Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 64

64
SALM 64
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Clyw fy llef, O Dduw, yn fy ngweddi: cadw fy einioes rhag ofn y gelyn.
2Cudd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus; rhag terfysg gweithredwyr anwiredd:
3Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon:
4I saethu y perffaith yn ddirgel: yn ddisymwth y saethant ef, ac nid ofnant.
5Ymwrolant mewn peth drygionus, ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel; dywedant, Pwy a’u gwêl hwynt?
6Chwiliant allan anwireddau; gorffennant ddyfal chwilio: ceudod a chalon pob un ohonynt sydd ddofn.
7Eithr Duw a’u saetha hwynt; â saeth ddisymwth yr archollir hwynt.
8Felly hwy a wnânt i’w tafodau eu hun syrthio arnynt: pob un a’u gwelo a gilia.
9A phob dyn a ofna, ac a fynega waith Duw: canys doeth ystyriant ei waith ef.
10Y cyfiawn a lawenycha yn yr Arglwydd, ac a obeithia ynddo; a’r rhai uniawn o galon oll a orfoleddant.

Dewis Presennol:

Y Salmau 64: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda