Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 65

65
SALM 65
I’r Pencerdd, Salm a Chân Dafydd.
1Mawl a’th erys di yn Seion, O Dduw: ac i ti y telir yr adduned.
2Ti yr hwn a wrandewi weddi, atat ti y daw pob cnawd.
3Pethau anwir a’m gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a’u glanhei.
4Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nesaech atat; fel y trigo yn dy gynteddoedd: nyni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy deml sanctaidd.
5Atebi i ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder, O Dduw ein hiachawdwriaeth; gobaith holl gyrrau y ddaear, a’r rhai sydd bell ar y môr.
6Yr hwn a sicrha y mynyddoedd trwy ei nerth, ac a wregysir â chadernid.
7Yr hwn a ostega dwrf y moroedd, twrf eu tonnau, a therfysg y bobloedd.
8A phreswylwyr eithafoedd y byd a ofnant dy arwyddion: gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu.
9Yr wyt yn ymweled â’r ddaear, ac yn ei dyfrhau hi; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon Duw, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi.
10Gan ddyfrhau ei chefnau, a gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnwd hi.
11Coroni yr ydwyt y flwyddyn â’th ddaioni; a’th lwybrau a ddiferant fraster.
12Diferant ar borfeydd yr anialwch: a’r bryniau a ymwregysant â hyfrydwch.
13Y dolydd a wisgir â defaid, a’r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd; am hynny y bloeddiant, ac y canant.

Dewis Presennol:

Y Salmau 65: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda