Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 20

20
1Yna Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd, 2Am hynny y mae fy meddyliau yn peri i mi ateb: ac am hyn y mae brys arnaf. 3Yr ydwyf yn clywed cerydd gwaradwyddus i mi; ac y mae ysbryd fy neall yn peri i mi ateb. 4Oni wyddost ti hyn erioed, er pan osodwyd dyn ar y ddaear, 5Mai byr yw gorfoledd yr annuwiolion, a llawenydd y rhagrithwyr dros funud awr? 6Pe dyrchafai ei odidowgrwydd ef i’r nefoedd, a chyrhaeddyd o’i ben ef hyd y cymylau; 7Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom: y rhai a’i gwelsant a ddywedant, Pa le y mae efe? 8Efe a eheda ymaith megis breuddwyd, ac ni cheir ef: ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos. 9Y llygad a’i gwelodd, ni wêl ef mwy: a’i le ni chenfydd mwy ohono. 10Ei feibion a gais fodloni’r tlodion: a’i ddwylo a roddant adref eu golud hwynt. 11Ei esgyrn sydd yn llawn o bechod ei ieuenctid, yr hwn a orwedd gydag ef yn y pridd. 12Er bod drygioni yn felys yn ei enau ef; er iddo ei gau dan ei dafod; 13Er iddo ei arbed, ac heb ei ado; eithr ei atal o fewn taflod ei enau: 14Ei fwyd a dry yn ei ymysgaroedd: bustl asbiaid ydyw o’i fewn ef. 15Efe a lyncodd gyfoeth, ac efe a’i chwyda: Duw a’i tyn allan o’i fol ef. 16Efe a sugn wenwyn asbiaid: tafod gwiber a’i lladd ef. 17Ni chaiff weled afonydd, ffrydiau, ac aberoedd o fêl ac ymenyn. 18Y mae efe yn rhoddi adref yr hyn a lafuriodd amdano, ac nis llwnc: yn ôl ei olud y rhydd adref, ac heb gael llawenydd ohono. 19Am iddo ddryllio, a gado’r tlodion; ysglyfaethu tŷ nid adeiladodd; 20Diau na chaiff lonydd yn ei fol, na weddill o’r hyn a ddymunodd. 21Ni bydd gweddill o’i fwyd ef; am hynny ni ddisgwyl neb am ei dda ef. 22Pan gyflawner ei ddigonoldeb, cyfyng fydd arno; llaw pob dyn blin a ddaw arno. 23Pan fyddo efe ar fedr llenwi ei fol, Duw a ddenfyn arno angerdd ei ddigofaint; ac a’i glawia hi arno ef ymysg ei fwyd. 24Efe a ffy oddi wrth arfau haearn; a’r bwa dur a’i trywana ef. 25Efe a dynnir, ac a ddaw allan o’r corff, a gloywlafn a ddaw allan o’i fustl ef; dychryn fydd arno. 26Pob tywyllwch a fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef: tân heb ei chwythu a’i hysa ef: yr hyn a adawer yn ei luestai ef, a ddrygir. 27Y nefoedd a ddatguddiant ei anwiredd ef, a’r ddaear a gyfyd yn ei erbyn ef. 28Cynnydd ei dŷ ef a gilia: ei dda a lifa ymaith yn nydd ei ddigofaint ef. 29Dyma ran dyn annuwiol gan Dduw; a’r etifeddiaeth a osodwyd iddo gan Dduw.

Dewis Presennol:

Job 20: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda