Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 16

16
1Paratoad y galon mewn dyn, ac ymadrodd y tafod, oddi wrth yr Arglwydd y mae. 2Holl ffyrdd dyn ydynt lân yn ei olwg ei hun: ond yr Arglwydd a bwysa yr ysbrydion. 3Treigla dy weithredoedd ar yr Arglwydd, a’th feddyliau a safant. 4Yr Arglwydd a wnaeth bob peth er ei fwyn ei hun: a’r annuwiol hefyd erbyn y dydd drwg. 5Ffiaidd gan yr Arglwydd bob dyn uchel galon: er maint fyddo ei gymorth, ni bydd dieuog. 6Trwy drugaredd a gwirionedd y dileir pechod: a thrwy ofn yr Arglwydd y mae ymado oddi wrth ddrwg. 7Pan fyddo ffyrdd gŵr yn rhyngu bodd i’r Arglwydd, efe a bair i’w elynion fod yn heddychol ag ef. 8Gwell yw ychydig trwy gyfiawnder, na chnwd mawr trwy gam. 9Calon dyn a ddychymyg ei ffordd: ond yr Arglwydd a gyfarwydda ei gerddediad ef. 10Ymadrodd Duw sydd yng ngwefusau y brenin: ni ŵyra ei enau ef mewn barn. 11Pwys a chloriannau cywir, yr Arglwydd a’u piau: ei waith ef yw holl gerrig y god. 12Ffiaidd yw i frenhinoedd wneuthur annuwioldeb: canys trwy gyfiawnder y cadarnheir yr orsedd. 13Gwefusau cyfiawn sydd gymeradwy gan frenhinoedd; a’r brenin a gâr a draetho yr uniawn. 14Digofaint y brenin sydd megis cennad angau; ond gŵr doeth a’i gostega. 15Yn siriol wynepryd y brenin y mae bywyd: a’i ewyllys da ef sydd megis cwmwl glaw diweddar. 16Cael doethineb, O mor well yw nag aur coeth! a chael deall, mwy dymunol yw nag arian. 17Sarn y cyfiawn yw dychwelyd oddi wrth ddrwg: y neb a gadwo ei ffordd, a geidw ei enaid. 18Balchder sydd yn myned o flaen dinistr: ac uchder ysbryd o flaen cwymp. 19Gwell yw bod yn ostyngedig gyda’r gostyngedig, na rhannu yr ysbail gyda’r beilchion. 20A drino fater yn ddoeth, a gaiff ddaioni: a’r neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, O gwyn ei fyd hwnnw! 21Y doeth ei galon a elwir yn ddeallus; a melyster y gwefusau a chwanega ddysgeidiaeth. 22Ffynnon y bywyd yw deall i’w pherchennog: ond addysg ffyliaid yw ffolineb. 23Calon y doeth a reola ei enau ef yn synhwyrol, ac a chwanega addysg i’w wefusau. 24Geiriau teg ydynt megis dil mêl, yn felys i’r enaid, ac yn iachus i’r esgyrn. 25Mae ffordd a dybir ei bod yn uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd yw ffyrdd marwolaeth. 26Y neb a lafurio, a lafuria iddo ei hun: canys ei enau a’i gofyn ganddo. 27Dyn i’r fall sydd yn cloddio drwg: ac ar ei wefusau yr erys fel tân poeth. 28Dyn cyndyn a bair ymryson: a’r hustyngwr a neilltua dywysogion. 29Gŵr traws a huda ei gymydog, ac a’i tywys i’r ffordd nid yw dda. 30Efe a gae ei lygaid i ddychymyg trawsedd; gan symud ei wefusau y dwg efe ddrwg i ben. 31Coron anrhydeddus yw penllwydni, os bydd mewn ffordd cyfiawnder. 32Gwell yw y diog i ddigofaint na’r cadarn; a’r neb a reola ei ysbryd ei hun, na’r hwn a enillo ddinas. 33Y coelbren a fwrir i’r arffed: ond oddi wrth yr Arglwydd y mae ei holl lywodraethiad ef.

Dewis Presennol:

Diarhebion 16: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd