1 Pedr 1
1
PEN. I.
1PEDR, apostol Iesu Grist, at y dyeithriaid#1:1 Geilw hwynt yn “bererinion” hefyd yn pen. 2:11. ydynt ar wasgar yn Pontus, Galatia, Cappadocia, Asia, a Bithynia, 2etholedig yn ol rhagwybodaeth Duw Dad, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, i ufudd-dod#1:2 Etholwyd hwynt i ufudd-dod, nid am ufudd-dod, ac i gael eu taenellu â gwaed Iesu Grist er maddeuant pechodau. a thaenelliad gwaed Iesu Grist; — rhad a heddwch a lïosoger i chwi.
3Bendigedig fo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, hwn yn ol ei fawr drugaredd a’n hadgenedlodd#1:3 Attodiad NNid yw “adgenedlu” yma yn dynodi adenedigaeth, sef y gwaith adnewyddol ar yr enaid, pan blaner ynddo anian ysbrydol; ond y cyfnewid a gymerodd le, mewn perthynas i obaith am fywyd tragywyddol, trwy adgyfodiad ein Harglwydd. Pan roddwyd Crist i farwolaeth edwinodd y gobaith hwn, ond pan adgyfododd, adfywiodd, a daeth yn obaith bywiol, effeithiol, sylweddol. A’r cyfnewidiad hwn a elwir yn adgenedliad, a phriodolir ef i’r adgyfodiad, ac nid i weithrediad yr Ysbryd. Hynod fel y camolygir yr ystyr yma gan ddeonglwyr yn gyffredin. Y cyffelyb ystyr sydd i’r gair cenedlu, pan ddywedir, “Myfi heddyw a’th genedlais.” Heb. 1:5 i obaith bywiol, trwy adgyfodiad Iesu Grist oddiwrth y meirw, 4i etifeddiaeth anllygradwy, a dihalogadwy, ac anniflanadwy,#1:4 Nis gellir eu llygru neu eu dinystrio gan ddylif neu gan dân, na’i halogi fel Canaan gan blant Israel, ac ni ddiflana fel etifeddiaeth fydol. a gedwir yn y nefoedd i ni, 5y rhai gan allu Duw a ddiogelir#1:5 Yn llythyrenol, “a wersyllir,” neu, “a warchodir:” amddiffynir hwynt, a gwylir arnynt, fel pe baent mewn gwersyllfan. trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i’w dadguddio yn yr amser diweddaf: 6yr hyn y gorfoleddwch am dano,#1:6 Sef, am ddadguddiad o’r iachawdwriaeth, yr hon a berffeithir y dydd diweddaf, o ran y corff yn gystal a’r enaid. er yn awr dros ychydig enyd (os rhaid hyny) yn tristâu o herwydd amryw brofedigaethau; 7fel y byddo eich ffydd,#1:7 Yn llythrennol, “Profiad eich ffydd,” yr hyn a arwydda, yn ôl arfer yr Hebraeg, “eich ffydd brofedig,” neu, “wedi ei phrofi.” Y gymhariaeth sydd rhwng ffydd ac aur. sydd lawer mwy gwerthfawr na’r aur a dderfydd er ei brofi gan dân, i fod, wedi ei phrofi, er clod ac anrhydedd a gogoniant#1:7 Caiff ffydd “glod” gan y Barnydd pan wna ei chymeradwyo, “anrhydedd” ger bron dynion ac angelion, ac arwain i “ogoniant” tragwyddol. ar ddadguddiad Iesu Grist: 8yr hwn heb ei ganfod a garwch; yr hwn, heb yn awr yn ei weled, ond yn credu, y gorfoleddwch ynddo â llawenydd annhraethadwy a gogoneddus, 9gan dderbyn cyflawniad o’ch ffydd, iachawdwriaeth eich eneidiau.#1:9 Hyn yn awr, a’r corff hefyd yn yr adgyfodiad.
10Yr hon iachawdwriaeth yr ymofynodd ac yr ymchwiliodd am dani y prophwydi, a brophwydasant am y rhad hwn i chwi; 11gan chwilio pa bryd neu pa ryw amser yr amlygai Yspryd Crist oedd ynddynt am dano, pan y rhagdystiolaethai am ddyoddefiadau Crist a’r gogoneddiadau#1:11 Y gogoneddiad cyntaf oedd yr adgyfodiad; yr ail, ei esgyniad i’r nef, ac wedi hynny ei seddiad ar ddeheulaw Duw, ac ymostyngiad iddo o holl alluoedd nef. ar ol hyny: 12y rhai y dadguddiwyd iddynt, nad iddynt hwy eu hunain, ond i ni, y gweinent y pethau a fynegwyd yn awr i chwi gan y rhai a bregethasant i chwi yr efengyl trwy yr Ysbryd Glân a ddanfonwyd o’r nef; yr hyn bethau y chwennycha angelion edrych arnynt.
13O herwydd hyn, gan wregysu#1:13 Attodiad Ogan wregysu , &c. Cyfeiriad sydd at arfer yn y dwyrain o wisgo dillad llaes, yn cyrhaedd hyd y llawr; a phan fyddent yn egnïol yn ymafael mewn unrhyw waith, neu yn brysio ar daith, crynhöent eu dillad, a chlyment hwynt â gwregys o gylch eu llwynau, modd na rwystrer hwynt gan eu dillad; a byddai y gwregys yn nerth iddynt hefyd. Llwyr ymdrech meddwl a feddylir; a thuag at hyn yr oeddent i fod yn gymedrol, gan fod meddwdod a glythineb yn gwanhâu y meddwl, fel nad allo ymdrechu yn egnïol. Gwel Luc 11:34, ac Eph. 6:14. lwynau eich meddwl a bod yn gymedrol,#1:13 Sef, o ran yfed a bwyta. cyflawn obeithiwch#1:13 Hyny yw, gobeithio yn llawn, heb betrusder, a chydag awydd i fwynhâu yr hyn a obeithir. am y rhad a ddygir i chwi ar ddadguddiad Iesu Grist; 14fel plant ufudd, heb gydymagweddu â’r chwantau blaenorol yn eich anwybodaeth; 15ond gan fod yr Hwn a’ch galwodd yn sanctaidd, byddwch chwi hefyd yn sanctaidd yn eich holl ymarweddiad; 16oblegid ysgrifenwyd, “Byddwch yn sanctaidd, o herwydd myfi, sanctaidd ydwyf.”
17A chan y gelwch ar y Tad, yr hwn a farna heb dderbyn wyneb yn ol gwaith pob un, ymddygwch mewn ofn#1:17 Mae pedwar math o ofn — ofn gwasaidd — ofn mabaidd — ofn parchus — ac ofn gwyliadwrus. Yr olaf a feddylir yma, gan fod ymdaith yn gofyn gwylio rhag peryglon ar y ffordd. dros amser eich ymdeithiad; 18gan wybod nad â phethau llygredig,#1:18 Sef, darfodedig; felly yn adn. 23. arian neu aur, y prynwyd chwi oddiwrth eich ofer ymarweddiad, oedd yn ol traddodiad y tadau, 19ond â gwerthfawr waed Crist, megys Oen difeïus a difrychau;#1:19 Cyfeirir at yr hyn a orchymynid tan y ddeddf. Deut 15:21. 20yr hwn yn wir a ragdrefnwyd cyn seiliad y byd, ond a amlygwyd yn yr amseroedd diweddaf er eich mwyn chwi, 21y rhai a gredwch trwyddo yn Nuw, yr hwn a’i cyfododd oddiwrth y meirw, ac a roddodd iddo ogoniant, fel y byddai eich ffydd a’ch gobaith yn Nuw.
22Gan i chwi buro eich calonau trwy ufudd-dod i’r gwirionedd trwy’r Ysbryd, o ran brawdgarwch diragrith, cerwch eich gilydd o galon bur yn wresog;#1:22 Brydlawn, angherddol, nid yn oeraidd. 23gwedi cael eich haileni,#1:23 Dywed am buro’r galon gyntaf, yna ä yn ôl at aileni. Dyma’r drefn a ganfyddir yn aml yn yr Ysgrythyr. Enwa Paul gyffes o flaen ffydd. Rhuf. 10:9. nid o hâd llygredig, ond anllygredig, trwy air Duw, sydd yn fywiol#1:23 Mai’r “gair” a feddylir sydd amlwg oddiwrth adn. 25. Nid yw y gair yn farw neu heb nerth, ond yn alluog, ac yn parhâu. ac yn parhâu yn dragywydd: 24o herwydd pob cnawd sydd fel glaswellt, a holl ogoniant dyn fel blodeuyn glaswellt; gwywa y glaswellt a syrthia ei flodeuyn; 25ond gair yr Arglwydd a erys yn dragywydd; a hwn yw y gair a bregethwyd i chwi.
Dewis Presennol:
1 Pedr 1: CJO
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.