Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mark 14

14
PENNOD XIV.
Cyd-fwriad yn erbyn Crist. Gwraig yn tywallt ennaint gwerthfawr ar ei ben ef. Iudas yn gwerthu ei feistr am arian; ac yn ei fradychu ef â chusan. Ei ddala ef yn yr ardd, Cynnulleidfa yr Iudaion yn achwyn arno ef ar gam; ac yn ei ammherchi yn gywilyddus, Pedr yn ei wadu ef deirgwaith.
1AC wedi deuddydd yr oedd y pasg, a gwledd y bara croyw: a’r arch-offeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy dwyll, ac y lladdent ef. 2Eithr dywedasant, Nid ar y wledd, rhag bod cynnwrf ym mhlith y bobl. 3A phan oedd efe yn Bethania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, ac efe yn eistedd i fwytta, daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint o nard gwlyb gwerth-fawr; a hi a dorrodd y blwch, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef. 4Ac yr oedd rhai yn anfoddlon ynddynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba beth y gwnaethpwyd y wastraff hon o’r ennaint? 5Oblegyd fe a allasid gwerthu hwn uwch law tri chan ceiniog, a’u rhoddi i’r tlodion. A hwy a ffrommasant yn ei herbyn hi. 6A’r Iesu a ddywedodd, Gadêwch iddi; Paham y gwnewch flinder iddi? hi a wnaeth weithred dda arnaf fi. 7Canys bob amser y cewch y tlodion gyd â chwi; a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt: ond myfi ni chewch bob amser. 8Hyn a allodd hon, hi a’i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i enneinio fy nghorph erbyn fy ngladdedigaeth. 9Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a lefarir, er coffa am dani. 10A Iudas Iscariot, un o’r deuddeg, a aeth ymaith at yr arch-offeiriaid, i’w draddodi ef iddynt. 11A phan glywsant, fe fu lawen ganddynt, ac a addawsant roi arian iddo. Yntau a geisiodd pa fodd y gallai yn gymmwys ei draddodi ef. 12A’r dydd cyntaf o wledd y bara croyw, pan aberthent y pasg, dywedodd ei ddisgyblion wrtho, I ba le yr wyt ti yn ewyllysio i ni fyned i barottôi i ti, i fwytta’r pasg? 13Ac efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r ddinas; a chyferfydd a chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: dilynwch ef. 14A pha le bynnag yr el i mewn, dywedwch wrth wr y tŷ, Fod yr Athraw yn dywedyd, Pa le y mae y lletty, lle y gallwyf, mi a’m disgyblion, fwytta’r pasg? 15Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr wedi ei thanu yn barod: yno parottôwch i ni. 16A’i ddisgyblion a aethant, ac a ddaethant i’r ddinas; ac a gawsant megis y dywedasai efe wrthynt: ac a barottoisant y pasg. 17Ac yn yr hwyr, efe a ddaeth gyd â’r deuddeg. 18Ac fel yr oeddynt yn eistedd ac yn bwytta, yr Iesu a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Un o honoch, yr hwn sydd yn bwytta gyd â myfi, am bradycha i. 19Hwythau a ddechreuasant dristâu, a dywedyd wrtho bob yn un, Ai myfi? ac arall, Ai myfi? 20Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un o’r deuddeg, yr hwn sydd yn gwlychu gyd â mi yn y ddysgl, yw ef. 21Mab y dyn yn wir sydd yn myned ymaith, fel y mae yn ysgrifenedig am dano: ond gwae’r dŷn hwnnw trwy yr hwn y bradychir Mab y dyn: da fuasai i’r dyn hwnnw pe na’s ganesid. 22Ac fel yr oeddynt yn bwytta, yr Iesu a gymmerodd fara, ac a’i bendithiodd, ac a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt; ac a ddywedodd, Cymmerwch, bwyttêwch: hwn yw fy nghorph. 23Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoi diolch, efe a’i rhoddes iddynt: a hwy oll a yfasant o hono. 24Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed i o’r cyfammod newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer. 25Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, nad yfaf mwy o ffrwyth y winwŷdden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef yn newydd yn freniniaeth Duw. 26Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewŷdd. 27A dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwi a rwystrir oll o’m plegyd i y nos hon: canys y mae yn ysgrifenedig, Tarawaf y bugail, a’r defaid a wasgerir. 28Eithr wedi i mi adgyfodi, mi a af o’ch blaen chwi i Galilaia. 29Ond Pedr a ddywedodd wrtho, Pe byddai bawb wedi eu rhwystro, etto ni byddaf fi. 30A dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti, Heddyw, o fewn y nos hon, cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, y gwedi fi deirgwaith. 31Ond efe a ddywedodd yn helaethach o lawer, Pe gorfyddai i mi farw gyd â thi, ni’th wadaf di. Ar un modd y dywedasant oll. 32A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane; ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra byddwyf yn gweddïo. 33Ac efe a gymmerth gyd ag ef Pedr, ac Iakob, ac Ioan, ac a ddechreuodd ymofidio, a thristâu yn ddirfawr. 34Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch. 35Ac efe a aeth ychydig ym mlaen, ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a weddïodd, pe gellyt, ar fyned yr awr honno oddi wrtho. 36Ac efe a ddywedodd, Fy Nhad, pob peth sydd alladwy i ti: tro heibio y cwppan hwn oddi wrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti. 37Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Simon, ai cysgu yr wyt ti? oni allit wylio un awr? 38Gwyliwch a gweddïwch, rhag eich cwympo mewn profedigaeth. Yr yspryd yn ddiau sydd barod, ond y cnawd sydd wan, 39Ac wedi iddo fyned ymaith drachefn, efe a weddïodd, gan ddywedyd yr un ymadrodd. 40Ac wedi iddo ddychwelyd, efe a’u cafodd hwynt etto yn cysgu; canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhâu: ac ni wyddent beth a attebent iddo. 41Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, Ai cysgu a gorphwys ydych: digon yw; daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mab y dyn i ddwylaw pechaduriaid. 42Cyfodwch, awn; wele, y mae yr hwn sydd yn fy mradychu yn agos. 43Ac yn y man, ac efe etto yn llafaru, daeth Iudas, un o’r deuddeg, a chyd ag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr arch-offeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’r henuriaid. 44A’r hwn a’i bradychodd ef a roddasai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw yw: deliwch ef, a dygwch ymaith yn sicr. 45A phan ddaeth, efe a aeth atto yn ebrwydd, ac a ddywedodd, Athraw, Athraw; ac a’i cusanodd ef. 46A hwythau a roisant eu dwylaw arno, ac a’i daliasant ef. 47A rhyw un o’r rhai oedd yn sefyll ger llaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a darawodd was yr arch-offeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ef. 48A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ai megis at leidr y daethoch allan, â chleddyfau ac a ffyn, im dala i? 49Yr oeddwn i beunydd gyd â chwi yn athrawiaethu yn y deml, ac ni’m daliasoch: ond rhaid i’r ysgrythyrau gael eu cyflawni. 50A hwynt oll a’i gadawsant ef, ac a ffoisant. 51A rhyw wr ieuangc oedd yn ei ddilyn ef, wedi ymwisgo â lliain main ar ei gorph noeth; a’r gwŷr ieuaingc a’i daliasant ef. 52A hwn a adawodd y lliain, ac a ffodd oddi wrthynt yn noeth. 53A hwy a ddygasant yr Iesu at yr arch-offeiriad: a’r holl arch-offeiriaid, a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion, a ymgasglasant gyd ag ef. 54A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr arch-offeiriad; ac yr oedd efe yn eistedd gyd a’r rhingyllion, ac yn ymdwymno wrth y tân. 55A’r arch-offeiriaid a’r holl gynghor a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i’w roi ef i’w farwolaeth; ac ni chawsant. 56Canys llawer a ddygasant gau dystiolaeth yn ei erbyn ef; eithr nid oedd eu tystiolaethau hwy yn gysson. 57A rhai a gyfodasant ac a ddygasant gam-dystiolaeth yn ei erbyn, gan ddywedyd, 58Ni a’i clywsom ef yn dywedyd, Mi a ddinystriaf y deml hon o waith dwylaw, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw. 59Ac etto nid oedd eu tystiolaeth hwy felly yn gysson. 60A chyfododd yr arch-offeiriad yn y canol, ac a ofynodd i’r Iesu, gan ddywedyd, Oni attebi di ddim? beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn? 61Ac efe a dawodd, ac nid attebodd ddim. Drachefn yr arch-offeiriad a ofynodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw Crist, Mab y Bendigedig? 62A’r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheu-law y gallu, ac yn dyfod y’nghymmylau y nef. 63Yna yr arch-offeiriad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd, Pa raid i ni mwy wrth dystion? 64Chwi a glywsoch y gabledd: beth dybygwch chwi? A hwy oll a’i barnasant ef, ei fod yn euog o farwolaeth. 65A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a’i gernodio; a dywedyd wrtho, Prophwyda. A’r rhingyllion a’i tarawsant ef â gwiail. 66Ac fel yr oedd Pedr yn y llys i wared, daeth un o forwynion yr arch-offeiriad: 67A phan ganfu hi Pedr yn ymdwymno, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd, Tithau hefyd oeddit gyd â’r Iesu o Nazaret. 68Ac efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid adwâen i, ac ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i’r porth; a’r ceiliog a ganodd. 69A phan welodd y llangces ef drachefn, hi a ddechreuodd ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll yno, Y mae hwn yn un o honynt. 70Ac efe a wadodd drachefn. Ac ychydig wedi, y rhai oedd yn sefyll ger llaw a ddywedasant wrth Pedr, Yn wir yr wyt ti yn un o honynt: canys Galilaiad wyt, a’th leferydd sydd debyg. 71Ond efe a ddechreuodd regu a thyngu, Nid adwaen i y dyn yma yr ydych chwi yn dywedyd am dano. 72A’r ceiliog a ganodd yr ail waith. A Phedr a gofiodd y gair a ddywedasai yr Iesu wrtho, Cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, ti a’m gwedi deirgwaith. A chan guddio ei wyneb a’i fantell, efe a wylodd.

Dewis Presennol:

Mark 14: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda