drigent ynddi.
18“Pa fudd a wna y gerfddelw?
O herwydd ei cherfiwr a’i lluniodd;
Neu y dawdd-ddelw ac athraw celwydd?
O herwydd ymddiriedodd ynddi luniwr ei llun,
Er iddo wneyd delwau mudion!
19Ho! dywed wrth bren, ‘Cyfod, deffro;’
Wrth faen mud, ‘Efe a ddysg:’
Wele, hi a wisgwyd âg aur ac arian;
Eto nid oes anadl o’i mewn:
20Ond yr Arglwydd, yn ei deml santaidd y mae;
Tawed ger ei fron Ef yr holl ddaear.”
Dewis Presennol:
Habacuc 2: CJO
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.