Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 14

14
1Gwraig ddoeth a adeilada ei thŷ: ond y ffolog a’i tyn ef i lawr â’i dwylo. 2Yr hwn sydd yn rhodio yn ei unionder, sydd yn ofni yr Arglwydd; a’r hwn sydd gyndyn yn ei ffyrdd, sydd yn ei ddirmygu ef. 3Yng ngenau y ffôl y mae gwialen balchder: ond gwefusau y doethion a’u ceidw hwynt. 4Lle nid oes ychen, glân yw y preseb: ond llawer o gnwd sydd yn dyfod trwy nerth yr ych. 5Tyst ffyddlon ni ddywed gelwydd; ond gau dyst a draetha gelwyddau. 6Y gwatwarwr a gais ddoethineb, ac nis caiff: ond gwybodaeth sydd hawdd i’r deallus. 7Dos ymaith oddi wrth ŵr ffôl pan wypech nad oes ganddo wefusau gwybodaeth. 8Doethineb y call yw deall ei ffordd ei hun: ond ffolineb y ffyliaid yw twyll. 9Y ffyliaid a ymhyfrydant mewn camwedd: ond ymhlith y rhai uniawn y mae ewyllys da. 10Y galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei hun: a’r dieithr ni bydd gyfrannog o’i llawenydd hi. 11Tŷ yr annuwiolion a ddinistrir: ond pabell y rhai uniawn a flodeua. 12Y mae ffordd sydd uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd hi yw ffyrdd angau. 13Ie, wrth chwerthin y bydd blin ar y galon; a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch. 14Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon o’i ffyrdd ei hun: ond y gŵr daionus a gilia oddi wrtho ef. 15Yr ehud a goelia bob gair: a’r call a ddeil ar ei gamre. 16Y doeth sydd yn ofni, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni: ond y ffôl sydd ffrom a hyderus. 17Gŵr dicllon a wna ffolineb: a chas yw y gŵr dichellgar. 18Y rhai ehud a etifeddant ffolineb: ond y rhai call a goronir â gwybodaeth. 19Y rhai drygionus a ymostyngant gerbron y daionus: a’r annuwiol ym mhyrth y cyfiawn. 20Y tlawd a gaseir, ie, gan ei gymydog ei hun: ond llawer fydd yn caru y cyfoethog. 21A ddirmygo ei gymydog, sydd yn pechu: ond y trugarog wrth y tlawd, gwyn ei fyd ef. 22Onid ydyw y rhai a ddychmygant ddrwg yn cyfeiliorni? eithr trugaredd a gwirionedd a fydd i’r sawl a ddychmygant ddaioni. 23Ym mhob llafur y mae elw: ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi. 24Coron y doethion yw eu cyfoeth: ond ffolineb y ffyliaid sydd ffolineb. 25Tyst ffyddlon a weryd eneidiau: ond y twyllodrus a ddywed gelwyddau. 26Yn ofn yr Arglwydd y mae gobaith cadarn: ac i’w blant ef y bydd noddfa. 27Ofn yr Arglwydd yw ffynnon y bywyd, i ddianc rhag maglau angau. 28Mewn amlder y bobl y mae anrhydedd y brenin: ac o ddiffyg pobl y dinistrir y tywysog. 29Y diog i ddigofaint sydd yn llawn o synnwyr: ond y dicllon ei ysbryd a ddyrchafa ynfydrwydd. 30Calon iach yw bywyd y cnawd: ond cenfigen a bydra yr esgyrn. 31Y neb a orthryma y tlawd, a gywilyddia ei Greawdydd: ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus, a’i hanrhydedda ef. 32Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni: ond y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw. 33Doethineb sydd yn gorffwys yng nghalon y call: ond yr hyn sydd yng nghalon ffyliaid a wybyddir. 34Cyfiawnder a ddyrchafa genedl: ond cywilydd pobloedd yw pechod. 35Ewyllys da y brenin sydd ar ei was synhwyrol: ond ei ddigofaint a fydd ar was gwaradwyddus.

Dewis Presennol:

Diarhebion 14: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd