1
1 Pedr 1:3-4
Proffwydi ac Epistolau 1852-62 (John Owen)
Bendigedig fo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, hwn yn ol ei fawr drugaredd a’n hadgenedlodd i obaith bywiol, trwy adgyfodiad Iesu Grist oddiwrth y meirw, i etifeddiaeth anllygradwy, a dihalogadwy, ac anniflanadwy, a gedwir yn y nefoedd i ni
Cymharu
Archwiliwch 1 Pedr 1:3-4
2
1 Pedr 1:6-7
yr hyn y gorfoleddwch am dano, er yn awr dros ychydig enyd (os rhaid hyny) yn tristâu o herwydd amryw brofedigaethau; fel y byddo eich ffydd, sydd lawer mwy gwerthfawr na’r aur a dderfydd er ei brofi gan dân, i fod, wedi ei phrofi, er clod ac anrhydedd a gogoniant ar ddadguddiad Iesu Grist
Archwiliwch 1 Pedr 1:6-7
3
1 Pedr 1:15-16
ond gan fod yr Hwn a’ch galwodd yn sanctaidd, byddwch chwi hefyd yn sanctaidd yn eich holl ymarweddiad; oblegid ysgrifenwyd, “Byddwch yn sanctaidd, o herwydd myfi, sanctaidd ydwyf.”
Archwiliwch 1 Pedr 1:15-16
4
1 Pedr 1:14
fel plant ufudd, heb gydymagweddu â’r chwantau blaenorol yn eich anwybodaeth
Archwiliwch 1 Pedr 1:14
5
1 Pedr 1:13
O herwydd hyn, gan wregysu lwynau eich meddwl a bod yn gymedrol, cyflawn obeithiwch am y rhad a ddygir i chwi ar ddadguddiad Iesu Grist
Archwiliwch 1 Pedr 1:13
6
1 Pedr 1:24-25
o herwydd pob cnawd sydd fel glaswellt, a holl ogoniant dyn fel blodeuyn glaswellt; gwywa y glaswellt a syrthia ei flodeuyn; ond gair yr Arglwydd a erys yn dragywydd; a hwn yw y gair a bregethwyd i chwi.
Archwiliwch 1 Pedr 1:24-25
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos