Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 66

66
SALM 66
I’r Pencerdd, Cân neu Salm.
1Llawenfloeddiwch i Dduw, yr holl ddaear:
2Datgenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus.
3Dywedwch wrth Dduw, Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! oherwydd maint dy nerth, y cymer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti.
4Yr holl ddaear a’th addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i’th enw. Sela.
5Deuwch, a gwelwch weithredoedd Duw: ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion.
6Trodd efe y môr yn sychdir: aethant trwy yr afon ar draed: yna y llawenychasom ynddo.
7Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth; ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd: nac ymddyrchafed y rhai anufudd. Sela.
8O bobloedd, bendithiwch ein Duw, a pherwch glywed llais ei fawl ef:
9Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni ad i’n troed lithro.
10Canys profaist ni, O Dduw: coethaist ni, fel coethi arian.
11Dygaist ni i’r rhwyd: gosodaist wasgfa ar ein llwynau.
12Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau; aethom trwy y tân a’r dwfr: a thi a’n dygaist allan i le diwall.
13Deuaf i’th dŷ ag offrymau poeth: talaf i ti fy addunedau,
14Y rhai a adroddodd fy ngwefusau, ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder.
15Offrymaf i ti boethoffrymau breision, ynghyd ag arogl-darth hyrddod; aberthaf ychen a bychod. Sela.
16Deuwch, gwrandewch, y rhai oll a ofnwch Dduw; a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i’m henaid.
17Llefais arno â’m genau, ac efe a ddyrchafwyd â’m tafod.
18Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsai yr Arglwydd.
19 Duw yn ddiau a glybu, ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi.
20Bendigedig fyddo Duw, yr hwn ni throdd fy ngweddi oddi wrtho, na’i drugaredd ef oddi wrthyf finnau.

Dewis Presennol:

Y Salmau 66: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd