Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 15

15
1Ateb arafaidd a ddetry lid: ond gair garw a gyffry ddigofaint. 2Tafod y synhwyrol a draetha wybodaeth yn dda: ond genau y ffyliaid a dywallt ffolineb. 3Ym mhob lle y mae llygaid yr Arglwydd, yn canfod y drygionus a’r daionus. 4Pren y bywyd yw tafod iach: ond trawsedd ynddo sydd rwyg yn yr ysbryd. 5Dyn ffôl a ddiystyra addysg ei dad: ond y neb a ddioddefo gerydd, sydd gall. 6Yn nhŷ y cyfiawn y bydd mawr gyfoeth: ond am olud yr annuwiol y mae trallod. 7Gwefusau y doethion a wasgarant wybodaeth: ond calon y ffyliaid ni wna felly. 8Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond gweddi yr uniawn sydd hoff ganddo. 9Ffordd yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond efe a gâr y neb a ddilyn gyfiawnder. 10Cerydd sydd flin gan y neb a dry oddi ar y ffordd: a’r neb a gasao gerydd, a fydd marw. 11Uffern a dinistr sydd gerbron yr Arglwydd: pa faint mwy, calonnau plant dynion? 12Ni châr y gwatwarwr mo’r neb a’i ceryddo; ac nid â at y doethion. 13Calon lawen a wna wyneb siriol: ond trwy ddolur y galon y torrir yr ysbryd. 14Calon y synhwyrol a ymgais â gwybodaeth: ond genau y ffyliaid a borthir â ffolineb. 15Holl ddyddiau y cystuddiedig sydd flin: ond gwledd wastadol yw calon lawen. 16Gwell yw ychydig gydag ofn yr Arglwydd, na thrysor mawr a thrallod gydag ef. 17Gwell yw pryd o ddail lle byddo cariad, nag ych pasgedig a chas gydag ef. 18Gŵr dicllon a gyffry gynnen: ond gŵr hwyrfrydig i lid a dyr ymryson. 19Ffordd y diog sydd fel cae drain: ond ffordd yr uniawn sydd wastad. 20Mab doeth a lawenha ei dad: ond dyn ffôl a ddiystyra ei fam. 21Ffolineb sydd hyfryd gan yr ynfyd: ond gŵr deallus a rodia yn uniawn. 22Ofer fydd bwriadau lle ni byddo cyngor: ac mewn amlder cynghorwyr y sicrheir hwynt. 23Llawenydd fydd i ŵr oherwydd ymadrodd ei enau; ac O mor dda yw gair yn ei amser! 24Ffordd y bywyd sydd fry i’r synhwyrol, i ochel uffern obry. 25Yr Arglwydd a ddiwreiddia dŷ y beilchion: ond efe a sicrha derfyn y weddw. 26Meddyliau yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond geiriau y glân ŷnt beraidd. 27Y neb a fyddo dra chwannog i elw, a derfysga ei dŷ: ond y neb a gasao roddion, fydd byw. 28Calon y cyfiawn a fyfyria i ateb: ond genau y drygionus a dywallt allan ddrwg. 29Pell yw yr Arglwydd oddi wrth y rhai annuwiol: ond efe a wrendy weddi y cyfiawn. 30Llewyrch y llygaid a lawenha y galon: a gair da a frasâ yr esgyrn. 31Y glust a wrandawo ar gerydd y bywyd, a breswylia ymhlith y doethion. 32Y neb a wrthodo addysg, a ddiystyra ei enaid ei hun: ond y neb a wrandawo ar gerydd, a feddianna ddeall. 33Addysg doethineb yw ofn yr Arglwydd; ac o flaen anrhydedd yr â gostyngeiddrwydd.

Dewis Presennol:

Diarhebion 15: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd