Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 19

19
1A Job a atebodd ac a ddywedodd, 2Pa hyd y cystuddiwch fy enaid? ac y’m drylliwch â geiriau? 3Dengwaith bellach y’m gwaradwyddasoch; ac nid cywilydd gennych ymgaledu i’m herbyn. 4Hefyd pe byddai wir wneuthur ohonof fi yn amryfus; gyda mi y trig fy amryfusedd. 5Yn wir os ymfawrygwch yn fy erbyn, a dadlau fy ngwaradwydd i’m herbyn: 6Gwybyddwch yn awr mai Duw a’m dymchwelodd i, ac a’m hamgylchodd â’i rwyd. 7Wele, llefaf rhag trawster, ond ni’m hatebir: gwaeddaf, ond nid oes farn. 8Efe a gaeodd fy ffordd, fel nad elwyf drosodd: y mae efe yn gosod tywyllwch ar fy llwybrau. 9Efe a ddiosgodd fy ngogoniant oddi amdanaf; ac a ddygodd ymaith goron fy mhen. 10Y mae efe yn fy nistrywio oddi amgylch, ac yr ydwyf yn myned ymaith: ac efe a symudodd fy ngobaith fel pren. 11Gwnaeth hefyd i’w ddigofaint gynnau yn fy erbyn; ac a’m cyfrifodd iddo fel un o’i elynion. 12Ei dorfoedd sydd yn dyfod ynghyd, ac yn palmantu eu ffyrdd yn fy erbyn, ac yn gwersyllu o amgylch fy mhabell. 13Efe a bellhaodd fy mrodyr oddi wrthyf, a’r rhai oedd yn fy adnabod hefyd a ymddieithrasant oddi wrthyf. 14Fy nghyfnesaf a ballasant, a’r rhai oedd o’m cydnabod a’m hanghofiasant. 15Y rhai oedd yn trigo yn fy nhŷ, a’m morynion, sydd yn fy nghyfrif yn ddieithr: alltud ydwyf yn eu golwg. 16Gelwais ar fy ngwasanaethwr, ac nid atebodd; ymbiliais ag ef â’m genau. 17Dieithr oedd fy anadl i’m gwraig, er ymbil ohonof â hi er mwyn fy mhlant o’m corff. 18Plant hefyd a’m diystyrent: cyfodais, a dywedasant i’m herbyn. 19Fy holl gyfrinachwyr sydd yn fy ffieiddio: a’r rhai a gerais a droesant yn fy erbyn. 20Fy esgyrn a lynodd wrth fy nghroen, ac wrth fy nghnawd; ac â chroen fy nannedd y dihengais. 21Trugarhewch wrthyf, trugarhewch wrthyf, fy nghyfeillion; canys llaw Duw a gyffyrddodd â mi. 22Paham yr ydych chwi yn fy erlid i fel Duw, heb gael digon ar fy nghnawd? 23O nad ysgrifennid fy ngeiriau yn awr! O nad argreffid hwynt mewn llyfr! 24O nad ysgrifennid hwynt yn y graig dros byth â phin o haearn ac â phlwm! 25Canys myfi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw, ac y saif yn y diwedd ar y ddaear. 26Ac er ar ôl fy nghroen i bryfed ddifetha’r corff hwn, eto caf weled Duw yn fy nghnawd: 27Yr hwn a gaf fi i mi fy hun ei weled, a’m llygaid a’i gwelant, ac nid arall; er i’m harennau ddarfod ynof. 28Eithr chwi a ddylech ddywedyd, Paham yr erlidiwn ef? canys gwreiddyn y mater a gaed ynof. 29Ofnwch amdanoch rhag y cleddyf: canys y mae digofaint yn dwyn cosbedigaethau y cleddyf, fel y gwybyddoch fod barn.

Dewis Presennol:

Job 19: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda