Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 67

67
SALM 67
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân.
1Duw a drugarhao wrthym, ac a’n bendithio; a thywynned ei wyneb arnom: Sela:
2Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear, a’th iachawdwriaeth ymhlith yr holl genhedloedd.
3Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi.
4Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn uniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaear. Sela.
5Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi.
6Yna y ddaear a rydd ei ffrwyth; a Duw, sef ein Duw ni, a’n bendithia.
7 Duw a’n bendithia; a holl derfynau y ddaear a’i hofnant ef.

Dewis Presennol:

Y Salmau 67: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda