Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mark 13

13
PENNOD XIII.
Crist yn rhagfynegi dinystr y deml; ac erlidiau o achos yr efengyl; bydd rhaid pregethu yr efengyl i’r Cenhedloedd oll: a dull ei ddyfodiad ef i’r farn: Na wyr neb yr awr, ac y dylai bob dyn wylied a gweddïo.
1AC fel yr oedd efe yn myned allan o’r deml, un o’i ddisgyblion a ddywedai wrtho, Athraw, edrych pa ryw feini, a pha fath adeiladau sydd yma. 2Ar Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, A weli di yr adeiladau mawrion hyn? ni edir maen ar faen, a’r ni’s dattodir. 3Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar fynydd yr Olewŷdd, gyferbyn a’r deml, Pedr, ac Iakob, ac Ioan, ac Andreas, a ofynasant iddo o’r neilldu, 4Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo y pethau hyn oll ar ddibennu? 5A’r Iesu a attebodd iddynt, ac a ddechreuodd ddywedyd, Edrychwch rhag i neb eich twyllo. 6Canys llawer a ddaw yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer. 7Ond pan glywoch am ryfeloedd, a son am ryfeloedd, na chyffrôer chwi: canys rhaid i hynny fod; ond nid yw y diwedd etto. 8Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a breniniaeth yn erbyn breniniaeth: a daear-grynfâu fyddant mewn mannau, a newyn, a thrallod. 9Dechreuad gofidiau yw y pethau hyn. Eithr edrychwch chwi arnoch eich hunain: canys traddodant chwi i’r cynghorau, ac i’r synagogau; chwi a faeddir, ac a ddygir ger bron llywodraethwyr a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy. 10Ac y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu yr efengyl ym mysg yr holl genhedloedd. 11Ond pan ddygant chwi, a’ch traddodant, na ragofelwch beth a ddywettoch, ac na fyfyriwch: eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hynny dywedwch: canys nid chwychwi sy’n llefaru, ond yr Yspryd Glân. 12A’r brawd a ddyry frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a gyfodant yn erbyn eu rhieni, ac a’u rhoddant i farwolaeth. 13A chwi a fyddwch gas gan bawb er mwyn fy enw i: eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig. 14Ond pan weloch chwi y ffieidd-dra anghyfanneddol, yr hwn a lefarwyd am dano gan Ddaniel y prophwyd, wedi ei osod lle ni’s dylid (y neb a ddarlleno, dealled) yna y rhai a fyddant yn Iudaia, ffoant i’r mynyddoedd: 15A’r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgyned i’r tŷ, ac nac aed i mewn i gymmeryd dim o’i dŷ. 16A’r neb a fyddo yn y maes, na throëd yn ei ol i gymmeryd ei wisg. 17Ond gwae y rhai beichiog, ar rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny. 18Ond gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gauaf. 19Canys yn y dyddiau hynny y bydd gorthrymder, y cyfryw ni bu y fath o ddechreu y creadwriaeth a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ni bydd. 20Ac oni buasai fod i’r Arglwydd fyrhâu y dyddiau, ni chadwesid pob cnawd: eithr er mwyn yr etholedigion a etholodd, efe a fyrhaodd y dyddiau. 21Ac yna os dywed neb wrthych, Wele, dyma y Crist; neu, Wele, yma, na chredwch. 22Canys gau-gristiau a gau-brophwydi a gyfodant, ac a ddangosant arwyddion a rhyfeddodau, i hudo ymaith, pe gallent, ïe, yr etholedigion. 23Eithr ymogelwch chwi: wele, rhag-ddywedais i chwi bob peth. 24Ond yn y dyddiau hynny, wedi y gorthrymder hwnnw, y tywylla yr haul, a’r lloer ni rydd ei oleuni; 25A ser y nef a syrthiant, a’r nerthoedd sydd yn y nefoedd a siglir. 26Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod yn y cymmylau, â gallu mawr a gogoniant. 27Ac yna yr enfyn efe ei angylion, ac y cynnull ei etholedigion oddi wrth y pedwar gwŷnt, o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef. 28Ond dysgwch ddammeg oddi wrth y ffigysbren: Pan fo ei gangen eisoes yn dyner, a’r dail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos: 29Ac felly chwithau, pan weloch y pethau hyn wedi dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau. 30Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, nad â yr oes hon heibio, hyd oni wneler y pethau hyn oll. 31Nef a daear a ant heibio: ond fy ngeiriau i nid ant heibio. 32Eithr am y dydd hwnnw a’r awr ni wyr neb, na’r angylion sydd yn y nef, na’r Mab, ond y Tad. 33Ymogelwch, gwyliwch a gweddïwch: canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser. 34Canys Mab y dyn sydd fel gwr yn ymdaith i bell, wedi gadael ei dŷ, a rhoi awdurdod i’w weision, ac i bob un ei waith, a gorchymyn i’r drysawr wylio. 35Gwyliwch gan hynny (canys ni’s gwyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, yn yr hwyr, ai hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, a’i y bore-ddydd) 36Rhag iddo ddyfod yn ddisymmwth, a’ch cael chwi yn cysgu. 37A’r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi, yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb, Gwyliwch.

Dewis Presennol:

Mark 13: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda