Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 21

21
1A Job a atebodd ac a ddywedodd, 2Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd; a bydded hyn yn lle eich cysur. 3Dioddefwch fi, a minnau a lefaraf; ac wedi i mi ddywedyd, gwatwerwch. 4A minnau, ydwyf fi yn gwneuthur fy nghwyn wrth ddyn? ac os ydwyf, paham na byddai gyfyng ar fy ysbryd? 5Edrychwch arnaf, a synnwch: a gosodwch eich llaw ar eich genau. 6Minnau pan gofiwyf, a ofnaf; a dychryn a ymeifl yn fy nghnawd. 7Paham y mae yr annuwiolion yn byw, yn heneiddio, ac yn cryfhau mewn cyfoeth? 8Eu had hwy sydd safadwy o’u blaen gyda hwynt, a’u hiliogaeth yn eu golwg. 9Eu tai sydd mewn heddwch allan o ofn; ac nid ydyw gwialen Duw arnynt hwy. 10Y mae eu tarw hwynt yn cyfloi, ac ni chyll ei had; ei fuwch ef a fwrw lo, ac nid erthyla. 11Danfonant allan eu rhai bychain fel diadell, a’u bechgyn a neidiant. 12Cymerant dympan a thelyn, a llawenychant wrth lais yr organ. 13Treuliant eu dyddiau mewn daioni, ac mewn moment y disgynnant i’r bedd. 14Dywedant hefyd wrth Dduw, Cilia oddi wrthym; canys nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd. 15Pa beth ydyw yr Hollalluog, fel y gwasanaethem ef? a pha fudd fydd i ni os gweddïwn arno? 16Wele, nid ydyw eu daioni hwy yn eu llaw eu hun: pell yw cyngor yr annuwiol oddi wrthyf fi. 17Pa sawl gwaith y diffydd cannwyll yr annuwiolion? ac y daw eu dinistr arnynt hwy? Duw a ran ofidiau yn ei ddig. 18Y maent hwy fel sofl o flaen gwynt, ac fel mân us yr hwn a gipia’r corwynt. 19Duw a guddia ei anwiredd ef i’w feibion: efe a dâl iddo, ac efe a’i gwybydd. 20Ei lygaid a welant ei ddinistr ef; ac efe a yf o ddigofaint yr Hollalluog. 21Canys pa wynfyd sydd ganddo ef yn ei dŷ ar ei ôl, pan hanerer rhifedi ei fisoedd ef? 22A ddysg neb wybodaeth i Dduw? gan ei fod yn barnu y rhai uchel. 23Y naill sydd yn marw yn ei gyflawn nerth, ac efe yn esmwyth ac yn heddychol yn gwbl. 24Ei fronnau ef sydd yn llawn llaeth, a’i esgyrn yn iraidd gan fêr. 25A’r llall sydd yn marw mewn chwerwder enaid, ac ni fwytaodd mewn hyfrydwch. 26Hwy a orweddant ynghyd yn y pridd, a’r pryfed a’u gorchuddia hwynt. 27Wele, mi a adwaen eich meddyliau, a’r bwriadau yr ydych chwi yn eu dychmygu ar gam yn fy erbyn. 28Canys dywedwch, Pa le y mae tŷ y pendefig? a pha le y mae lluesty anheddau yr annuwiolion? 29Oni ofynasoch chwi i’r rhai oedd yn myned heibio ar hyd y ffordd? ac onid adwaenoch chwi eu harwyddion hwy, 30Mai hyd ddydd dinistr yr arbedir y drygionus? yn nydd cynddaredd y dygir hwynt allan. 31Pwy a fynega ei ffordd ef yn ei wyneb ef? a phwy a dâl iddo fel y gwnaeth? 32Eto efe a ddygir i’r bedd, ac a erys yn y pentwr. 33Y mae priddellau y dyffryn yn felys iddo, a phob dyn a dynn ar ei ôl ef, megis yr aeth aneirif o’i flaen ef. 34Pa fodd gan hynny y cysurwch fi ag oferedd, gan fod camwedd yn eich atebion chwi?

Dewis Presennol:

Job 21: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda