Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Pedr 2

2
PEN. II.
1Yna gan roi heibio bob drwg#2:1 Bob math o ddrygioni. a phob twyll, a phob rhagrith,#2:1 Yn llythyrenol, rhagrithiau. a chenfigenau, a phob absenau, 2fel plant newydd eni, chwennychwch bur#2:2 Felly ei ystyr yma, heb gymysgedd o un peth niweidiol. Arwydda “ddidwyll” pan ddywedir am ddynion. laeth y gair, fel y cynnyddoch trwyddo; 3gan#2:3 Neu, yn gymaint ag, nid “os” yn y lle hwn. y profasoch fod yr Arglwydd yn haelionus.#2:3 Sef, trwy iddynt gael eu hadgenedlu ganddo.
4Yr hwn gan ddyfod ato, y maen bywiol, gwrthodedig yn wir gan ddynion, ond gan Dduw yn etholedig a gwerthfawr, 5chwi hefyd, fel meini bywiol, a adeiladwyd yn dŷ ysbrydol, yn offeiriadaeth sanctaidd,#2:5 Y “dŷ,” lle yr anneddai’r Ysbryd, ac “offeiriadaeth” i wasanaethu Duw. Dywedir hyn, nid am wienidogion, ond am yr eglwys. Mae pob credadyn yn offeiriad. i gyflwyno aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist. 6Ac o herwydd hyn cynnwysir yn yr Ysgrythyr, “Wele, gosodaf yn Sïon bencongl-faen, etholedig a gwerthfawr; a’r hwn a gredo ynddo, nis cywilyddir.” 7I chwi gan hyny a gredwch y mae yn werthfawr; ond i’r anufuddion, y maen a wrthododd yr adeiladwyr, yr hwn a ddaeth yn ben y gongl, 8a ddaeth hefyd yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr; sef iddynt hwy y rhai gan fod yn anufudd a dramgwyddant wrth y gair; yr hyn beth hefyd y trefnwyd hwynt iddo:#2:8 Sef, i dramgwyddo wrth y gair o herwydd eu hanufudd-dod neu eu hanghrediniaeth. I hyn eu trefnwyd neu eu gosodwyd, yn ol tystiolaeth yr Ysgrythyr. Attodiad P. faen tramgwydd , &c. Tramgwydda un pan y tarawo ei droed wrth rywbeth ar y ffordd ac y llithro heb gyflawn syrthio. Rhwystrir un pan y byddo rhywbeth ar y ffordd yn ei attal i fyned yn y blaen. Gosodir yma y ddwy blaid, credinwyr ac anghredinwyr, yn ol y drefn arferedig: credinwyr yn gyntaf yn adn. 7fed a dechreu yr 8fed; ac yna anghredinwyr neu anufuddion ar ddiwedd yr 8fed ac yn y 9fed. 9ond chwi ydych yn hiliogaeth etholedig, yn offeiriadaeth freninol, yn genedl sanctaidd, yn bobl brynedig,#2:9 Neu, “bobl trwy bryniad.” Gwel pen. 1:18. fel y mynegoch foliannau#2:9 Attodiad R. foliannau: arfer y Deg a Thriugain yn aml y gair a gawn yma yn yr ystyr hwn, gwel Es. 42:8, 12; a chydwedda yn well â’r lle hwn na “rhinweddau.” Felly y Saesoneg — praises. yr hwn a’ch galwodd allan o dywyllwch i’w ryfeddol oleuni: 10y rhai nid oeddech gynt yn bobl, ond yn awr yn bobl Dduw; y rhai ni thrugarhäwyd wrthych, ond yn awr a gawsoch drugaredd.
11Erfyniaf arnoch chwi, anwyliaid, megys dyeithriaid a phererinion,#2:11 “Dyeithriaid,” rhai oddicartref. “Pererinion,” teithwyr i wlad arall. i ymgadw rhag chwantau cnawdol, y rhai a frwydrant#2:11 Fel milwyr tan arfau. yn erbyn yr enaid; 12gan gadw eich ymarweddiad yn hardd#2:12 Neu, “yn dda,” sef yn gywir ac yn weddus. ymysg y cenedloedd, fel yn gymaint ag yr absenant chwi fel drwgweithredwyr,#2:12 Trwy ymwrthod â’u coelgrefyddau. gan weled eich gweithredoedd da, y gogoneddont Dduw yn nydd eu hymweliad#2:12 Dydd yr efengyl.
13Ymostyngwch gan hyny i bob sefydliad dynol#2:13 Neu “osodiad dynol.” o herwydd yr Arglwydd, pa un ai i’r brenin fel y goruchaf, 14neu i’r llywiawdwyr fel wedi eu danfon ganddo er cosbi drwgweithredwyr a chymeradwyo gweithredwyr da: 15o herwydd hyn yw ewyllys Duw, fod i chwi trwy wneuthur yr hyn sydd dda ddystewi anwybodaeth dynion disynwyr;#2:15 Yn llythyrenol, “difeddwl” — anystyriol, neu, “ddiddeall” — annoeth, disynwyr. Ond y difeddwl sydd hefyd yn ddisynwyr. 16fel yn rhyddion, ond nid â rhyddid genych megys gorchudd dros ddrwg,#2:16 Sef, er cuddio y drwg o anufudd-dod i lywodraeth. ond fel gweision Duw. 17Anrhydeddwch bawb, cerwch y frawdoliaeth, ofnwch Dduw, anrhydeddwch y brenin.
18Y gweision, ymostyngwch i’ch meistriaid gyda phob ofn,#2:18 Ofn Duw, ac ofn parchus tuag at eu meistriaid. Gwel nôd ar pen. 1:17. nid yn unig i’r da a’r addfwyn, ond i’r anhynaws hefyd. 19Canys hyn sydd gymeradwy, os o herwydd cydwybod tuag at Dduw y goddef neb dristwch, gan ddyoddef yn anghyfiawn. 20Oblegid pa glod yw, os pan bechoch, ac y cernodier chwi, yr ymoddefwch? ond os a chwi yn gwneuthur yr hyn sydd dda ac yn dyoddef, yr ymoddefwch, hyn sydd gymeradwy ger bron Duw: 21canys i hyn y galwyd chwi; oblegid Crist hefyd a ddyoddefodd trosoch, gan adael i chwi gynlluniad, fel y dilynech ei gamrau; 22yr hwn ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau; 23hwn, pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn; pan ddyoddefodd, ni fygythiodd, ond traddododd ei hun i’r hwn a farna yn gyfiawn; 24yr hwn a ddygodd ei hun ein pechodau#2:24 Sef eu cosb. Es. 53:5, 12. yn ei gorff ar y pren, fel y byddem ni, gwedi ein rhyddhau oddiwrth bechodau#2:24 Eu llywodraeth, eu harglwyddiaeth. Rhuf. 6:14. Nid eu cyfrifiad a feddylir yma, neu ryddhâd oddiwrth euogrwydd trwy faddeuant, o herwydd nid heddwch â Duw y dywedir am dano, ond “byw i gyfiawnder.” i fyw i gyfiawnder; yr hwn trwy ei gleisiau#2:24 Attodiad S “Yr hwn trwy ei gleisiau,” &c. Dyma eiriadaeth llwyr Gymraeg, yn gywir unol â’r Hebraeg. Gwel Gen. 1:13, 29. Ganlynir hyn ambell waith yn ein cyfieithiad, ond nid mor fynych ag y dylasid. Nid yw yn unol â nodwedd y Gymraeg i roddi trwy, yn, am , neu ymron unrhyw ragair, o flaen “hwn,” neu “rhai,” ond o flaen y rhagenw a arddodir. Nid oes braidd unpeth a esgeulusir yn fwy na hyn, a hyny trwy ddilyn geirwedd y Saesoneg. yr iachäwyd chwi: 25canys yr oeddech fel defaid yn crwydro; ond yn awr dychwelwyd chwi at Fugail ac Arolygwr eich eneidiau.

Dewis Presennol:

1 Pedr 2: CJO

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda